Gramadeg Einion Offeiriad

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Gramadeg Einion Offeiriad yw'r ymgais Gymraeg gyntaf y gwyddys amdani gyda sicrwydd i geisio cyfundrefnu cerdd dafod. Fe'i tadogir ar Einion Offeiriad, sef clerigwr a bardd a flodeuai, fe dybir, yn ystod hanner cyntaf y 14g. Roedd hwn yn gyfnod pwysig yn hanes ein llenyddiaeth gan mai dyma'r cyfnod rhwng Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr. Cysylltir y gramadeg hefyd â Dafydd Ddu Athro o Hiraddug, a thybir iddo ef olygu gramadeg a fodolasai eisoes. Tybiai Syr John Morris-Jones mai Einion a'i lluniodd yn gyntaf, rywbryd ar ôl 1322, ac y bu i Ddafydd ei olygu a'i helaethu'n ddiweddarach.

Y testun[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir pedair prif ffynhonnell ar gyfer y gramadeg yn y llawysgrifau. Fe'u dynodir gan A, B, C a D gan Syr John Morris-Jones yn ei ramadeg ef, Cerdd Dafod (1925), sef fel a ganlyn:

A: Llyfr Coch Hergest, c.1400, colofnau 1117-1142, sy'n cychwyn â'r geiriau:[1]
Pedeir llythyren arhugeint kymraec yssydd. Nyt amgen.
B: Llsgr. Llanstephan 3, tua'r un cyfnod, dalennau 472-504, sy'n cychwyn â'r geiriau:
Kerddwryaeth kerdd dauawt yw hynn.
C: Llsgr. Peniarth 20, c.1440, tud. 305-350, anghyflawn.[2]
D: Llsgr. Bangor 1, llawysgrif gynharach na 1440, anghyflawn ac amherffaith.

Noda Thomas Parry yn Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 fod y copi cynharaf sydd ar gael heddiw yn waith a luniwyd rhwng 1350 a 1400[3]. Mae'n debygol mai addasiad ydyw o ramadeg Lladin a fodolasai eisoes. Priodolir y gwaith hwn i Ddwned (Lladin: Donatus) a Phriscian.

Ni chyffyrddir â'r gynghanedd fel cyfundrefn yn y gramadeg. Cynhwysa'r gramadeg draethawd ar y llythrennau, sillafau, elfennau gramadeg, mydryddiaeth, y beiau gyda thrioedd cerdd.

Defnyddia Einion enghreifftiau o waith y Gogynfeirdd olaf a beirdd cynnar y 14g i gefnogi ei ddisgrifiadau o'r mesurau. Dyma rai beirdd y dyfynnir peth o'u gwaith o fewn y gramadeg:

ac Einion ei hun.

Ceir cyfeiriad at Einion fel awdur y gramadeg mewn nodyn ar un o'r llawysgrifau gan Robert Vaughan o'r Hengwrt:

Llyfr Kerddwriaeth a wnaeth Einion Effeiriad o Wynnedd i Syr Rys ap Gruff.[udd] ap Howel ap Gruff. ap Ednyfed Vychan yr ynrydedd a moliant iddo ef.

Argraffwyd peth o'r gwaith dan olygiad Ab Ithel gan y Welsh Manuscripts Society yn 1856 o dan y teitl anghywir Dosparth Edeyrn Dafod Aur ond y mae'n ffynhonnell lwgr gan fod ffugiadau Iolo Morganwg andwyo'r llawysgrif y cymerwyd y testun ohoni.[4]

Yn dilyn gwaith Einion a Dafydd, cafwyd nifer o ymgeisiadau i gyfundrefnu cerdd dafod.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]