Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Nanhyfer"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 15 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
+
B (robot Ychwanegu: ca:Nanhyfer)
(+)
Pentref bychan yn [[Sir Benfro]] yw '''Nanhyfer''' neu '''Nyfer''' ([[Saesneg]]: ''Nevern''). Saif gerllaw [[Afon Nyfer]] gerllaw bryniau [[Preseli]].
 
Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant [[Brynach Wyddel|Brynach]]; a chredir bod yr eglwys bresennol, sy'n dyddio o'r cyfnod Normanaidd ond wedi ei hail-adeiladu'n helaeth, ar safle clas Brynach yn y [[6ed ganrif]]. Yn y fynwent mae [[Croes Geltaidd]] yn dyddio o'r [[10fed ganrif]] neu ddechrau'r [[11eg ganrif]]. Gerllaw mae carreg gyda'r arysgrif [[Lladin|Ladin]] "VITALIANI EMERTO" ac mewn [[Ogam]] "vitaliani". Yn yr eglwys mae maen arall gyda'r arysgrif "MAGLOCUNI FILI CLUTORI" mewn Lladin a "maglicunas maqi clutar.." mewn Ogam. Credir bod y garreg yma yn dyddio o'r [[5ed ganrif|5ed]] neu'r [[6ed ganrif]]. Roedd yr hynafiaethydd [[George Owen]] yn frodor o Nanhyfer, ac mae wedi ei gladdu yma.
 
Rhyw 150 medr i'r gogledd-orllewin o'r eglwys mae gweddillion [[Castell Nanhyfer]], a adeiladwyd gan [[Robert fitz Martin]] tua [[1108]]. Dinistriwyd y castell gan y Cynry yn [[1136]]. Yn ddiweddarach cafodd ei fab, William fitz Martin, y castell yn ôl pan briododd ferch [[Rhys ap Gruffydd]], ond tua [[1189]] gyrrodd Rhys ef ohono.
156

golygiad

Llywio