Cilgerran: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 200px|bawd|[[Castell Cilgerran : y tŵr gorllewinol a'r bont fynediad i'r cwrt mewnol]] Mae '''Cilgerran''' yn bentref yng ngogledd Sir Benfro, g...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:16, 23 Medi 2007

Castell Cilgerran : y tŵr gorllewinol a'r bont fynediad i'r cwrt mewnol

Mae Cilgerran yn bentref yng ngogledd Sir Benfro, ger Aberteifi. Saif y pentref ar lethrau deheuol Dyffryn Teifi gyferbyn â Llechryd. Mae ffyrdd yn ei gysylltu ag Aberteifi a Llechryd i'r gogledd ac Abercuch a Chastell Newydd Emlyn i'r dwyrain.

Yn ymyl y pentref ceir adfeilion Castell Cilgerran, castell Normanaidd o'r 13eg ganrif. Saif y castell ar drwyn o graig uwchlaw afon Teifi. Credir mai castell mwnt a beili a godwyd ar y safle yn wreiddiol tua'r flwyddyn 1100. Mae'r castell carreg presennol yn dyddio o ddechrau'r 13eg ganrif.


Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.