Llandegla-yn-Iâl
Pentref, plwyf a chymuned yn ne-ddwyrain Sir Ddinbych yw Llandegla-yn-Iâl neu Llandegla. Fe'i lleolir ar groesffordd ar lôn yr A525, tua hanner ffordd rhwng Dinbych a Wrecsam. Enwir y pentref a'r plwyf ar ôl Sant Tegla.
Hanes [golygu]
Yn yr Oesoedd Canol, roedd Llandegla yn gorwedd yng nghwmwd Iâl, yn nheyrnas Powys, a dyna sut y cafodd ei enw.
Tua'r flwyddyn 1149, codwyd castell mwnt a beili Tomen y Rhodwydd gan Owain Gwynedd, tua milltir a hanner i'r de-orllewin o safle'r pentref heddiw.
Mae adeilad yr eglwys bresennol yn dyddio o 1866 pan ailadeiladwyd yr hen eglwys ganoloesol bron yn llwyr. Gerllaw ceir Ffynnon Tegla a ystyrid yn ffynnon sanctaidd, iachaol.
Enwogion [golygu]
- Edward Tegla Davies. Ganed y llenor yn y pentref yn 1880, yn fab i chwarelwr. Mae'r pentref a'r cylch yn gefndir ac ysbrydoliaeth i nifer o'i gyfrolau, gan gynnwys ei ysgrifau cofiannol yn y llyfrau Y Foel Faen a Rhyfedd o Fyd ac yn yr hunangofiant Gyda'r Blynyddoedd.
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryn Saith Marchog · Bryneglwys · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Corwen · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Dinbych · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla-yn-Iâl · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanelwy · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangollen · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prestatyn · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion