Cas-blaidd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Casblaidd)
Neidio i: llywio, chwilio
Capel Penybont, Casblaidd.
Castell mwnt a beili Casblaidd, y 'Castell y Blaidd' gwreiddiol.

Pentref yng nghanolbarth Sir Benfro yw Cas-blaidd[1] neu weithiau hefyd Casblaidd (Saesneg: Wolf's Castle neu Wolfscastle). Saif ar y briffordd A40, tua hanner y ffordd rhwng Abergwaun a Hwlffordd, lle mae Afon Anghof yn llifo i mewn i Afon Cleddau Ddu. Mae'r pentref mewn dwy ran, Cas-blaidd ei hun a Penybont yr ochr draw i Afon Anghof.

Hanes[golygu]

Ceir castell mwnt a beili yma a godwyd yng nghyfnod y Normaniaid. Dyma'r "Castell y Blaidd" yr enwir y pentref ar ei ôl. Cafwyd hyd i olion fila Rufeinig ger y pentref.

Yn ôl y chwedl leol, yma y lladdwyd y blaidd olaf yng Nghymru, ond nid ymddengys fod tystiolaeth o hyn. Mae'n bosibl ei bod yn chwedl i esbonio'r enw lle.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cas-blaidd (pob oed) (642)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cas-blaidd) (187)
  
30.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cas-blaidd) (407)
  
63.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Cas-blaidd) (79)
  
30.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Gasblaidd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Defnyddir sillafiad safonol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008; tud 549
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: