Seren Gomer

Oddi ar Wicipedia
Seren Gomer
Enghraifft o'r canlynolpapur wythnosol, cyhoeddwr, gwasg Edit this on Wikidata
GolygyddSamuel Evans, Joseph Harris, David Davies Evans Edit this on Wikidata
CyhoeddwrDavid Jenkin Edit this on Wikidata
Rhan oPapurau Newydd Cymreig Ar-lein Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1 Ionawr 1814 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiAbertawe Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
SylfaenyddJoseph Harris Edit this on Wikidata
Rhifyn cyntaf o Seren Gomer 1 Ionawr, 1814

Mae Seren Gomer yn gylchlythyr misol sy'n cael ei gyhoeddi gan Gapel Gomer, Abertawe.

Seren Gomer oedd y papur newydd wythnosol cyntaf i'w gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ar 1 Ionawr 1814 yn Abertawe[1].

Cyhoeddwr Seren Gomer oedd Joseph Harris (Gomer), oedd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr yn Abertawe. Roedd yn cynnwys newyddion o Gymru a thramor, ac eitemau llenyddol. Daeth y rhediad gyntaf i ben ar ôl 85 rhifyn, yn rhannol oherwydd y dreth uchel ar newyddiaduron a diffyg incwm o hysbysebion.

Pan bu farw Joseph Harris yn 52 oed ym 1825, gwerthwyd y papur i gyhoeddwr yng Nghaerfyrddin a daeth yn gylchgrawn chwarterol i'r Bedyddwyr. Parhaodd y cylchgrawn ar y ffurf hwn tan 1983.

Ail-gychwynwyd cyhoeddi Seren Gomer ar ffurf cylchlythyr digidol misol gan Gapel Gomer ar 12 Chwefror 2018.

Darllen ar-lein[golygu | golygu cod]

Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido ac ar wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Blitz destroyed chapel Gwefan Thisissouthwales.co.uk 24-06-2011
  2. "Seren Gomer". Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Cyrchwyd 31 Hydref 2023.