Rhyfel Chwe Diwrnod
| Delwedd:Guèrra dei Sièis Jorns.png, צנחנים בכותל המערבי.jpg | |
| Enghraifft o: | rhyfel |
|---|---|
| Rhan o | Gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd |
| Dechreuwyd | 5 Mehefin 1967 |
| Daeth i ben | 10 Mehefin 1967 |
| Rhagflaenwyd gan | Argyfwng Suez |
| Olynwyd gan | y Rhyfel Athreuliol |
| Lleoliad | Y Dwyrain Canol |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0784z |

Ymladdwyd y Rhyfel Chwe Diwrnod (Hebraeg: מלחמת ששת הימים, Milhemet Sheshet Ha‑Yamim; Arabeg: حرب الأيام الستة, ħarb al‑ayyam as‑sitta), a elwir hefyd yn "Rhyfel Israel-Arabaidd 1967", y Trydydd Rhyfel Arab-Israelaidd, Rhyfel Mehefin, neu an‑Naksah yn Arabeg ("Yr Atalfa"), rhwng Israel a'r gwladwriaethau Arabaidd yr Aifft, Gwlad Iorddonen, Irac, a Syria. Mae'r rhyfel hwn yn rhan o'r Gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd.
Cynyddai'r tensiynau rhwng Israel a'i chymdogion Arabaidd ar ddechrau 1967. Pan orfodwyd Llu Argyfwng y Cenhedloedd Unedig gan yr Aifft i adael gorynys Sinai, gan gynyddu ei gweithgareddau milwrol ger y ffin ag Israel a gwrthod mynediad i longau Israelaidd a geisiai fynd i Gulfor Tiran (ger Aqaba). Lansiodd Israel gyrch milwrol rhagflaenol ar lu awyr yr Aifft am ei bod yn ofni ymosodiad buan o du'r Aifft. Yn ei thro ymosododd Gwlad Iorddonen ar ddinasoedd Israelaidd Jerwsalem a Netanya. Erbyn diwedd y rhyfel roedd Israel wedi cipio Llain Gaza, gorynys Sinai, y Lan Orllewinol, ac Ucheldiroedd Golan. Mae canlyniadau'r rhyfel tyngedfennol hwnnw yn effeithio ar wleidyddiaeth y Dwyrain Canol hyd heddiw.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Tudalennau â dolenni ffeil sydd wedi'u torri
- Egin hanes
- 1967
- Hanes yr Aifft
- Hanes Gwlad Iorddonen
- Hanes Irac
- Hanes Israel
- Hanes Palesteina
- Hanes Syria
- Gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd
- Rhyfeloedd yr 20fed ganrif
- Rhyfeloedd y Dwyrain Canol
- Rhyfeloedd yr Aifft
- Rhyfeloedd Israel
- Rhyfeloedd Gwlad Iorddonen
- Rhyfeloedd Irac
- Rhyfeloedd Syria