Wicipedia:Y Caffi/archif/19
Diwrnod sganio lluniau
[golygu cod]Bydd diwrnod o sganio lluniau yn Awelon, Rhuthun ddydd Sadwrn y 12fed o Orffennaf rhwng 9.00 a 4.00; piciwch draw efo'ch hen ffotograffau ac i ddweud "Helo!" Robin Owain (WMUK) (sgwrs) 09:39, 3 Gorffennaf 2014 (UTC)
- Syniad gwych am ddiwrnod, a ceisiaf hel fy rhieni draw gyda unrhyw beth diddorol. Fel bod modd rhoi dolen ato ar Twitter/Facebook, oes modd creu tudalen (is dudalen o dan broseict Llwybrau Byw o bosib) gyda bach mwy o fanylion (enghraifft o'r math o luniau hoffech weld/oes prinder o ddelweddua lleol, dolen sy'n esbonio beth ddigwyddith i'r delweddau). Mi wna innau wedyn ailbostio ar wefan Cymdeithas Wici Cymru/Haciaith / trio cael Menter Iaith Sir Ddinbych a Fama i aildrydar y peth.--Rhyswynne (sgwrs) 12:40, 6 Gorffennaf 2014 (UTC)
- Ti'n llawn syniadau da fel arfer Rhys! Amser sydd ei angen i greu dalen! Mi driai greu eginyn yn nes ymlaen. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:41, 8 Gorffennaf 2014 (UTC)
Lluniau Dinoeth
[golygu cod]Wedi bod yn chwilio ar Wicipidia heddiw am wybodaeth am Arlywyddion yr UDA o dras Gymreig, ac wedi cael fy siomi'n arw. Fe ymddengys bod naill ai llwyth o luniau di dod i'r fei a bod y lluniau wedi eu gosod ar y safle heb wybodaeth gefndirol, neu fod ymgyrch wedi bod i gynyddu nifer yr erthyglau, heb roi cig a gwaed ar yr erthyglau.
Mae'r naill a'r llall yn gwneud ffŵl o Wicipidia a'r Gymraeg. Diwerth i'r Iaith a'r safwe yw erthyglau un llinell - heb fod awdur yr un llinell yn bwriadu creu erthygl fwy swmpus ym mhen y rhawg. Mae'r erthyglau am arlywyddion UDA yn hir a chymhleth ar Wicipidia Saesneg, a gellir creu can erthygl am unigolyn / digwyddiad Cymreig yn yr amser cymerir i gyfieithu un erthygl Saesneg i fod yn gydymaeth i lun John Quincy Adams, er engraifft.
Ond gai awgrymu Wici Simple English fel lle i grybwyll mwy nag un llinell i'r sawl sy'n ategu lluniau heb erthygl neu sydd a'u bryd ar gynyddu "rhif yr erthyglau" yn hytrach na jest creu penawdau heb gynnwys difyr?
Cwlwm Wici-Geltaidd yn Wicimania
[golygu cod]Fel y gwyddoch mae Wicimania yn Llundain rhwng 7 - 10 Awst (ac yn gwrthdaro efo'r Steddfod!) Os 'da chi awydd dod draw, gwnewch gais am nawdd i helpu efo'ch costau teithio ac aros. Wici-ebostiwch fi gyda chais byr. Sylwch hefyd y bydd y wici-gyfarfod cyntaf yno, ar y dydd Sadwrn a wici-gyfarfod o ieithoedd llai rywbryd yn ystod y penwythnos. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:41, 8 Gorffennaf 2014 (UTC)
- Cyflwyniad gan y Llydawr yn Nicolas VIGNERON yn fama. Swnio'n ddiddorol iawn - gyda gwersi ar gyfer wici cy! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:30, 9 Gorffennaf 2014 (UTC)
Gwregys neu Groes sy gan Orion?
[golygu cod]Hoffwn gael eich barn ar y term safonol am Orion's Belt yn Gymraeg. Gweler Sgwrs:Y Groes Fendigaid (=Gwregys Orion) os gwelwch yn dda. Anatiomaros (sgwrs) 00:39, 16 Gorffennaf 2014 (UTC)
Albymau sain
[golygu cod]Mae llawer ohonom yn y gorffennol wedi datgan mor bwysig yw bod Wicipedia Cymraeg yn adlewyrchu ein arwahanrwydd ni fel cenedl, a'n hawl i greu ein Polisiau ein hunain, cyn belled a'u bônt yn hyrwyddo cynnwys agored, rhydd. Ceir dolen i brif ddalen ein Polisiau yma. 'Da ni yn y broses o uwchlwytho llawer o lyfrau a gyhoeddwyd yng Nghymru ers 1996, diolch i Gyngor Llyfrau Cymru; ceisiwyd tacluso'r data cyn greu'r erthyglau, a dim ond samplau'n unig o lyfrau plant bach a ddefnyddiwyd; ceisiwyd hefyd peidio a chreu erthygl ar adargraffiadau, oni bai fod yr argraffiad ei hun yn ffitio'r polisi Amlygrwydd. Sain: ceir sawl categori ar cy o albymau sain e.e. [[Categori:Albymau'r 21ain ganrif]] a [[Categori:Albymau Cymraeg]]. Ar hyn o bryd mae ein Polisi Amlygrwydd, yn fy marn i, yn rhy negyddol, a charwn iddo fod yn debycach i'n polisi ar lyfrau. Hynny yw, fod pob albwm yn haeddu ei le ar cy, oni bai ei fod yn ail-bobiad. Fel rydym yn ei wneud efo llyfrau, byddai'n wych derbyn mai'r 'default' fyddai - creu erthygl, ac yna gadael i'r gymuned ei dileu os ydyn nhw'n ailgyhoeddiad neu fod rheswm arall dilys. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:17, 18 Gorffennaf 2014 (UTC)
Authority control
[golygu cod]The English (and many other) Wikipedias use "Authority Control" identifiers like VIAF, ORCID, and several others, which help us to disambiguate people with the same name, and to be sure that the subject is the same person as that referred to in other sources. The main tool for doing this is en:Template:Authority control. I'd be happy to advise on its implementation here, if somone who speaks Welsh (and unsderstands templates) will work with me. Pigsonthewing (sgwrs) 13:53, 18 Gorffennaf 2014 (UTC)
- Great; see email. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:24, 18 Gorffennaf 2014 (UTC)
- Be gawn ni fel enw Cymraeg? Mae'r Saesneg yn amwys yn fy marn i, a'r cyfieithiad lythrennol yn waeth. Beth am: Rheolaeth enw unigryw? Awdurdod unigryw? neu a oes term yn bodoli ym myd y llyfrgelloedd? Dw i newydd drydar i ofyn! Sylwch mai un gair sydd gan y Cataloniaid: Autoritat. Robin Owain (WMUK) (sgwrs) 09:31, 15 Hydref 2014 (UTC)
- Yn bersonol dwy ddim yn gweld ffordd o osgoi'r amwysedd; beth am reolaeth awdurdod (nid Awdurdod Rheolaeth)?
- Fi oedd yr uchod; mae'n debyg i mi anghofio llofnodi—ymddiheuriadau am hynny. Rwy wedi symud y dudalen i Rheolaeth awdurdod, am mai cyfieithiad o "control authority" (be bynnag fyddai hynny) ydy "Awdurdod Rheolaeth". Ham (sgwrs) 11:52, 30 Tachwedd 2014 (UTC)
- Diolch Ham! Os mai cyfieithu'r term sydd ei angen yna, ti'n iawn. Os mai eglurhad sydd i angen yna byddai 'Dynodwr unigryw safonol' yn well. Mae yma amwysedd yn sicr, yn y Saesneg hefyd. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:29, 1 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Fel man cychwyn, ychwanegais erthygl ar Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, Rhithwir; byddai ehangu erthyglau tebyg yn beth da, dw i'n meddwl. Yng Ngorffennaf ychwanegais y Nodyn {{Authority control}} i'r erthygl ar Saunders Lewis ac yna ychwanegu'r Nodion perthnasol. Mae'r rhain, bellach i'w gweld yn gweithio. Ychwanegais y côd (diolch Pigsonthewing!) fel na cheir gwall os yw'n cael ei hychwanegu i erthygl sydd heb erthygl gyfatebol ar Wicidata. Gellir gweld yr erthygl hyn ar John Jones (Mathetes). Mae hyn, felly'n, caniatau i ni (os dymunwn) ychwanegu'r templad {{Authority control}} i bob bywgraffiad dan haul ar y Wicipedia Cymraeg. Robin Owain (WMUK) (sgwrs) 12:10, 15 Hydref 2014 (UTC)
- Newydd roi canllaw ar sut i ychwanegu gwybodaeth yn yr Adran Gymorth; gweler Wicipedia:ORCID. Robin Owain (WMUK) (sgwrs) 13:34, 15 Hydref 2014 (UTC)
- Mae pethau'n dechrau disgyn i'w lle; y prif gategori (anweledig ar yr erthyglau) ydy Categori:Tudalennau gyda gwybodaeth Awdurdod. Be sydd ei angen rwan ydy'r term Cymraeg am "Authority Control". 'Awdurdod' yn unig sydd ar y Catalaneg. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:47, 16 Hydref 2014 (UTC)
Mae BOT-Twm Crys wedi ychwanegu ymhell dros 8,500 o Nodion, dros nos. Mae {{Authority Control}} ar yr erthyglau, bellach, yn gwneud i'r Nodyn canlynol ymddangos:
Gweler Alex Salmond er enghraifft. Os nad yw'r person wedi'i ychwanegu at Wicidata, yna nid yw'r Nodyn yn ymddangos. Felly, does dim wedi'i golli. Chwaneg o fanylion ar yr erthygl Awdurdod Rheolaeth. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:37, 8 Tachwedd 2014 (UTC)
Cader Idris
[golygu cod]Yn dilyn fy ymdrech i ychwanegu gwybodaeth at y dudalen Cadair Idris, gofynnaf am eich barn ynglŷn â defnyddio Geiriadur Ysgrythyrol Thomas Charles i ychwanegu diffiniad gair - sef 'cader'. Dyfynnaf o’r geiriadur hwnnw: CADAIR, CADER -EIRIAU. (cad) Gr. (cathedra) ; eisteddfa eisteddfa gyffredin ; amddiffynfa, caer, cadarnle – Cader ymadrodd, areithfa; cader buwch, pwrs buwch. Y mae amryw fryniau amddiffynedig yn cadw yr enw Cader ; megys Cader Dinmael, Cader Idris, &c. –Cader Moses, yr ydoedd y Phariseaid yn chwennych eistedd ynddi i farnu a llywodraethu y bobl, fel Moses ............... ApGlyndwr (sgwrs) 10:12, 19 Gorffennaf 2014 (UTC)
- Ar Dudalen Sgwrs yr erthygl ei hun y dylid trafod hyn. Mi wnes i ddileu'r geiriau yn berffaith gywir yn y Gymraeg o'r frawddeg agoriadol: Un o fynyddoedd enwog gogledd Cymru yw Cadair Idris (Cader Idris ar lafar yn lleol, ac yn berffaith gywir yn y Gymraeg). gan nad oes mo'i angen. 'Da ni eisioes wedi cydnabod y ffurf leol 'cader' a hynny mewn ffont amlwg (bold). Newidiais hefyd y gair 'cader' i 'cadair' yng nghorff yr erthygl gan ein bod eisioes wedi defnyddio'r ffurf leol, a bod y gair cenedlaethol yn fwy dealladwy. Dydy Gwyddoniadur Cymru (2008) ddim yn ei ddefnyddio o gwbwl - ar wahan i nodi teitl hen lun gan Richard Willson (c. 1765). 'Da ni wedi mynd cryn dipyn pellach na hynny! Dydy Geiriadur Prifysgol Cymru ddim chwaith yn ei ddefnyddio. Defnyddid 'kadeir' ers canrifoedd, ond dim ond yn y 15ed ganrif mae 'cader' yn ymddangos yn y rhestr o wahanol ffurfiau ers y 12fed ganrif. Mae 'cadar' hefyd yn air tafodieithol, ond enwau cenedlaethol, safonol ddylid ei ddefnyddio ar Wicipedia, yn gyffredinol. Wyt ti ddim yn cytuno? O ran Geiriadur Ysgr. Thomas Charles, dw i'n siwr fod na gyfoeth hanesyddol ynddo, ond mae GPC ar frig y rhestr, yn fwy modern, dealladwy ac yn dilyn orgraff yr hybarch JMJ. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:41, 19 Gorffennaf 2014 (UTC)
- Rhaid cytuno ag ApGlyndwr. Mae'r enw Cadair Idris yn perthyn i'r traddodiad Rhaeadr Ewynnol - Swallow Falls - Rhaeadr y Wennol; Dyffryn Oer - Golden Valley - Dyffryn Aur ac ati. Glywes i neb erioed yn cyfeirio at y mynydd fel Cadair Idris cyn i ddylanwad y Sais troi Cader Idris yn - Idris' Chair - Cadair Idris. Nid "tafodiaith" leol sydd yn gyfrifol chwaith Cader Ifan Goch sydd ger Llanrwst, Cefn y Gader sydd ger Riwabon; Llyn y Gader sydd yng ngherdd TH P-W ac ati! Cader Idris yw enw'r mynydd a naw wfft i ysgolheigion unrhyw brifysgol sy'n honni'n wahanol! AlwynapHuw (sgwrs) 07:21, 8 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Gyda llaw Defnyddiwr:Llywelyn2000 Owain Owain oedd un o'r cyntaf imi glywed yn cwyno bod defnyddio Cadair Idris yn hytrach na Chader Idris yn enghraifft o Seisnigeiddio dan din ar enwau traddodiadol Cymraeg.AlwynapHuw (sgwrs) 07:51, 8 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Fedrwn ni ddim defnyddio hynny fel cyfeiriad, ysywaeth! Oes na unrhyw beth ar gofnod? Er enghraifft, trafodaeth yn 'Y Dydd', y Cymro neu arall? Dw'n disgwyl ebost gan olygyddion Geiriadur y Brifysgol - er, cofia, does dim raid i ni lynnu at eu barn nhw. @Anatiomaros ? —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Llywelyn2000 (sgwrs • cyfraniadau) 06:41, 9 Rhagfyr 2014 2014 (UTC)
- Gan ein bod wedi cychwyn trafodaeth ar Wicipedia, credaf yn gryf bod nifer o arbenigwyr y Gymraeg yn drysu erbyn hyn ynglŷn â dilysrwydd y defnydd diweddar o Cadair yn lle Cader mewn enwau lleoedd. Tybed mai ar Wicipedia y dylid gwneud y penderfyniad - wedi’r cwbl, mae’n gyhoeddiad cystal ag unrhyw lyfr ysgolheigaidd? Awgrymaf y dylid cymryd agweddau AlwynapHuw ac apGlyndwr o ddifrif, a chwilio amdanynt ar y tudalennau sgwrs yn y Wikipedia Saesneg a Chymraeg. ApGlyndwr (sgwrs) 10:10, 9 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Doedd dim bwriad i'r sylwadau 07:51, 8 Rhagfyr 2014 (UTC) bod yn gyfeiriad maent yr hyn ydynt, yn ddim amgenach na sylw mewn trafodaeth gyfeillgar rhwng defnyddwyr y Caffi ar bwnc difyr; ond mae dy sylwadau yn codi cwestiwn diddorol parthed ffynonellau - Mae'r drafodaeth hon yn un gyhoeddus, mae'n cael ei harchifo ac fe fydd (am wn i) yn bodoli tra pery'r we. Onid ydy'r trafod hwn yn gystal ffynhonnell a thrafodaeth ar flog, ar Maes-E, ar Radio Cymru, yng ngholofn llythyrau'r papur lleol ac ati (pethau sydd yn cael eu dyfynnu fel ffynonellau ar Wicipedia a thraethodau academaidd)? HY mae 'na brawf pendant yn trafod Caffi Wicipedia bod anghydfod yn bodoli parthed Cader / Cadair a bod (dau o leiaf) o hogiau Dolgellau yn cynddeiriogi clywed y term "Cadair Idris". Pa gyfeiriad amgenach sydd ei angen? (Ac mae angen fordd amgen nar ff--~ cyrls na i arwyddo ar Wicipedia hefyd!) AlwynapHuw (sgwrs) 05:58, 10 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Dwn i'm os ydy Cader yn help? Llywelyn2000 (sgwrs) 09:01, 10 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Diolch am gymryd y ddadl o ddifrif. Gobeithiaf weld eraill yn cyfrannu'n gall. Gyda llaw, treuliais fy mhlentyndod yn ardal Ty'n-y-berth, Corris Uchaf, a hoffwn ychwanegu mai cadar ydy'r ffurf dafodieithol yno ar gyfer cadair- nid cader. Mae hyn yn wir am rannau helaeth o Wynedd. Mae'n rhaid gwrando yn y de am ddefnydd o cader mewn tafodiaith. (A Welsh Grammar, Phonology and Accidence, J Morris Jones MA, Oxford Clarendon Press, tud.8) Felly anghywir ydy awgrymu mai tafodiaith leol sy'n gyfrifol am y defnydd o'r gair cader.ApGlyndwr (sgwrs) 11:26, 10 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Diolch gennyf innau hefyd Llywelyn2000 am gymryd y ddadl o ddifrif. Mae'r dudalen yn gyfaddawd da, ond i fod yn gignoeth ni fyddwyf yn fodlon hyd fydd Cader Idris yn brif bennawd a Chadair Idris yn ailgyfeirio. Wedi bod yn chwilio am ffynonellau i gefnogi dadl ApGlyndwr a mi rhaid cydnabod bod diffyg cywirdeb mewn un o'm sylw uchod parthed Cader Idris - Idris' Chair - Cadair Idris! Cader Idris - Arthur's Seat - Cadair Idris yw'r drefn yn ôl un o ysgolheigion mwyaf ein cenedl ar draddodiad Llen Gwerin, Syr John Rhŷs, (Gweler Celtic Folkelore Welsh and Manx Cyf 1 T 203). Mae Syr John yn honni bod Arthur a'i "seat /cadair" yn perthyn i ymgais masnachol gan y cwmnïau twristaidd i ddenu ymwelwyr yn y 19 ganrif!AlwynapHuw (sgwrs) 04:04, 11 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Mae tudalen â phennawd Cader ar Wikipedia Saesneg yn cyfeirio at bentref yn Ninbych. Go brin y byddwch yn ystyried newid hwnnw i Cadair? Byddai pentref o’r enw Chair yn ddigon chwerthinllyd i’r Sais!ApGlyndwr (sgwrs) 10:48, 12 Rhagfyr 2014 (UTC)
Help for translate
[golygu cod]Hello and sorry for writing in English. Can anyone help me translate a small article (2 paragraphs) from English to your language? Please, fell free to answer in my talk page in your wiki anytime. Thanks! Xaris333 (sgwrs) 19:19, 12 Awst 2014 (UTC)
Letter petitioning WMF to reverse recent decisions
[golygu cod]The Wikimedia Foundation recently created a new feature, "superprotect" status. The purpose is to prevent pages from being edited by elected administrators -- but permitting WMF staff to edit them. It has been put to use in only one case: to protect the deployment of the Media Viewer software on German Wikipedia, in defiance of a clear decision of that community to disable the feature by default, unless users decide to enable it.
If you oppose these actions, please add your name to this letter. If you know non-Wikimedians who support our vision for the free sharing of knowledge, and would like to add their names to the list, please ask them to sign an identical version of the letter on change.org.
-- JurgenNL (talk) 17:35, 21 Awst 2014 (UTC)
Process ideas for software development
[golygu cod]’’My apologies for writing in English.’’
Hello,
I am notifying you that a brainstorming session has been started on Meta to help the Wikimedia Foundation increase and better affect community participation in software development across all wiki projects. Basically, how can you be more involved in helping to create features on Wikimedia projects? We are inviting all interested users to voice their ideas on how communities can be more involved and informed in the product development process at the Wikimedia Foundation. It would be very appreciated if you could translate this message to help inform your local communities as well.
I and the rest of my team welcome you to participate. We hope to see you on Meta.
Kind regards, -- Rdicerb (WMF) talk 22:15, 21 Awst 2014 (UTC)
--This message was sent using MassMessage. Was there an error? Report it!
Wikitongues
[golygu cod]Dyma brosiect sydd yn creu cofnod o fideos o bobl yn siarad ieithoedd gwahanol, gyda'r amcan o gofnodi pob un o 7000 ieithoedd y byd yn y oen draw. Hyd y gwelaf nid oes fideo Cymraeg, felly a hoffai rhywun gyfrannu fideo o'i hunan yn siarad Cymraeg fel bod modd i weddill y byd gael clywed goslefau'n hyfryd iaith? Dim ond rhaid i chi uwchlwytho fideo o'ch hunan yn siarad Cymraeg pêr, croyw i'w sianel Youtube. Dyma ddolen i'w sianel Youttube: https://www.youtube.com/user/WikiTongues —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan 2.24.96.170 (sgwrs • cyfraniadau) 12:54, 31 Awst 2014 (UTC)
- Prosiect gwych, syniad gwych - gwych hefyd pe baet yn ei wneud, ar ein rhan! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:12, 31 Awst 2014 (UTC)
Wiki Loves Monuments
[golygu cod]Mae'r gystadleuaeth wedi agor heddiw. Y llynedd, uwchlwythwyd bron i 2,000 o ffotograffau o Gymru (ail o blith gwledydd Prydain!). Mae'r ap Cymraeg ar y we ar gael os ydych yn dymuno tynnu lluniau efo'ch ffôn llaw. Gwerthfawrogir unrhyw gymorth i gyfieithu tudalen neu ddwy ar wefan WLM. Robin Owain (WMUK) (sgwrs) 16:23, 1 Medi 2014 (UTC)
- Mae'r dudalen uwchlwytho yma ac os carech weld canlyniadau'r gwledydd yna cliciwch yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:26, 9 Medi 2014 (UTC)
Cynnig newid yr enw i...
[golygu cod]Mae na awgrym ar y dudalen Sgwrs Cystadleuaeth Rijksmonument i newid ein bathiad ni i Wici Henebion- Cytuno? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:34, 16 Medi 2014 (UTC)
Nifer y lluniau
[golygu cod]- Gogledd Iwerddon: 77
- Yr Alban: 703
- Cymru: 1,431
- Lloegr: 4,848
Dyma rai a uwchlwythwyd:
-
Castell Caernarfon
-
Pont Llanrwst
-
Pont Hafren
-
St Fair, Y Waun
-
Cas-gwent
I ddathlu mai o Gymru y daeth dros 20% o'r holl ddelweddau, dw i wedi rhoi logo at ei gilydd. Byddai'n braf pe bai hwn yn cael ei dderbyn yn swyddogol - neu mae croeso i rywun greu un gwahanol!
Llywelyn2000 (sgwrs) 14:12, 1 Hydref 2014 (UTC)
- Onid yw'n arferol i'r darlunydd roi esboniad o arwyddocâd gwahanol elfennau'r logo? Dwi'n gweld castell ar fin disgyn mewn i glamp o sudd-dwll! Cymrodor (sgwrs) 21:56, 21 Hydref 2014 (UTC)
- Ha! Ydy, fel arfer, ond yn y cyswllt yma, dim gair! Mae dy ddehongliad felly cystal a run! Dw i wedi newid enw'r erthygl, bellach, i Cystadleuaeth Wici Henebion. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:09, 22 Hydref 2014 (UTC)
- Dyma un o'r enillwyr
- Karen Sawyer - a roddodd ei llun ar yr erthygl ym Mis Medi - dim ond ar y wici Cymraeg! Diolch a llongyfarchiadau i Karen!!! Y tro cyntaf i lun o Gymru gyrraedd y brig. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:17, 9 Tachwedd 2014 (UTC)
Grants to improve your project
[golygu cod]- Apologies for English. Please help translate this message.
Greetings! The Individual Engagement Grants program is accepting proposals for funding new experiments from September 1st to 30th. Your idea could improve Wikimedia projects with a new tool or gadget, a better process to support community-building on your wiki, research on an important issue, or something else we haven't thought of yet. Whether you need $200 or $30,000 USD, Individual Engagement Grants can cover your own project development time in addition to hiring others to help you.
- Submit your proposal
- Get help: In IdeaLab or an upcoming Hangout session MediaWiki message delivery (sgwrs) 16:51, 2 Medi 2014 (UTC)
Problem hawlfraint lluniau
[golygu cod]Mae defnyddiwr newydd gweithgar iawn, sef Defnyddiwr:Huw P wedi bod yn brysur yn ymestyn erthygl Y Blew, sy'n wych, ond mae dau broblem gyda'r delweddau sydd yn yr erthygl. Dwi'n trafod hyn yma (ac nid ar dudalen sgwrs yr erthygl/Huw P), achos mae un o'r problemau yn gyrffredin i erthyglau eraill, ac hefyd gan nad ydw i'n arbennigwr hawlfraint, a falle mod i'n camddeall rhywbeth.
Delweddau Alcwyn Deiniol Evans
[golygu cod]Mae dau lun (trawiadol) o'r band wedi eu llwytho yn uniongyrchol at y Wicipedia Cymraeg heb ddim manylion trwydded, ond yn y blwch hawl mae'n dweud:
- Mae Alcwyn Deinoil Evans wedi anfon Ebost ataf (Huw Jones) yn gadarnhau ei fod yn fodlon i'r ffoto cael ei ddefnyddio ar Wicipedia. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn fodlon i'r ffoto cael ei ddefnyddio gyda chanitad Alcwyn Deiniol Evans.
Dwi ddim yn siwr beth sydd wnelo'r LLyfrgell Genedlaethol â'r peth os mai Alcwyn sy'n dal yr hawlfraint. Naill ffordd, dwi'n cymryd nad yw'r lluniau ar drwydded agored ac felly maent yn anaddas ar gyfer eu defnyddio yma yn anffodus.
Holi ydw i os ydw i wedi camddeall rhywbeth, cyn mynd a 'dychryn' defnyddiwr newydd, rhag ofn i ni ei golli!--Rhyswynne (sgwrs) 08:19, 3 Medi 2014 (UTC)
- Sylwgar iawn! Mae'r ail ffoto (Delwedd:Y Blew Pont Dolgellau 1967 - Alcwyn Deiniol Evans.jpg) yn y LlG i'w weld yma. Ar y dudalen honno, nodir: © Alcwyn Deiniol. Ar wiki-en ceir system i gofrestr ebyst cyfrinachol sy'n rhyddhau cynnwys i'r parth cyhoeddus, sef en:Wikipedia:Volunteer Response Team OTRS, neu Open-source Ticket Request System. Mi wnes i gais iddyn nhw ddau fis yn ôl am ryddhau cynnwys y llyfr a'r wefan Dinbych Canoloesol; ces un ymholiad ganddyn nhw, wythnos yn ol, yn gofyn am chwaneg o wybodaeth. Mae nhw mewn gwirionedd yn methu ymdopi efo'r ceisiadau. Pe bai gennym system amgen ar cy, yna mi fedr Defnyddiwr:Huw P uwchlwytho'r ebost i fan cyfrinachol, gyda Gweinyddwyr yn unig yn medru ei weld. Pam cyfrinachedd? Mae rheolau data personol (ee cyfeiriad yr ebost, cyfeiriad go iawn ayb) yn ateb hynny! Mae'r OTRS ar en yn hynod o lafurus, cymhleth ac araf. Awgrymaf ein bod yn sefydlu system amgen a chyflymach yma ar cy. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:59, 3 Medi 2014 (UTC)
- Fel wnes i son yn fy ebost i 'cymorth@wicicymru' --->
- Gobeithio 'mod i wedi gwneud yr holl fusnes nodi hawlfraint/caniataid lluniau'n gywir?
- Cysylltais â'r Llyfrgell Genedlaethol am gopïau a hawl i ddefnyddio lluniau ar ol cael hyd i ffoto o'r band ar eu gwefan.
- Gofynnod y Llyfrgell imi ofyn am ganiatâd defnydd gan y ffotograffydd (Alcwyn Deniol Evans) - roedd o'n barod iawn i'w rhoi. Gallaf anfon ymlaen yr e-byst yn dangos y caniataid Alcwyn D. E. os oes angen
- Huw —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Huw P (sgwrs • cyfraniadau) 12:28, 3 Medi 2014 (UTC) Ychwanegwyd gan Llywelyn2000 (sgwrs) 13:01, 3 Medi 2014 (UTC)
- Sori Huw, do'n i ddim am funud yn amau nad oeddet wedi cael caniatad Alcwyn i'w ddefnyddio yma, beth dwi ddim yn siwr ohono yw os mai mond ar Wicipedia yn unig y mae hawl i'w ddefnyddio, yna mae'n debyg nad yw hynny'n bodloni gofynion Wicipedia, sydd, fel dwi'n cyfaddef anodd i'w ddehongli, neu'n agored i sawl dehongliad! Ond dwi'n meddwl bod yr hawl i ailddefnyddio eto yn weddol ddi-amwys:
- Wikipedia's goal is to be a free content encyclopedia, with free content defined as content that does not bear copyright restrictions on the right to redistribute, study, modify and improve, or otherwise use works for any purpose in any medium, even commercially.
- Os nad yw'r delwedd yn bodloni'r holl feini prawf uchod, dwi ddim yn meddwl y gellir ei ddefnyddio.--Rhyswynne (sgwrs) 13:27, 3 Medi 2014 (UTC)
- Sori Huw, do'n i ddim am funud yn amau nad oeddet wedi cael caniatad Alcwyn i'w ddefnyddio yma, beth dwi ddim yn siwr ohono yw os mai mond ar Wicipedia yn unig y mae hawl i'w ddefnyddio, yna mae'n debyg nad yw hynny'n bodloni gofynion Wicipedia, sydd, fel dwi'n cyfaddef anodd i'w ddehongli, neu'n agored i sawl dehongliad! Ond dwi'n meddwl bod yr hawl i ailddefnyddio eto yn weddol ddi-amwys:
- Mae'r dyfyniad yn wir am bopeth sydd ar wicipedia - BRON! Ond ceir eithriad i'r rheol: The policy allows projects (with the exception of Wikimedia Commons) to adopt an exemption doctrine policy allowing the use of non-free content. Mae'r Polisi hwn ar gael yn Gymraeg: Wicipedia:Cynnwys cyfyngedig ac yn cynnwys: Rhaid bod y cynnwys cyfyngedig yn cael ei ddefnyddio mewn o leiaf un erthygl. Sylwer hefyd (dyfyniad o en: A file with a valid non-free-use rationale for some (but not all) articles it is used in will not be deleted. - sy'n awgrymu y caniateir defnyddio'r ddelwedd ar fwy nag un erthygl. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:20, 3 Medi 2014 (UTC)
- Grêt. Do'n i ddim yn ymwybodol o'r eithraid hynny a diolch am dynny'n sylw ato. Dyna pam wne si ddod a'r drafodaeth i'r fan hyn gan nad o'n i'n hyderus mod i'n gwybod yr ins-and-outs i gyd.—Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Rhyswynne (sgwrs • cyfraniadau) 09:05, 4 Medi 2014 (UTC)
- Na finna; byddai barn Ham, Anat a Glenn yn beth da. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:29, 4 Medi 2014 (UTC)
- Dw i wedi derbyn ebyst gan berchennog y ffotograffau'n cadarnhau
- Nid oes hawlfraint fel y cyfryw ar y lluniau, gwerthfawrogiad o'r awdur oedd gen i mewn golwg. Felly mae croeso i'w defnyddio yn gyhoeddus, fel sy' wedi digwydd sawl gwaith yn barod, gyda nodyn am bwy a'u tynnodd. a gan Huw - a diolch iddo fo am fynd ati i'w 'rhyddhau'! Dw i hefyd am ddanfon copi at Rhys gan ei fod yn Weinyddwr. Fel mae Rhys yn dweud mae nhw'n 'drawiadol'! Dw i am dynnu'r eicon hawlfraint oddi tanynt, yn unol a'n harddull arferol. Diolch i bawb. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:19, 5 Medi 2014 (UTC)
Delweddau o gloriau lluniau
[golygu cod]Hefyd o fewn yr un erthygl mae delwedd o glawr llyfr am y band. Mae wedi ei lwytho yn uniongyrchol i'r Wicipedia Cymraeg (fel miloedd o rai eraill o dan ddefnydd teg gyda'r manylion trwydded canlynol.
- Mae'r ddelwedd hon o glawr llyfr(au), ac mae ei hawlfraint yn eiddo i'r arlunydd a greodd y clawr/cloriau neu gyhoeddwr y llyfr(au). Credir fod defnydd o ddelweddau cydraniad isel o gloriau llyfrau
- i ddarlunio erthygl sy'n trafod y llyfr hwnnw
- ar y Wicipedia Cymraeg, a gedwir ar weinyddwyr yn yr Unol Daleithiau gan y sefydliad di-elw Sefydliad Wicifryngau,
- yn cael ei ystyried yn ddefnydd teg o dan gyfraith hawlfraint yr Unol Daleithiau. Gallai defnyddio'r ddelwedd hon, ar dudalen arall o Wicipedia neu unrhyw le arall, fod yn drosedd hawlfraint. Gweler Wicipedia:Cynnwys di-rydd am ragor o wybodaeth.
Dwi wedi amlygu'r rhan pwysig, sef, fel y dalltaf fi, dim ond ar gyfer erthygl am y llyfr dan sylwi y caniateri defnyddio delwedd o'r clawr, ac nid yw'n addas cynnwys llun oi'r clawr ar erthygl arall, hyd yn oed un am y pwnc a drafodir yn y llyfr. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi codi mewn ambell erthygl yn ddiweddar, yn bennaf ar rai am awduron y llyfrau, ond mae enghreifftiau eraill hefyd. Holi ydw i os ydw i wedi camddeall rhywbeth, cyn mynd a 'dychryn' defnyddiwr newydd, rhag ofn i ni ei golli!--Rhyswynne (sgwrs) 08:19, 3 Medi 2014 (UTC)
- Mae'
[r ail ran o'th ebost y]n ymwneud â defnyddio delwedd sydd ar drwydded Defnydd Teg fwy nag unwaith, ac fel y dywedi, ni chaniateir hynny. Dw i wedi gwneud rhywbeth tebyg, sef defnyddio'r llun eilwaith - ond o faint gewin bys (llai na 90px). Dw i'n credu fod hyn mor isel, fel ei fod yn dderbyniol, ond buaswn yn croesawu trafodaeth bellach. Ond mae ei ddefnyddio ar faint mwy, fel y dywedi, yn groes i'r hawliau. Dylem felly ddileu'r ail gopi. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:59, 3 Medi 2014 (UTC)
Cyfieithydd Cynnwys
[golygu cod]Mae'r Ffederasiwn Wicimedia yn gweithio ar sawl dyfais neu offeryn a all fod yn ddefnyddiol ac yn o'r rheiny ydy'r Cyfieithydd Cynnwys. Fel y gwelwch o'r wybodlen, un o'r codwyr ydy Dafydd Chan, ac wedi rhagflas o'r gwaith a sgwrs gydag ef yn ddiweddar, cytunais ag ef fod potensial i'r offeryn yma ar cy. Nid cyfieithu'n slafaidd mae hwn, ond awgrymu nifer o bosibiliadau y gall y golygydd dynol ddewis ohonyn nhw. Gellir hefyd hepgor yr iaith wreiddiol a chynnwys stwff unigryw, cynhenid Gymraeg! Nid o en yn unig mae o'n cyfieithu! Mae na bosibilrwydd y cawn gyfle i dreialu hwn; yr unig iaith hyd yma ydy'r Cataloneg. Dyma ragflas. Dw i wedi cofrestru fy niddordeb fel unigolyn, a byddai'n wych pe bai criw ohonom yn ymgymryd a'r gwaith. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:34, 3 Medi 2014 (UTC)
- Cyffrous iawn, falle wna i gofrestru hefyd, ond tydy'r ddolen at Meta ddim yn gweithio ac allai ddim dod o hyd i'r dudalen drwy chwilio am 'content translation' yno chwaith.--Rhyswynne (sgwrs) 08:28, 4 Medi 2014 (UTC)
- Ar MediaWiki mae'r wybodaeth, sori, nid Meta. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:13, 16 Medi 2014 (UTC)
- Mae nhw wedi rhyddhau enwau'r ieithoedd a ddewisiwyd, a gan nad atebodd neb yma, dyd'r Gymraeg ddim yn un o'r rheiny! Ta waeth! Dyma fideo o'r Gatalaneg / Sbaeneg ar Cyfcynydd, i fathu term newydd! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:21, 22 Ionawr 2015 (UTC)
- Ar MediaWiki mae'r wybodaeth, sori, nid Meta. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:13, 16 Medi 2014 (UTC)
60,000 o erthyglau ar Wici-bach-ni!
[golygu cod]Heddiw'r bore, cyrhaeddwyd carreg filltir arall: 60,000 o erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg! Yr 60,000fed erthygl oedd Garden in the Hills - stori am deulu yn ardal Llanrwst, ac a gyhoeddwyd gan Faber & Faber yn wreiddiol yn 1980 ac yna John Jones Publishing yn 2010. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:31, 4 Medi 2014 (UTC)
- Congratulations from Alemannic Wikipedia! --Holder (sgwrs) 14:27, 8 Medi 2014 (UTC)
Change in renaming process
[golygu cod]VisualEditor available on Internet Explorer 11
[golygu cod]VisualEditor will become available to users of Microsoft Internet Explorer 11 during today's regular software update. Support for some earlier versions of Internet Explorer is being worked on. If you encounter problems with VisualEditor on Internet Explorer, please contact the Editing team by leaving a message at VisualEditor/Feedback on Mediawiki.org. Happy editing, Elitre (WMF) 07:29, 11 Medi 2014 (UTC).
PS. Please subscribe to the global monthly newsletter to receive further news about VisualEditor.
Defnyddiwr anhysbys 68.3.67.81 eto
[golygu cod]- Symudwyd y ddau sylw cyntaf o Wicipedia:Y Caffi/archif/17 (Wicipedia:Y_Caffi/archif/17#Defnyddiwr_anhysbys_68.3.67.81_eto gan Defnyddiwr:Llywelyn2000.
- Mae'n debyg bod y person yma'n ol, gyda chyferiad IP arall, ond mae'r patrwm golygu run fath, gyda cyfraniadau sydd falle'n iawn, a bob hyn a hyn mae golygiad sy'n fwriadol anghywir. I ddechrau dwi am ddileu erthyglau dan IP 68.3.67.81 fel addewis wneud born i ddwy flynedd yn ol!--Rhyswynne (sgwrs) 20:30, 16 Medi 2014 (UTC)
- Llygad barcud Rhys! Mae'r cyfeiriad wedi cael ei flocio ar draws Wicipedia am sbamio: 22:59, 9 Medi 2014: MF-Warburg (meta.wikimedia.org) blociwyd yn fyd-eang 70.190.251.157 (yn dod i ben ar 16 Medi 2014 am 22:59) (Cross-wiki spam) (statws lleol). Gan fod hynny'n dod i ben heno dwi am osod bloc arall o 6 mis hefyd. Anatiomaros (sgwrs) 22:13, 16 Medi 2014 (UTC)
- Un frawddeg gwta ydy'r erthyglau (!) yma, heb unrhyw gynnwys. Mae angen polisi'n gosod lleiafswm, yn fy marn i. Dylid dileu holl gyfraniadau disylwedd, fel hyn. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:32, 16 Medi 2014 (UTC)
Uwchlwytho ffeiliau, Dewin Uwchlwytho?
[golygu cod]Hello! Sorry for writing in English. It was noted that on this wiki there is little community activity around uploads: less than 50 "Dileu" actions in "Delwedd" last year.
I guess (wrongly, see below) this wiki doesn't have the interest or energies to maintain complex templates and metadata, especially for EDP files. I propose to
- send users to commons:Special:UploadWizard from the sidebar and
- limit local "Uwchlwytho ffeil" to the "Gweinyddwyr" group (for any emergency uploads),
so that no new work is needed on this wiki and all users can have a functioning, easy upload interface in their own language. All registered users can upload on Commons.
All this will be done around 2014-09-30.
- If you disagree with the proposal, just remove this wiki from the list.
- To make the UploadWizard even better, please tell your experience and ideas on commons:Commons:Upload Wizard feedback.
- In all cases, existing files will not be affected, but everyone is welcome to join m:File metadata cleanup drive. The goal is to give better credit to the authors who provided us their works.
- Thanks for responding to the proposal and sorry for bothering with something you didn't have interest in. I'm also sorry for expressing myself badly. Mine was literally just a "guess", which turned out wrong. Nice to see you full of maintenance energies and resources to deal with local files! --Nemo bis (sgwrs) 20:28, 18 Medi 2014 (UTC)
- Accepted. Llywelyn2000 (sgwrs) 23:50, 18 Medi 2014 (UTC)
Monuments of Spain Challenge
[golygu cod]Excuse me for not speaking Welsh yet.
Wikimedia España invites you to join the Monuments of Spain Challenge. And what’s that? It’s a contest. You have to edit, translate or expand articles about the Spanish monuments and you will be granted points. So you’re not just writing about wonderful buildings: you can get prizes!
The time of the contest will include all October and any information you may need is right here.
Join in and good luck!
PS: We would be grateful if you could translate this note into Welsh.
B25es on behalf of Wikimedia España.
- Dw i wedi cofrestru; bwriadaf ganolbwyntio ar rai o henebion Catalwnia; ond mae amser yn brin! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:24, 1 Hydref 2014 (UTC)
Codau QRpedia yn Rhuthun
[golygu cod]Mae na griw wedi bod yn rhoi codau QRpedia (seramig ar waliau, metel neu blastig ar ffenestr siopau) yn nhref Rhuthun. Dw i wedi rhoi rhestr ar yr erthygl, ac os gan eich ffôn rhyngwyneb Cymraeg, yna byddwch yn cysylltu'n uniongyrchol i'r erthygl Gymraeg ar Wicipedia. Os nad oes erthygl yna'r wefan gynhenid (default) ydy'r Saesneg. Unrhyw gymorth i greu'r erthyglau hyn - plis! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:42, 7 Hydref 2014 (UTC)
- Anrheg bach i ti, gan mod i'n methu a chysgu heddiw'r bore: Plas Coch, Gwesty'r Castell, Carchar Rhuthun a'r Manorhaus. Diolch am dy frwdfrydedd heintus! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 03:27, 8 Hydref 2014 (UTC)
Celf(yddyd) a Cholur
[golygu cod]Gall defnyddwyr cynnig barn ar y sgwrs hon, os gwelwch yn dda: Sgwrs Categori:Celf —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 19:08, 9 Hydref 2014 (UTC)
- Ac yma, os gwelwch yn dda: Sgwrs Categori: Colur. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 12:57, 9 Rhagfyr 2014 (UTC)
Comisiynydd y Gymraeg: Hawl i ddefnyddio gwybodaeth a ffeiliau
[golygu cod]Yn dilyn ymholiad gen i, i ddefnyddio testun a lluniau o'u gwefan, cafwyd ateb cadarnhaol ganddynt - drwy ebost - y gallwn wneud hynny cyn belled a'n bod yn dilyn eu canllawiau fel y'u gwelir mewn pdf ar eu gwefan yn fama. Dyma'r rhan berthnasol:
- Diogelir y deunydd a ddangosir ar y wefan hon o dan hawlfraint y Comisiynydd oni nodir fel arall. Gellir atgynhyrchu'r deunydd a ddiogelir gan Hawlfraint y Comisiynydd am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng cyn belled â’i fod yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.
- Pan gaiff unrhyw eitemau Hawlfraint y Comisiynydd ar y wefan hon eu hailgyhoeddi neu eu copïo i eraill, mae'n rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod y statws hawlfraint.
- Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan Hawlfraint y Comisiynydd yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y wefan hon a nodir fel deunydd hawlfraint trydydd parti. Mae’n rhaid cael awdurdod i atgynhyrchu deunydd o'r fath gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.
Gallwn nodi hyn yn glir, fel y gwnaed gyda stwff y Coleg Cymraeg: gweler y nodyn ar waelod y ddalen yma. Gan mai caniatad ar gyfer defnydd dielw ('am ddim') yn unig sydd yma, awgrymaf drwydded 'Defnydd Teg'. {{Comisiynydd}}
Ceir llawer o destun a graffiau addas ar gyfer Wici yn yr adran Darlun ystadegol o sefyllfa'r Gymraeg. Dw i ddim yn awgrymu y dylem gopio a phastio'r cyfan, ond yn sicr does dim yn ein hatal rhag dewis y ceirios cochaf!
Awfrymaf y Templad / Nodyn: {{Di-rydd|Comisiynydd y Gymraeg}} fel trwydded ar gyfer pob delwedd a uwchlwythir.
Felly:
- ar y testun
- {{Comisiynydd}}
- ar ddelwedd
- {{Di-rydd|Comisiynydd y Gymraeg}}
Be ydy eich barn? Llywelyn2000 (sgwrs) 13:23, 19 Hydref 2014 (UTC)
Golygathon ar Wyddonwyr Cymreig benywaidd
[golygu cod]Bydd golygathon yn Abertawe ym mis Ionawr i greu a gwella erthyglau ar wyddonwyr Cymreig, benywaidd. Fedrwn ni greu rhestr o ddarpar erthyglau? Dyma gychwyn: Joan Curran, Abertawe; yr Athro Karen Holford, peiriannydd; Tavi Murray, Mymbls; Gwendolen Rees, Aberdâr; Mary Rees, ei thad oedd David Rees o'r Fenni; Gillian Griffiths, Imiwnoleg; Jean Olwen Thomas, cromatin (o'r Bala). Unrhyw syniadau? Categori? Llywelyn2000 (sgwrs) 15:38, 21 Hydref 2014 (UTC)
Dwy Daflen i'w prawfddarllen
[golygu cod]Mae 'na ddwy daflen i'w prawfddarllen / Cymreigio / gwiro yn yr Adran Datblygu Wicipedia. Gadewch eich cywiriadau / golygiadau ar dudalen sgwrs y PDF, os gwelwch yn dda. Mae'r lluniau i'w gweld ar y taflenni en, ond gellir newid rhai o'r rhain os dymunwch. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:16, 22 Hydref 2014 (UTC)
Meta RfCs on two new global groups
[golygu cod]There are currently requests for comment open on meta to create two new global groups. The first is a group for members of the OTRS permissions queue, which would not contain any additional user rights. That proposal can be found at m:Requests for comment/Creation of a global OTRS-permissions user group. The second is a group for Wikimedia Commons admins and OTRS agents to view deleted file pages through the 'viewdeletedfile' right on all wikis except those who opt-out. The second proposal can be found at m:Requests for comment/Global file deletion review.
We would like to hear what you think on both proposals. Both are in English; if you wanted to translate them into your native language that would also be appreciated.
It is possible for individual projects to opt-out, so that users in those groups do not have any additional rights on those projects. To do this please start a local discussion, and if there is consensus you can request to opt-out of either or both at m:Stewards' noticeboard.
Thanks and regards, Ajraddatz (talk) 18:04, 26 Hydref 2014 (UTC)Hello, Dear wikipedians. I invite you to edit and improve this article and to add information about your and other country.--Kaiyr (sgwrs) 11:30, 31 Hydref 2014 (UTC)
New Wikipedia Library Accounts Now Available (November 2014)
[golygu cod]Apologies for writing in English, please help translate this into your local language. Hello Wikimedians!
The Wikipedia Library is announcing signups today for, free, full-access accounts to published research as part of our Publisher Donation Program. You can sign up for:
- DeGruyter: 1000 new accounts for English and German-language research. Sign up on one of two language Wikipedias:
- Fold3: 100 new accounts for American history and military archives
- Scotland's People: 100 new accounts for Scottish genealogy database
- British Newspaper Archive: expanded by 100+ accounts for British newspapers
- Highbeam: 100+ remaining accounts for newspaper and magazine archives
- Questia: 100+ remaining accounts for journal and social science articles
- JSTOR: 100+ remaining accounts for journal archives
Do better research and help expand the use of high quality references across Wikipedia projects: sign up today!
--The Wikipedia Library Team.23:19, 5 Tachwedd 2014 (UTC)
- You can host and coordinate signups for a Wikipedia Library branch in your own language. Please contact Ocaasi (WMF).
- This message was delivered via the Global Mass Message to The Wikipedia Library Global Delivery List.
Global AbuseFilter
[golygu cod]AbuseFilter is a MediaWiki extension used to detect likely abusive behavior patterns, like pattern vandalism and spam. In 2013, Global AbuseFilters were enabled on a limited set of wikis including Meta-Wiki, MediaWiki.org, Wikispecies and (in early 2014) all the "small wikis". Recently, global abuse filters were enabled on "medium sized wikis" as well. These filters are currently managed by stewards on Meta-Wiki and have shown to be very effective in preventing mass spam attacks across Wikimedia projects. However, there is currently no policy on how the global AbuseFilters will be managed although there are proposals. There is an ongoing request for comment on policy governing the use of the global AbuseFilters. In the meantime, specific wikis can opt out of using the global AbuseFilter. These wikis can simply add a request to this list on Meta-Wiki. More details can be found on this page at Meta-Wiki. If you have any questions, feel free to ask on m:Talk:Global AbuseFilter.
Thanks,
PiRSquared17, Glaisher— 17:34, 14 Tachwedd 2014 (UTC)
Syr Hugh Rowlands
[golygu cod]Help! Wedi canfod bod modd ategu nifer o erthyglau i'r achos Gymraeg trwy ddilyn pwt am Groes Victoria rwy'n cael fy hun mewn anhawster o fethu bod yn ddiduedd am Syr Hugh Rowlands. Roedd o'n aelod o deulu bonheddig a oedd, yn amlwg, ar eu ffordd lawr ar y raddfa gymdeithasol. Enillodd Croes Victoria trwy lyfu tin yn hytrach na thrwy ddewrder a ddefnyddiodd ei anrhydedd i ladd ar y Cymry a'r Gymraeg. Rwyf am lenwi fy rhestr o fywgraffiadau i'r Cymry a haeddodd y VC; ond rwy'n styc efo’r Syr Hugh, rwy’n methu canfod gair di duedd, heb sôn am air da amdano ac mae hynny'n rhwystredigaeth. Oes modd i rywun arall llenwi'r bylchau yn ei hanes, er mwyn imi gael y rhyddid i symud ymlaen i'r, llawer mwy clodwiw Jacob Thomas?AlwynapHuw (sgwrs) 05:40, 20 Tachwedd 2014 (UTC)
- Mm, fe weli mai chydig iawn o wybodaeth sydd ar wici-bach-ni am aelodau o deuluoedd brenhinol gwledydd eraill; efallai y daw rhywun arall i'w llenwi - ond fel tithau, gwneud yr hyn dw i'n ei fwynhau ydw i; ac os oes cyfeiriad yn rhywle (derbyniol!) for Hugh wedi llyfu tin, yna pleser fydd dweud hynny yn de! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:49, 20 Tachwedd 2014 (UTC)
Aelodau Wikimedia DU
[golygu cod]Henffych! Mae na griw o aelodau Wikimedia'n dod at ei gilydd i drafod stategaeth yr elusen ym Mirmingham y penwythnos nesaf. Geler [yma] am y manylion. Mae'r lleoliad yn newydd sbon danlli grai, chwedl Kate Roberts: y llyfrgell newydd. Gallwch nid yn unig hawlio costau ond llety hefyd. Dewch i hawlio chwaneg o gefnogaeth i Gymru a'r Gymraeg! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:52, 23 Tachwedd 2014 (UTC)
- Cyfarfod arall cyn hir - cadwch yr 28ain o Chwefror yn glir! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:48, 1 Rhagfyr 2014 (UTC)
Ysgol Wil
[golygu cod]Mae'r tudalen ar Hafan Wicipedia heddiw (8 Rhagfyr 2014) yn cyfeirio at William Shakespeare. Mae brawddeg agoriadol yr erthygl yn fy nrysu'n llwyr Nid oes tystiolaeth i brofi pa ysgol fynychodd Shakespeare, ond gwyddys ei fod wedi mynd i King Edward VI Grammar School. Os nad oes dystiolaeth sut gwyddys pa ysgol y mynychodd?AlwynapHuw (sgwrs) 05:28, 8 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Newydd ei newid! Gwarthus. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:04, 22 Ionawr 2015 (UTC)
Planhigion
[golygu cod]Mae tua phymtheg o erthyglau wedi'u rhoi gen i ar Wicipedia yn ystod y dyddiau diwethaf. Carwn roi tua 2,000 ohonynt, os nad oes gwrthwynebiad. Mae'r dair yma wedi'u rhoi heddiw: Chwyn Moch Rwsia, Llwyn llygwyn a Blodyn amor Guernsey. Cell Danwydd (sgwrs) 23:34, 28 Tachwedd 2014 (UTC)
- Mae'n codi'r calon i weld yr erthyglau newydd hyn. Ar dudalen sgwrs Cell Danwydd (gweler fan hyn) rwy wedi dwyn sylw at y ffaith bod dwy erthygl â'r un deitl (bron â bod): Llysiau`r angel (am angelica sylvestris) a Llysiau'r angel (am angelica, y genws). Yn seiliedig ar gofnod Geiriadur yr Academi ar angelica, efallai y peth gorau fyddai newid yr ail deitl i Angelica (sy'n ailgyfeiriad i'r erthygl honno ar hyn o bryd), a chadw'r term llysiau'r angel ar gyfer angelica sylvestris. Ham (sgwrs) 11:48, 12 Rhagfyr 2014 (UTC)
Tudalen i gadw golwg ar sgyrsiau
[golygu cod]Yn aml bydd defnyddiwr yn dechrau sgwrs ar erthygl, categori neu nodyn a fydd yn mynd heb ateb am fisoedd neu hyd yn oed blynyddoedd. Efallai dylsen ni greu tudalen er mwyn i ddefnyddwyr cysylltu at sgyrsiau sy'n disgwyl ymateb. Wicipedia:Sgyrsiau cyfoes (neu enw arall)? —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 23:03, 15 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Cytuno bod angen tudalen o'r fath. Mae'n rhwystredigaeth gofyn am gymorth sydd ddim yn dod; ochr arall y geiniog yw bod yr ateb gennyf, hwyrach, i ambell i ymholiad, ond heb daro ar ei draws ar hap does dim modd cynnig help llaw.AlwynapHuw (sgwrs) 02:36, 16 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Cytuno! Ond sut mae gweithredu hyn. Dwi'n gadael neges ar Dudalen Sgwrs ac yna cofnodi hynny ar y dudalen newydd? Mae nafigeiddio o gwmpas wici yn anodd. Efallai y byddai'n syniad rhoi botm ar y dudalen flaen? Neu ben y Caffi? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:01, 16 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Syniad da. Anatiomaros (sgwrs) 00:57, 18 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Cytuno! Ond sut mae gweithredu hyn. Dwi'n gadael neges ar Dudalen Sgwrs ac yna cofnodi hynny ar y dudalen newydd? Mae nafigeiddio o gwmpas wici yn anodd. Efallai y byddai'n syniad rhoi botm ar y dudalen flaen? Neu ben y Caffi? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:01, 16 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Fe sylwch fy mod wedi cychwyn dadl arall ar dudalen sgwrs Owain Glyn Dŵr. Erbyn hyn credaf fy mod yn amharu ar amcanion Wicipedwyr, a gwell fyddai i mi orffen cyfrannu o hyn ymlaen, a gadael yr ychydig eiriau canlynol:
- Does dim terfyn i rym gwybodaeth
- Ar drothwy cadoediad diflas
- Celaf mewn cader ddychmygol
- Yn daer i enw Owain Glyn Dŵr
- ApGlyndwr (sgwrs) 10:20, 16 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Tyrd o 'na ApGlyndwr! Mae cyfraniad y Wici i ddyfodol y Gymraeg yn bwysicach na gwahaniaeth barn. Dan ni i gyd yn anghytuno yma weithiau ond yn dal i gyfrannu. Gobeithio byddi di'n ailystyried. Anatiomaros (sgwrs) 01:02, 18 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Diolch am yr ymateb calonogol. Felly, ydy Geiriadur Bruce a'r Geiriadur Mawr yn ffynonellau i'w hanwybyddu? ApGlyndwr (sgwrs) 09:47, 18 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Cytuno, ond sut? Dolen iddi o frig y Caffi? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:20, 18 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Rydw i newydd creu Wicipedia:Sgyrsiau cyfoes a rhoi dolen ar frig y Caffi. Gobeithio bod hyn yn ddechrau da i'r rhestr! Hefyd, trueni fydd gweld ApGlyndwr yn ein gadael mor fuan. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 19:19, 2 Ionawr 2015 (UTC)
- Cytuno, ond sut? Dolen iddi o frig y Caffi? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:20, 18 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Diolch am yr ymateb calonogol. Felly, ydy Geiriadur Bruce a'r Geiriadur Mawr yn ffynonellau i'w hanwybyddu? ApGlyndwr (sgwrs) 09:47, 18 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Tyrd o 'na ApGlyndwr! Mae cyfraniad y Wici i ddyfodol y Gymraeg yn bwysicach na gwahaniaeth barn. Dan ni i gyd yn anghytuno yma weithiau ond yn dal i gyfrannu. Gobeithio byddi di'n ailystyried. Anatiomaros (sgwrs) 01:02, 18 Rhagfyr 2014 (UTC)
Ffaith Diddorol
[golygu cod]Wrth lenwi wybodaeth am etholaethau ac etholiadau Cymreig yr wyf wedi canfod mae Yr Anrhydeddus Mrs L. Broderick, a safodd yn Ninbych yn Etholiad cyffredinol 1922, oedd y fenyw gyntaf i sefyll etholiad Sansteffan yng Nghymru! Un i'r cwis Nadolig!AlwynapHuw (sgwrs) 04:36, 16 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Edrych yn Rhestr o gerrig milltir pwysig yng ngwleidyddiaeth Cymru a mi weli mai Mrs Millicen MacKenzie yn sefyll ar ran Prifysgol Cymru oedd y fenyw gyntaf, a hynny yn 1918. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:03, 16 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Mae Mrs Jones Llanrug yn cofio sefyll flynyddoedd 'nôl, ond mae hi'n anfodlon datgelu'r union flwyddyn... Anatiomaros (sgwrs) 00:55, 18 Rhagfyr 2014 (UTC)
New Wikipedia Library Accounts Now Available (December 2014)
[golygu cod]Apologies for writing in English, please help translate this into your local language. Hello Wikimedians!
The Wikipedia Library is announcing signups today for, free, full-access accounts to published research as part of our Publisher Donation Program. You can sign up for new accounts and research materials from:
- Elsevier - science and medicine journals and books
- Royal Society of Chemistry - chemistry journals
- Pelican Books - ebook monographs
- Public Catalogue Foundation- art books
Other partnerships with accounts available are listed on our partners page. Do better research and help expand the use of high quality references across Wikipedia projects: sign up today!
--The Wikipedia Library Team.00:22, 18 Rhagfyr 2014 (UTC)
- You can host and coordinate signups for a Wikipedia Library branch in your own language. Please contact Ocaasi (WMF).
- This message was delivered via the Global Mass Message tool to The Wikipedia Library Global Delivery List.
Llyfrau'r Comisiwn Brenhinol (cyn 1956) ar-lein ac am ddim
[golygu cod]Mae na dipyn go lew o hen lyfrau allan o brint y Comisiwn Brenhinol wedi'u rhoi ar-lein, am ddim. Yn sicr fe allem eu defnyddio fel ffynhonnell, a'u haralleirio; dw i wedi dechrau holi ynghylch yr hawlfraint hefyd ond mi fwyta i fwnci os y bydd yn drwyddd agored addas i Wici! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:54, 18 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Diddorol. Ond os ydyn nhw ar gael bydd rhaid eu defnyddio gyda pheth gofal; mae llawer o feirniadaeth gan archaeolegwyr a haneswyr wedi bod am safon y cyfrolau cynnar. Anatiomaros (sgwrs) 23:39, 1 Ionawr 2015 (UTC)
- Wedi holi, ydyn mae nhw ar gael yn hylaw i bawb eu darllen, ond cadwyd yr hawlfraint. Felly os am ddefnyddio rhannau, bydd yn rhaid ei aralleirio, gyda gofal. Hanner ymdrech ganddyn nhw, felly. 5 /10. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:45, 2 Ionawr 2015 (UTC)
Idiot
[golygu cod]Wrth wirio bod pob tudalen sy'n cysylltu â Allen Clement Edwards canfyddais fy mod wedi gwario oriau yn ail greu tudalen yr oeddwn eisioes wedi ei greu. Mae'r un wybodaeth union ar gael ar dudalennau: Bwrdeistref Dinbych (etholaeth seneddol) a Bwrdeistrefi Dinbych (etholaeth seneddol) A all weinyddwr derbyn "ffefryn" o'r ddau dudalen, a dileu'r llall?AlwynapHuw (sgwrs) 08:06, 23 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Rwyt mewn cwmni da! Dw i wedi gwneud yr un peth ambell waith! Ga i awgrymu dy fod yn dewis / uno ar un erthygl a rhoi Nodyn {{dileu}} ar y llall. Ar frys i orffen prynnu llysiau! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:01, 23 Rhagfyr 2014 (UTC)
Sierra Leone
[golygu cod]Am ryw reswm, mae baner Seychelles yn ymddangos yn lle baner Sierra Leone ar Nodyn Sierra Leone - oes unrhyw un yn gallu helpu/egluro pam? Diolch! Blogdroed (sgwrs) 12:06, 27 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Rwy'n credi fy mod i wedi cywiro hwn nawr :) Danielt998 (sgwrs) 00:55, 28 Rhagfyr 2014 (UTC)
- Diolch :) Blogdroed (sgwrs) 11:58, 28 Rhagfyr 2014 (UTC)
Penrhyn o ba liw?
[golygu cod]Hoffwn gael eich barn ar y cyfieithiad cywir o 'Cabo Verde': gw. Sgwrs:Penrhyn Verde. Diolch. Anatiomaros (sgwrs) 00:03, 30 Rhagfyr 2014 (UTC)
OG neu OGD?
[golygu cod]Mae na drafodaeth bwysig yn fama am Owain Glyn Dŵr. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:25, 31 Rhagfyr 2014 (UTC)
Rhaglaw, Custos, Siryf
[golygu cod]Yr wyf wedi dwyn o'r Wici Saesneg nifer o restrau Arglwyddi Raglaw Cymreig. Wrth sgwennu pytiau bywgraffiadol am wleidyddion yr 19eg a'r 20fed ganrif, rwy'n canfod bod nifer ohonnynt wedi gwasanaethu fel Arglwyddi Raglaw yn ogystal a'u Haelodaeth Seneddol, gan hynny mae caffael y rhestri Rhaglawol yn gweneud sens. Ond rwy'n anhapus efo’r blwch {.{Arglwyddi Rhaglaw}.} sydd ar waered pob erthygl - mae'n mor o goch dianghenraid am Arglwyddi Raglaw rhannau eraill o Wledydd Prydain, coch nad ydwyf yn credu caiff ei lasu byth! Oes modd newid y dalen i fod yn un unigryw Gymreig? Mae 'na restrau tebyg yn y fain, byddai'n werth eu bachu, am ddeiliaid swydd y Siryf a'r Custos. A oes cyfarwyddyd ar sut mae creu blwch tebyg i un {.{Arglwyddi Rhaglaw}.} ar eu cyfer (roedd {.{Arglwyddi Rhaglaw}.} eisoes yn bodoli ar dudalen Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd) AlwynapHuw (sgwrs) 05:44, 7 Ionawr 2015 (UTC)
- Bore da giaffar! Yr unig wahaniaeth rhwng Nodyn (templad) ac unrhyw dudalen arall (o ran hyn) ydy ei fod yn cychwyn efo 'Nodyn' a cholon wedyn. Dyma'r Nodyn rwyt ei angen: Nodyn:Arglwyddi Rhaglaw. Yn amal, mi fydda i'n copio a phastio Nodion fel hyn o en, ac yna cyfieithu'r hyn sydd ar y rhyngwyneb. Mae rhai ohonyn nhw'n eitha cymhleth ac yn cysylltu gyda hyd at 150 o rai eraill, dyna pryd mae'n mynd yn ddifyr. Oherwydd hyn, a'r amser mae'n gymryd i fewnforio rhain, dw i wedi bod yn defnyddio system syml, syml o gategoreiddio Nodion, ers tua tair blynedd, sef 'Categori:Nodion Hanes' (neu bwnc arall). Gelli olygu Nodyn fel pob tudalen arall a'i addasu yn ol dy fympwy a'th ddoethineb. A-we! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:04, 7 Ionawr 2015 (UTC)
- Ble i arbrofi? Naill ai yn y blwch tywod, neu o fewn dy ofod-defnyddiwr (user-space) di dy hun ee Defnyddiwr:AlwynapHuw/Nodyn:Arglwyddi Rhaglaw - a'i symud ar ol ei orffen. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:09, 7 Ionawr 2015 (UTC)
- Diolch i ti am yr erthyglau newydd hyn, Alwyn. Cofia rhoi'r ddolen ryngwici e.e. [[en:Enw'r erthygl ar y wici Saesneg]] reit ar waelod y dudalen, odan y categoriau; hefyd byddai rhyw gategori i'w cysylltu efo sir neu ardal yn braf hefyd, e.e. Categori:Hanes Sir X. 'Run fath efo categori newydd - mae cael y ddolen ryngwici yn gymorth mawr i weithio allan sut i ffitio'r categori newydd yn ein system categoriau ni. Hwyl, Anatiomaros (sgwrs) 00:49, 8 Ionawr 2015 (UTC)
- Rwy'n trio cofio rhoi clec ar y dolen "Ieithoedd eraill" pob tro rwy'n dwyn erthygl o'r Saesneg, weithiau bydd cyswllt yn cael ei greu i'r Saesneg yn unig a weithiau i ddegau o ieithoedd eraill. Oes angen [.[en:Enw'r erthygl ar y wici Saesneg]] hefyd? AlwynapHuw (sgwrs) 07:02, 8 Ionawr 2015 (UTC)
- Nagoes, does dim, bellach. Mi fydda i'n dal i wneud hynny efo'r bot ar adegau prin, a daw bot arall heibio a'u rhoi ar wicidata, ac yna'u dileu.
Mwy am Siryfion
[golygu cod]Rwyf wedi edrych ar dudalennau’r Siryfion ar y Wici Saesneg. Maent yn hyll ar y naw, yn cynnwys gormod o enwau ac yn rhy fawr i'w darllen at iws gwlad! Er enghraifft https://en.wikipedia.org/wiki/Sheriff_of_Merionethshire. Rwy'n credu bod gwerth eu trosglwyddo i'r Gymraeg, ond nid megis dalen enfawr. A fyddai'n dderbyniol i'w torri yn erthyglau annibynnol llai eu maint ee " Siryfion Meirionnydd yn y 20fed ganrif" "Siryfion Meirionnydd yn y 19eg ganrif" ac ati? AlwynapHuw (sgwrs) 07:24, 8 Ionawr 2015 (UTC)
- Ymlaen! Bydd ddewr! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:14, 8 Ionawr 2015 (UTC)
- Gweler: Siryf Sir Gaernarfon. Ydy hwn yn iawn fel tudalen annibynnol i gysylltu at erthyglau mewn ieithoedd eraill, neu ydyw'n dudalen diangen ? AlwynapHuw (sgwrs) 04:16, 15 Ionawr 2015 (UTC)