Cader

Oddi ar Wicipedia
Bryn Cader Faner, Gwynedd.
Copa Cader Idris.

Mae cader (Llydaweg: cadoer, Gwydd Cynn: cathair; Ll: cathedra[1]) yn hen enw Cymraeg ar 'eisteddle' uchelwr neu fryngaer, ac yn enw ar sawl bryn neu gopa mynydd. Yng Ngeiriadur Ysgrythyrol Thomas Charles ceir y diffiniad:

"CADAIR, CADER -EIRIAU. (cad) Gr. καθεδρα (cathedra); eisteddfa, eisteddfa gyffredin ; amddiffynfa, caer, cadarnle – Cader ymadrodd, areithfa; cader buwch, pwrs buwch. Y mae amryw fryniau amddiffynedig yn cadw yr enw Cader ; megys Cader Dinmael, Cader Idris, &c. –Cader Moses, yr ydoedd y Phariseaid yn chwennych eistedd ynddi i farnu a llywodraethu y bobl, fel Moses..."

Yr ynganiad lleol o 'Gadair Idris' yw 'Cader Idris' a dyna a ddefnyddir hefyd fel sillafiad lleol e.e. enw'r ysgol uwchradd yn Nolgellau yw 'Ysgol y Gader', 'Deintyddfa Cader'[2] a llawer o strydoedd.[3]

Yn anghywir, cred rhai mai Seisnigiad o'r gair Cymraeg yw 'cader', e.e. ar wefan y BBC dywedir: "Cadair Idris (sometimes know by its anglicised title, Cader Idris) is a mountain."[4]

Enghreifftiau[golygu | golygu cod]

Bryniau a chopaon[golygu | golygu cod]

Afonydd[golygu | golygu cod]

Eraill[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru ar-lein; gweler cadair; adalwyd 10 Rhagfyr 2014
  2. www.wales.nhs.uk; adalwyd 10 Rhagfyr 2014
  3. Gwefan Cadw; Archifwyd 2014-05-30 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 10 Rhagfyr 2014
  4. www.bbc.co.uk; adalwyd 10 Rhagfyr 2014
  5. Geiriadur Prifysgol Cymru ar-lein; gweler cader; adalwyd 10 Rhagfyr 2014