Sgwrs:Cader

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Yn ardal Cader Idris, cadar ydy'r ffurf dafodieithol ar gyfer cadair (chair) - nid cader. Mae hyn yn wir am rannau helaeth o Wynedd (Gweler: A Welsh Grammar, Phonology and Accidence, J.Morris Jones,M.A. Oxford University Press 1930 p.8). Mae'n rhaid gwrando yn y de am ddefnydd o cader mewn tafodiaith pan yw cadair dan sylw. Felly anghywir ydy awgrymu mai tafodiaith leol sy'n gyfrifol am y defnydd o'r gair cader, er mai Cader Idris ydy'r ynganiad lleol at ddisgrifiad o'r mynydd. Cyn i unrhyw un ddechrau cwestiynu fy rhesymeg, peidiwch â honni bod y llafariad a yn troi i e mewn tafodiaith yr ardal, a bod hyn yn gyfrifol am yr e yn Cader Idris. Mae hyn yn wir pan yw’r llafariad yn hir mewn rhai geiriau unsill, e.e. bach, tad, plas, cae, glas, tân, mân, na, cath, haf. Nid yw hyn yn gyfystyr â chamddefnyddio’r acen grom mewn geiriau o’r fath, e.e. anghywir yw sgrifennu plâs, glâs, hâf, er mwyn cyfleu effaith tebyg i ymestyn y llafariad. ApGlyndwr (sgwrs) 12:08, 13 Rhagfyr 2014 (UTC)[ateb]

Diddorol! Newidia'r erthygl. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:13, 13 Rhagfyr 2014 (UTC)[ateb]
Ia, difyr iawn ac yn hollol gywir. Gweler hefyd Tarddiad yr enw Ogwen/Ogwan (wedi ei rhoi fel dolen ar waelod yr erthygl). (Y ddadl dros y ffurf honedig "safonol" 'Cadair Idris', fel yn achos 'Ogwen' yn lle 'Ogwan', ydy mai dyna yw'r ffurf sy'n arferol mewn ffynonellau "safonol" fel y Gydymaith i Lenyddiaeth Cymru ayyb a gan fod y Wici yn dibynnu ar ffynonellau "safonol" mae'n rhaid i ni ei derbyn, mae'n debyg.) Anatiomaros (sgwrs) 01:00, 14 Rhagfyr 2014 (UTC)[ateb]
ON Er fy mod yn edmygydd mawr o Eiriadur Charles mae angen diffiniad geiriadurol mwy diweddar. Anatiomaros (sgwrs) 01:03, 14 Rhagfyr 2014 (UTC)[ateb]