Manorhaus, Rhuthun

Oddi ar Wicipedia
Manorhaus
Rhif 10 a 12, Stryd y Ffynnon
Rhuthun
Manorhaus, Rhuthun is located in Cymru
Gwybodaeth gyffredinol
StatwsCwblhawyd
LleoliadRhuthun, Sir Ddinbych
GwladCymru
Dechrau adeiladuDiwedd y 18fed ganrif
Gwefan
Cadw
Ffynhonnell
Cadw 941

Adeilad rhestredig yn Rhuthun, Sir Ddinbych ydy'r Manorhaus (neu Rhif 10 a 12, Stryd y Ffynnon). Cafodd ei godi'n wreiddiol yn niwedd y 18g. Fe'i rhestrwyd gan Cadw ar y gofrestr adeiladau hynafol ar gyfeirnod 941.[1] Cafodd ei restru oherwydd ei nodweddion o ddiwedd Siorsaidd, gan eu bod o ddiddordeb pensaernïol arbennig. Credir fod peth carreg o Gastell Rhuthun wedi'i ddefnyddio ar ei gyfer, a gwaith pren Tuduraidd, felly fe all rhannau o'r adeilad fod yn hŷn na'r Oes Siorsaidd.

Cyn ei symud yn 1893, arferai fod yn ysgol breswyl ar gyfer Ysgol Rhuthun. Yna daeth yn gartref i feddyg lleol, cyn ei addasu'n dŷ bwyta gan Cynthia Lennon, gwraig cyntaf John Lennon, ac arferai eu mab fynychu'r ysgol fonedd.

Ceir ynddo 8 ystafell, pob un wedi'u haddurno'n gain, sawna, campfa a llyfrgell.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Listed Buildings; adalwyd 5 Mehefin 2014
  2. The Guardian