Allen Clement Edwards

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Allen Clement Edwards
Clem-Edwards-AS.jpg
Ganwyd 7 Mehefin 1869 Edit this on Wikidata
Tref-y-clawdd Edit this on Wikidata
Bu farw 23 Mehefin 1938 Edit this on Wikidata (69 oed)
Golders Green Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd, Cyfreithiwr, undebwr llafur Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o'r 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd Allen Clement (Clem) Edwards (7 Mehefin, 186923 Mehefin, 1938) yn gyfreithiwr, yn undebwr llafur, yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol. Roedd yn gefnogwr brwd o'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn un o sylfaenwyr y blaid o blaid y rhyfel Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur ac yn gadeirydd y blaid yn y senedd.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd (Clem) Edwards ym 1869 yn Nhrefyclawdd, yn fab i George Benjamin Edwards, dilledydd ac ocsiwnïer a Sarah (née Tudge) ei wraig.[1] Cafodd ei addysgu yn ysgol leol Trefyclawdd ac mewn dosbarthiadau nos yng Ngholeg Birkbeck yn Llundain.

Priododd Fanny Emerson ym 1890, bu hi farw ym 1920. Priododd ei ail wraig Alice May Parker ym 1922 a bu iddynt un mab.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd Edwards ei yrfa yn y gyfraith yn gweithio mewn swyddfa cyfreithiwr yn Nhrefyclawdd.[2] Ym 1899, galwyd ef i'r Bar gan y Deml Ganol. Roedd yn arbenigwr mewn achosion undebau llafur gan gynrychioli'r gweithwyr mewn nifer o achosion pwysig megis achos Taff Vale Railway ym 1901[3] a'r ymchwiliad i Danchwa Senghennydd.[4]

Yn ogystal â chynnig cyngor cyfreithiol i'r undebau roedd Edwards hefyd yn weithgar fel trefnydd undebau. Fe fu yn ysgrifennydd cynorthwyol Undeb Llafurwyr Cyffredinol y Dociau, Glanfeydd a Glannau’r Afon ac Ysgrifennydd Cyffredinol Ffederasiwn Undebau'r Dociau a Thrafnidiaeth. Fe fu'n cynrychioli'r undebau hyn yn yr ymchwiliad i suddo'r RMS Titanic.

Yn ogystal â'i waith ym myd y gyfraith a'r undebau yr oedd hefyd yn newyddiadurwr blaenllaw gan weithio fel gohebydd materion Llafur ar The London Sun, The London Echo a'r Daily News.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Er ei fod yn Undebwr Llafur brwd doedd Edwards ddim yn gefnogol o'r Blaid Lafur. Cafodd ei ethol i gyngor Islington ym 1898. Safodd yn aflwyddiannus am sedd seneddol Tottenham fel Rhyddfrydwr yn etholiad 1895 ac ym Mwrdeistrefi Dinbych ym 1900. Safodd eto yn Ninbych ym 1906 gan gipio'r sedd. Methodd i gael ei ailethol yno yn Ionawr 1910 gan golli o ddim ond wyth bleidlais. Yn etholiad Tachwedd 1910 safodd i'r Rhyddfrydwyr yn etholaeth Dwyrain Morgannwg gan gipio'r sedd.[5] Cafodd etholaeth Dwyrain Morgannwg ei ddileu ar gyfer etholiad 1918.

O herwydd ei gefnogaeth brwd i achos y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd Edwards ei ddenu gan fudiad o'r enw Cynghrair Gweithwyr Prydain a oedd yn ceisio hybu achos y rhyfel ym mysg y dosbarth gweithiol. Pan dynnodd y Blaid Lafur allan o'r Llywodraeth Clymblaid ar gyfer etholiad 1918 trodd y Gynghrair yn blaid wleidyddol llafuraidd a oedd yn parhau i gefnogi'r Glymblaid Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur (NDP). Safodd Edwards yn enw'r NDP yn etholaeth East Ham South yn Etholiad Cyffredinol 1918 gan gipio'r sedd. Bu'n gadeirydd grŵp seneddol yr NDP o 1918 i 1920. Methodd yn ei ymgais i ddal gafael ar ei sedd yn enw Rhyddfrydwr y Glymblaid yn etholiad 1922.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Edwards farw o'r cancr yn Golders Green ym 1938 a'i amlosgi yn amlosgfa Golders Green.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. A Forgotten Radnorian - Clement Edwards [1] adalwyd 20 Rhagfyr 2014
  2. MR CLEMENT EDWARDS. A SHORT SKETCH OF HIS LIFE. LLGC Papurau Cymru arlein Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent 3 Awst 1900 [2] adalwyd 20 Rhagfyr 2014
  3. A TRADES UNIONS LIABILITY.Cambrian 20 Gorffennaf 1901 LLGC Papurau Cymru arlein [3] adalwyd 20 Rhagfyr 2014
  4. CWEST SENGHENYDD Y Genedl Gymreig 13 Ion 1914 [4] adalwyd 20 Rhag 2014
  5. Mr Clement Edwards Denbighshire Free Press — 17 Rhagfyr 1910 LLGC Papurau Cymru arlein [5] adalwyd 20 Rhagfyr 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
George Thomas Kenyon
Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Dinbych
19061910
Olynydd:
William Ormsby-Gore
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Alfred Thomas
Aelod Seneddol dros Dwyrain Morgannwg
19101918
Olynydd:
diddymu'r etholaeth
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros East Ham South
19181922
Olynydd:
Alfred John Barnes