RMS Titanic
| Enghraifft o: | four funnel liner, llongddrylliad |
|---|---|
| Daeth i ben | 15 Ebrill 1912 |
| Màs | 52,310 tunnell |
| Gwlad | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Dechreuwyd | 31 Mawrth 1909 |
| Lleoliad | Cefnfor yr Iwerydd |
| Perchennog | White Star Line, International Mercantile Marine Company |
![]() | |
| Gwneuthurwr | Harland and Wolff |
| Enw brodorol | Titanic |
| Hyd | 269.1 metr |
| Tunelledd gros | 46,329 |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/06l72 |

Llong deithio gefnforol yn perthyn i gwmni'r White Star Line oedd yr RMS Titanic. Suddodd y llong 11 mis ar ôl iddi gael ei lansio; roedd ar ei thaith gyntaf ar draws yr Iwerydd. Dechreuodd y fordaith o borthladd Southampton i Efrog Newydd ar 10 Ebrill 1912. Dywedir mai enghraifft o 'falchder dynol yn arwain at drychineb' oedd y trasiedi yma.
Titanic oedd llong fwyaf y byd ar yr adeg y cafodd ei adeiladu. Hi oedd yr ail long o'r dosbarth Olympic allan o dair a adeiladwyd gan Harland & Wolff yn Belffast ar gyfer y White Star Line.
Teithiodd y llong o Southampton i Cherbourg, Ffrainc, ac yna i Queenstown, yn Iwerddon, cyn cychwyn ar ei thaith i America.
Am 11:40pm ar 14 Ebrill 1912 tarodd y Titanic fynydd o rew tua 400 o filltiroedd o Newfoundland. Ar ôl 2 awr a 40 munud, suddodd y llong am 2.20am ar 15 Ebrill. Collodd tua 1,514 o bobl eu bywydau. Achubwyd 705 o bobl yn unig gan nad oedd digon o fadau achub ar gyfer pawb ar fwrdd y Titanic, a nid oedd nifer o'r badau achub yn cael eu llenwi yn llwyr cyn gadael y llong. Roedd gan rai ohonynt 28 o bobl yn unig, allan o 65 lle posib.
Capten y llong oedd Edward J. Smith, a hon oedd ei fordaith olaf cyn ymddeol. Fe fu farw’r person olaf i deithio ar y Titanic, Millvina Dean, yn 98 oed yn 2009. Dim ond deufis oed oedd hi pan suddodd y llong ar y daith yn 1912.
Roedd Cymry ymysg y teithwyr gan gynnwys Harold Lowe, y swyddog a aeth yn ôl i achub mwy o deithwyr.[1]
Darganfyddiad
[golygu | golygu cod]Cafodd y Titanic ei darganfod ar wely'r môr ar 1 Medi 1985 gan dîm o nofwyr tanfor Americanaidd, o dan arweinyddiaeth Robert Ballard ar ôl archwiliad manwl gan chwiliedyddion robotig Americanaidd a Ffrengig. Mae nifer o alldeithiau wedi ymweld ag olion y llong. Daeth y darganfyddiad yn ystod cyrch gwahanol, lle'r oedd tim Ballard wedi derbyn cais gan Lynges yr Unol Daleithiau i chwilio am ddwy long danfor niwclear oedd wedi mynd ar goll, yr U.S.S. Thresher ac yr U.S.S. Scorpion.[2]
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]Mae nifer o ffilmiau wedi cael eu cynhyrchu am y trychineb hwn, gan gynnwys A Night To Remember (1958), Raise The Titanic! (1980) a Titanic (1997), yn serennu Kate Winslet a Leonardo DiCaprio.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "BBC - Cymry'r Titanic". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2026-04-15.
- ↑ https://www.nationalgeographic.com/history/article/titanic-nuclear-submarine-scorpion-thresher-ballard
