Sgwrs Categori:Celf

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Celf neu Celfyddyd?[golygu cod]

Pa ffurf sy well ei defnyddio? Yn ôl GPC, talfyriad gan Iolo Morganwg yw "celf" gan iddo dybio taw terfyniad ansoddeiriol oedd yr "-ydd". Mae Geiriadur Bruce yn honni taw ffurf fictitious yw "celf", in occasional use (mae'n air cyffredin iawn, iawn yn ôl fy mhrofiad i!). Barnau gan eraill? Hefyd, a yw'r gwahaniaeth rhwng "celf(yddyd)" ac "y celfyddydau" yn bodoli yn Gymraeg yn yr un modd ag yn Saesneg (art a the arts)? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 18:20, 7 Hydref 2014 (UTC)[ateb]

Dwi'n synnu bod geiriadur Bruce yn dweud ei fod yn cael ei ddefnyddio "yn achlysurol" er ei fod yn iawn mai gair a fachodd Iolo ydyw, tasa hynny o bwys i'r ddadl (gair gwneud "fictitious" gan un o ffrindiau Iolo - yr hynod William Owen Pughe - yw 'cylchgrawn' a sawl air cyfarwydd arall). Mae angen gwahaniaethu rhwng art a'r Arts yn gyffredinol a dwi ddim yn gweld sut mai gwneud hynny heb ei galw yn Gelf - fel arall ceir dryswch a dyna pam mae nifer o bobl yn defnyddio'r gair 'celf' am art, yn gam neu'n gymwys. Anatiomaros (sgwrs) 01:34, 8 Hydref 2014 (UTC)[ateb]

Cysoni'r drefn[golygu cod]

Rydw i wedi symud popeth am y celfyddydau gweledol i'r categorïau sy'n dwyn yr enw "Celf", ac y rheiny'n is-gategorïau i'r categorïau am "Y celfyddydau". —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:48, 28 Awst 2018 (UTC)[ateb]