Sgwrs:Cosmetigau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgwrs Categori:Colur)

Union ystyr y gair Cymraeg[golygu cod]

Sgwrs wedi ei symud o Sgwrs Categori:Colur gan Adda'r Yw.

Mae diffiniad y termau Saesneg cosmetics (ac i raddau llai make-up) yn crybwyll peraroglau, pethau trin gwallt, pethau trin ewinedd a phethau tebyg yn ogystal â phethau sy'n tecáu'r croen. Gan fod y gair Cymraeg yn tarddu o'r bôn Lladin sy'n golygu "lliw", a yw'r gair Cymraeg modern "colur" yn cyfeirio at liwio'r croen yn unig neu a yw'n crybwyll peraroglau ac ati hefyd? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:39, 15 Tachwedd 2014 (UTC)[ateb]

Mae Geiriadur Bangor (drwy'r Termiadur Addysg) yn nodi: cosmetics = cosmetigau (ell) ac mae Bruce hefyd yn nodi 'cosmetig' fel ansoddair. Mae G y Brifysgol ar-lein yn nodi: 'cosmetic' neu 'cosmetig' a'r lluosog - efo 's' ar y diwedd. Fe fusawn i'n ffafrio'r olaf 'cosmetics' gan ei fod yn llawer mwy llithrig a naturiol na 'cosmetigau' neu rhyw fehemoth tebyg! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:25, 9 Rhagfyr 2014 (UTC)[ateb]
Wyt ti ar genhadaeth i lygru'r iaith Gymraeg â chynifer o elfennau Saeseng ag y gelli di? Da iawn, os wyt ti. Yr unig 'fehemothiaid' a welais i erioed yma oedd dy eiriau di: 'ecsclisiwf', 'eidentity' ayyb. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan 86.3.131.203 (sgwrscyfraniadau) 19:41, 9 Rhagfyr 2014‎
Rydw i wedi creu erthygl dan yr enw "cosmetigau", gan esbonio ystyr y gair "colur" hefyd. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 23:40, 21 Tachwedd 2015 (UTC)[ateb]