Cosmetigau
Math o ddarpariaeth megis trwyth, eli neu bowdwr a roir ar y corff i'w decáu, dieithrio, glanhau, cyflyru neu warchod yw cosmetigau[1][2] neu gosmetigion.[2] Cosmetigau sy'n lliwio'r croen yw colur, neu weithiau mecyp,[3] ac felly paentio neu liwio rhannau'r corff, gan amlaf y wyneb, y dwylo neu'r traed, mewn patrymau a lliwiau sy'n perthyn i normau diwylliannol yw coluro.
Modd o addurno'r corff yw cosmetigau sy'n debyg i ffasiynau dros dro megis dillad, gemwaith ac arddulliau gwallt yn y synnwyr y gellir ei newid yn hawdd. Mae hyn yn eu gwneud yn wahanol i ffurfiau newid y corff yn barhaol megis tyllu, tatŵio a chrafu'r croen. Cystal â bod gan bob diwylliant draddodiadau ei hun o ddefnyddio cosmetigau. Cymhorthion harddwch yw cosmetigau yn ôl y diffiniad cul, hynny yw cynnyrch a ddodir ar y corff i wella'r olwg a phwysleisio nodweddion arbennig. Yn ôl y diffiniad eangach, cynhwysir darpariaethau a ddefnyddir er rhesymau crefyddol, defodol, meddyginiaethol, ac ar gyfer y theatr.[4][5] Amrywia arferion cosmetigau yn eang ar draws y byd a thrwy hanes yn dibynnu ar draddodiadau, credoau, a ffasiynau. Er i ddynion ddefnyddio cosmetigau ar adegau, yn yr oes fodern dim ond menywod sy'n eu defnyddio fel rheol.
Gofal croen
[golygu | golygu cod]Glanhau yw'r cam sylfaenol wrth drin y wyneb, ac un o'r moddion symlaf a mwyaf effeithlon yw dŵr a sebon. Mae hufen glanhau o ddefnydd wrth dynnu colur trwchus neu os yw'r croen yn sensitif i sebon. Olew yw elfen weithredol hufen croen, ac mae'n doddydd ac yn gyfuniad o emylsiwn a dŵr. Un o'r cymhorthion harddwch hynaf yw hufen oer, oedd yn hanesyddol yn cynnwys dŵr a brasterau naturiol megis bloneg neu olew almon. Heddiw gwneir hufen oer o olew mwynol ac emylsydd sy'n gwasgaru'r olew mewn dŵr. Pwrpas eli esmwythaol a hufen nos yw i dylino'r croen, a gadael haen drwchus ar y wyneb dros nos i leihau sychu'r croen.[6]
Defnyddir hufen dwylo i atal neu leihau'r sychder a'r garwedd a geir o ganlyniad i gynnyrch glanhau'r tŷ a'r tywydd. Mae hufen dwylo yn debyg i hufen wyneb gan ei fod yn hydradu'r croen ac yn gosod haen olew sy'n lleihau'r maint o ddŵr a gollir tra bo prosesau naturiol y corff yn gwella cyflwr y croen.[6]
Colur wyneb
[golygu | golygu cod]Yn hanesyddol, gwedd olau a ddymunir gan ferched ffasiynol, gan yr oedd wyneb â lliw haul yn awgrymu taw gwerinwraig yn gweithio yn y caeau trwy'r dydd oedd y ferch. Mewn achosion eithriadol buont yn gwaedu eu hunain i gael croen gwelw, ond fel arfer colur gwyn a ddefnyddir i oleuni'r bochau. Nid oedd y colur o reidrwydd yn saffach, gan yr oedd yn cynnwys cemegion niweidiol megis plwm ocsid. Ar adegau eraill, gan gynnwys yr oes fodern, bochau cochion sy'n ffasiynol fel arwydd o iechyd da a hoen ieuenctid. Ar fyr rybudd, pinsio'r bochau oedd yr arfer i ddod â lliw gwridog iddynt, ond powdwr wyneb coch a ddefnyddid wrth y bwrdd ymbincio.[7]
Wrth liwio'r wyneb gan fenywod yn yr oes fodern, dilynir trefn o golur sylfaen, powdwr wyneb, a gruddliw. Hufen di-liw yw'r colur sylfaen clasurol, sef emylsiwn olew-mewn-dŵr sy'n cynnwys 15% asid stearig, a rhan fechan o'r asid wedi ei seboneiddio (hynny yw, ei throsi'n ffurf grisialog) er mwyn rhoi sglein. Nid yw'r fath hufen yn gadael caen seimllyd ar ei ôl, ond yn rhoi sylfaen lefn a glynol ar gyfer powdwr wyneb. Gosodir y powdwr ar ben y colur sylfaen gan greu golwg melynbinc. Ymhlith y cynhwysion sy'n creu powdwr wyneb da mae talc, sy'n ei wneud yn hawdd ei daenu; sialc neu gaolin, sy'n ei alluogi i amsugno lleithder; magnesiwm stearad, sy'n ei lynu at y croen; sinc ocsid a thitaniwm ocsid, sy'n ei alluogi i orchuddio'r croen yn drwyadl; ac amryw o bigmentau i'w liwio. Mae'n bosib ychwanegu rhagor o liw gan ddefnyddio gruddliw neu ruddliw, i amlygu esgyrn y bochau.[6]
Cosmetigau'r llygaid
[golygu | golygu cod]Fel rheol, anhepgor mae cosmetigau'r llygaid wrth goluro'r holl wyneb. Gan eu bod yn agos iawn i'r llygaid, mae'n rhaid i gynhwysion y cosmetigau hyn fod yn ddiberygl. Defnyddir masgara i amlygu blew'r amrannau, colur llygaid i liwio'r amrannau, a phensil linellu i liwio'r aeliau ac ymylon yr amrannau.[6]
Minlliw
[golygu | golygu cod]Un o'r cosmetigau mwyaf poblogaidd ar draws y byd yw minlliw, neu lipstic, sy'n lliwio a gweadu'r gwefusau. Sylfaen brasterog sydd i finlliw sy'n solet ond eto yn taenu'n hawdd. Daw'r lliw gan amlaf o bigment, yn aml coch ond hefyd titaniwm deuocsid, sef cyfansoddyn gwyn sy'n rhoi gorchudd llachar. Gan ei fod yn cyffwrdd â'r geg mae'n rhaid i gynhwysion minlliw fod yn hollol saff.[6] Mae'n debyg taw cysylltiad rhwng y gwefusau a'r gweflau sy'n gyfrifol am atyniad rhywiol y gwefusau benywaidd, ac felly'r arfer o dynnu sylw at eu lliw a'u maint. Yn yr 21g ceir tri threfn o goluro'r gwefusau: minlliw coch llachar, sglein gwefusau, neu gyfuniad o'r ddau gynnyrch.[8] Wrth gwrs, ceir hefyd minlliw o bob lliw arall, ond rhyw arlliw o goch yw'r dewis arferol.
Gofal gwallt
[golygu | golygu cod]Dyler osgoi sebon wrth olchi'r gwallt, gan ei fod yn gadael haen seimllyd ar ei ôl. Golchir gyda siampŵau disebon, sydd yn hylifau golchi gydag arogl arbennig. Ymhlith y cynnyrch sy'n rhoi sglein a maint i wallt mae chwistrell wallt resinaidd, olew gwallt neu "briliantîn", pomâd, a golchdrwythau a chanddynt sail alcohol. Defnyddir cyflyrwyr i drin gwallt sydd wedi cael niwed. Newidir ffurf naturiol gwallt yn syth neu'n donnog gan ddarpariaethau sy'n cynnwys amoniwm thioglycolat. Gellir newid neu ychwanegu at liw gwallt gan ddefnyddio lliwur gwallt, neu hydrogen perocsid i liwio'r gwallt yn olau.[6]
Gofal ewinedd
[golygu | golygu cod]Ers talwm dymunir ewinedd hirion gan y fenyw ffasiynol, yn wreiddiol fel symbol o statws gan nodi nad oedd angen iddi weithio gyda'i dwylo. Tynnir sylw at yr ewinedd drwy eu lliwio, er enghraifft lliw aur yn yr hen Tsieina. Yn yr oes fodern mae nifer o fenywod yn dewis gwisgo ffug ewinedd ar gyfer yr achlysur cymdeithasol, ac ewinedd byrion ar gyfer diwrnod gwaith. Mae nifer o'r rhai sy'n tyfu eu hewinedd yn hir yn eu lliwio gyda phatrymau a dyluniadau. Estynnir maes celfyddyd ewinedd o isddiwylliannau hyd at y ffasiwn uchaf. I'r menywod sy'n ystyried yr arfer hon yn ormod, gellir dewis y driniaeth dwylo Ffrengig. Nod yr arddull hon yw i gadw'r ewinedd yn lân ac yn naturiol, ond hefyd i bwysleisio blaenau gwynion iddynt.[9] I'r mwyafrif o ferched, trefn syml o'u lliwio gyda farnis ewinedd a ddilynir. Pob lliw sydd ar gael: y rhai traddodiadol yw coch, pinc a thryloyw.
Persawr
[golygu | golygu cod]- Prif: Persawr a Peraroglaeth
Darpariaeth a wneir o ddefnyddiau naturiol a synthetig ac sy'n rhoi arogl yw persawr. Mae'n bosib i bersawrau pen ucha'r farchnad gynnwys mwy na chant o gynhwysion.[10]
Defnydd
[golygu | golygu cod]Menywod
[golygu | golygu cod]Prif bwrpas cosmetigau yn y byd modern yw i atgyfnerthu nodweddion naturiol y wyneb fenywol i'w gwneud yn fwy atyniadol. Bu hon yn un o brif ddefnyddiau cosmetigau ers talwm, mewn diwylliannau a chymdeithasau ar draws y byd, ond yn ôl normau ac arferion amrywiol. Ers oes y Rhufeiniaid, y ddwy brif nod sydd gan golur yn Ewrop yw i wella diffygion naturiol, un ai'n dybiedig neu'n go iawn, ac i gadw'n ffasiynol.
Croen llyfn, esgyrn bochau uchel, llygaid gloywon, a gwefusau llawn yw'r wedd fenywaidd a bwysleisir gan y ddelfryd gorfforol fodern ym myd y Gorllewin. Felly, mae'r drefn goluro arferol yn cynnwys colur sylfaen a cholur cuddio i leihau rhychau a chuddio brychni haul a brychau eraill ar y croen i wneud y wyneb edrych yn lân, iach ac ifanc. Dodir powdwr gwrido o dan yr esgyrn boch mewn haenau sy'n fwyfwy tywyll gan wneud iddynt edrych yn uwch. Defnyddir colur llygaid, pensil linellu, a masgara i amlinellu a thywyllu'r llygaid. Câi'r gwefusau eu llinellu a'u lliwio gan roi iddynt wedd lawn a thywyll. Mae'r holl dechnegau hyn yn pwysleisio prydferthwch ac arwyddion rhywiol y fenyw.[4]
Traddodiadau, gwyliau, defodau crefyddol ac achlysuron arbennig sy'n galw am golur mewn nifer o ddiwylliannau. Yng Ngogledd Affrica, y Dwyrain Canol a rhannau o Asia, defnyddir y planhigyn henna i liwio'r croen ar gefnau'r dwylo ar gyfer priodas. Câi patrymau cywrain eu lliwio ar ddwylo'r briodasferch y noson cyn y seremoni. Credir i'r patrymau henna gynnwys rhinwedd pur sy'n cadw rhag y Llygad Drwg.[11]
Puteindra
[golygu | golygu cod]Oherwydd swyddogaeth colur wrth bwysleisio rhywioldeb y fenyw, mae cysylltiad hanesyddol rhwng colur trwm â phuteindra sy'n mynd yn ôl i Jesebel yn yr Hen Destament. Yn Ewrop, roedd gordderchon brenhinol yn Lloegr a Ffrainc yn arwain y ffasiynau a chafodd eu dilyn gan y puteiniaid llys. Ar ochr draw'r byd, rhybuddiodd tadau Astecaidd eu merched rhag colur, gan honni taw "creaduresau digywilydd" oedd y menywod a chanddynt paent ar eu hwynebau a choch ar eu gwefusau.[4]
Merched ifanc
[golygu | golygu cod]"Nid oedd lipstick yn unman, ond un diwrnod, pan oeddwn yn hel blodau y buenas noches, blodyn a agorai gyda'r hwyr, sylwais fod sudd deilen y blodeuyn coch ar fy mysedd a hwnnw yn lliw tlws, naturiol. Euthum â blodyn i'm hystafell ac o flaen y drych, roddais ychydig o'r "lliw" ar fy ngwefusau a'm bochau – ac yr oeddwn yn eithaf bodlon ar yr hyn a welais."
Yn draddodiadol, dim ond ychydig o achlysuron diwylliannol sydd i blant goluro: paentio'r wyneb yn y ffair, gwisg ffansi am bartïon a Nos Galan Gaeaf, a'r cyfle i ferch chwarae gyda phecyn colur ei mam. Math o ddefod newid byd yw cosmetigau i'r ferch yn ei harddegau ers amser: y cyfle cyntaf iddi harddu ei golwg ac amlygu'i hapêl rywiol fel dynes ifanc. Dechreuodd gwneuthurwyr fanteisio ar y farchnad arddegau yn y 1950au a'r 1960au, gan gynnwys Bonne Bell yn yr Unol Daleithiau a Mary Quant ym Mhrydain. Yn y 1950au Tinkerbell oedd y cwmni cyntaf i gynhyrchu colur ar gyfer plant, ond gwrthododd y cwmni i werthu colur amrannau a rhuddliw i ferched ifainc, ac anelodd ei hysbysebion at rieni yn hytrach na'r plant eu hunain. Yn y 1980au a'r 1990au dyluniwyd cosmetigau ar gyfer merched oed 10–13, ac yn hwyrach at ferched mor ifanc ag oed 3. Rhoddwyd y "colur tegan" cyntaf yn Japan ar werth ym 1993. Ar ddechrau'r 21g, roedd y farchnad Americanaidd ar gyfer cosmetigau plant yn werth $10 biliwn. Ymhlith y pryderon parthed y farchnad hon mae tanseilio teimladau merched o ran golwg a rhywioli plant.[5]
Dynion
[golygu | golygu cod]Yng nghylchoedd uchaf cymdeithas yr Hen Aifft defnyddiodd dynion golur llygaid a phersawrau yn yr un moddion â menywod. Roedd gan golur llygaid bwrpas ymarferol, ac nid addurnol yn unig: i amddiffyn rhag pelydrau'r haul, i warchod rhag y Llygad Drwg, i ymlid pryfed, ac fel diheintydd i atal afiechydon y llygaid.[13] Eithriad yw'r cyfnod hwn, ac fel rheol ni wisgir colur gan ddynion. Defnyddid peraroglau eto gan ddynion yn Ewrop yr 17eg a'r 18g i guddio aroglau'r corff.[14]
Yn hanesyddol roedd arferion addurnol gan nifer o ddiwylliannau, yn enwedig paent rhyfel. Arferid gŵyr bonheddig Ewrop, yn enwedig brenhinoedd, baentio'i hwynebau, a lliwio'u haeliau a'u mwstashis yn ddu gan ddefnyddio corc llosg. Hyd yn oed pan yr oedd yn ffasiynol, ystyrid yr arfer o gosmetigau gwrywaidd yn wacsaw a'n ddiraddiol. Coegynnod a dandïod oedd yr ystrydeb o'r dynion ifainc cyfoethog oedd yn dilyn ffasiynau'r 17g a'r 18g.[4]
Yn yr oes fodern parheir rhywfaint o warthnod parthed dynion a cholur, a gwelir yn ferchetaidd gan rai ac felly ceir cysylltiad gyda chyfunrywioldeb a thrawswisgo. Yn gyffredinol rebeliaid cymdeithasol yw'r unig ddynion sy'n gwisgo colur amlwg yng ngwledydd y Gorllewin, yn enwedig ym myd cerddoriaeth boblogaidd ac isddiwylliannau.[13]
Theatr
[golygu | golygu cod]- Prif: Colur theatr
Gwaith y colurwr a'r golurwraig ym myd y theatr, teledu a'r sinema yw i ddefnyddio cynnyrch a thechnegau cosmetig i newid actor neu actores yn gymeriad penodol o ran oed, ethnigrwydd, a rhyw, neu hyd yn oed newid person yn anghenfil neu'n estron. Er mwyn trawsnewid golwg yr actor yn ddramatig i'r gynulleidfa, mae colur theatr o reidrwydd yn drwm.[4]
Isddiwylliannau a cherddoriaeth
[golygu | golygu cod]Gall cosmetigau nodi aelodaeth isddiwylliant cymdeithasol neu gyfleu hunaniaeth neu chwantau ffasiynol yr unigolyn. Gan amlaf coluron tra-annaturiol yw rhain sy'n pwysleisio ffasiyndod yn hytrach na harddu'r croen mewn modd ysgafn: er enghraifft minlliw gwyrdd, gwyn neu ddu, masgara glas, gliter corff, a cholur wyneb o liwiau cryf.[4]
Yn yr 20g daeth arddulliau cosmetig yn rhan bwysig o ddiwylliant ieuenctid a'u cerddoriaeth. Arferid ambell arddull neilltuol gan selogion roc, pync a metel trwm. Chwalwyd y rhwystr cymdeithasol oedd yn atal dynion rhag gwisgo colur gan gerddorion megis Marc Bolan, David Bowie, Robert Smith ac Alice Cooper. Mae'n bosib taw'r Rolling Stones oedd y cyntaf i wneud, pan wisgodd Mick Jagger a Keith Richards golur llygaid wrth berfformio "Jumpin' Jack Flash" ar ddiwedd y 1960au.[13] Yn oes y disco a cherddoriaeth glam roedd gliter a cholur disglair o batrymau lliwgar yn hynod o boblogaidd. Roedd colur pinc a gwyrddlas yn boblogaidd gan ferched y 1980au yn y clybiau wrth greu wedd fywiog. Defnyddir colur disglair a llachar gan y diwylliant ref i gyd-fynd â'u dillad a gemwaith sy'n fflworoleuo dan y golau uwchfioled.
Golwg ddu a gwyn sydd i golur Goth, yn debyg i ffasiwn yr isddiwylliant hwnnw. Sylfaen gwyn, colur llygaid du a minlliw tywyll yw'r wedd nodweddiadol i fechgyn a merched. Câi'r colur llygaid, megis cohl, ei ddodi'n drwm ac o bosib mewn patrwm niwlog. Du, lliw gwin a dugoch ("lliw cyrens duon") yw'r minlliwiau arferol. Os nad oes gwallt du ganddynt yn barod, mae Gothiaid yn aml yn lliwio'r gwallt yn dywyll neu'n dduloyw, a chaiff ei dyfu'n hir, yn llaes neu'n ffluwchaidd. Câi'r ewinedd eu paentio'n ddu gan y ddwy ryw hefyd. Dynwaredir yr olwg hon mewn modd ysgafn gan nifer o fenywod sy'n coluro'r gwefusau'n dywyll a'r croen yn olau, a elwir yn arddull neo-goth.[15]
Hanes
[golygu | golygu cod]- Prif: Hanes cosmetigau
Defnyddiodd pobloedd cynhanesyddol baent corff er resymau addurnol a chrefyddol. Defnyddiwyd hefyd elïau, balmau, powdrau, a lliwurau gwallt gan bobledd hynafol.[16] Ymhlith cosmetigau'r Henfyd oedd cohl i dywyllu blew'r amrannau, yr aeliau ac ymylon yr amrannau, rhuddliw i gochi'r bochau, ac amryw o bowdrau gwyn i oleuo pryd a gwedd. Defnyddiwyd hefyd olewon baddon, a sylweddau ysgraffiniol i lanhau'r dannedd. Gwneid persawrau'r cyfnod o sentau blodau a pherlysiau, a resinau naturiol i'w glynu. Yn ôl archaeolegwyr, defnyddiwyd y cosmetigau cynharaf yn yr Hen Aifft yn y bedwerydd filflwyddiant CC. Colur llygaid (cohl) ac elïau persawrus oedd y rhain.[6] Defnyddiodd yr Eifftiaid hefyd paent crai i goluro'r wyneb a henna i liwio'r bysedd. Yng Ngroeg yr henfyd, defnyddiodd Groegesau bensiliau siarcol a ffyn a wneid o lysiau'r gwrid i goluro'u hwynebau, yn ogystal â phowdwr wyneb oedd yn aml yn cynnwys meintiau peryglus o gyfansoddion plwm. Yn yr Hen Rufain colurid wyneb y foneddiges gan gaethwas medrus gan ddefnyddio sialc a gruddliw o'r enw fucus.[16] Lledaenodd cosmetigau ar draws yr Ymerodraeth Rufeinig erbyn cychwyn yr oes Gristnogol.[6]
Diflanodd nifer o nodweddion diwylliannol coeth, gan gynnwys cosmetigau, o Ewrop yn sgil cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig yn y 5g. Cafwyd adfywiad yn yr Oesoedd Canol wrth i'r Croesgadwyr ddwyn cosmetigau, olewon a phersawrau yn ôl o'r Dwyrain Canol.[6] Ailymddangosodd cosmetigau ar draws Ewrop yn ystod y Dadeni, er enghraifft fermiliwn a phowdwr plwm gwyn.[16] Canolfannau'r farchnad newydd oedd yr Eidal (yn y 15g a'r 16g) a Ffrainc (ers yr 17g). Ar y dechrau dim ond y teuluoedd brenhinol, gŵyr a gwragedd y llysoedd brenhinol, a'r pendefigion oedd yn coluro, ond erbyn y 18g defnyddid cosmetigau gan bob adran o gymdeithas bron.[6] Cyhoeddwyd nifer fawr o ryseitiau coluron a llawlyfrau'r toilette (bwrdd ymbincio) yn yr 17g a'r 18g. Ymddangosodd y cosmotolegwyr proffesiynol cyntaf, gan argymell arferion moethus megis ymdrochi mewn gwin neu laeth. Cyrhaeddodd cosmetigau eu hanterth tua 1760, ond dechreuodd diflannu o Ewrop unwaith eto tua cyfnod y Chwyldro Ffrengig.[16] Ni ddefnyddid cosmetigau o gwbl gan barchusion Oes Fictoria ym Mhrydain a'r Unol Daleithiau, ond parhaodd yn boblogaidd gan ferched yn Ffrainc trwy'r 19g.[6]
Cychwynnodd adfywiad cosmetigau ar ddechrau'r 20g, gan fanteisio ar ddatblygiadau gwyddonol a gwneuthuro cymhorthion harddwch yn Ffrainc.[16] Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf daeth colur yn ffasiynol unwaith eto ym Mhrydain a'r Unol Daleithiau, a datblygodd y diwydiant cosmetigau ar raddfa eang o ran cynnyrch a thechnegau newydd, pecynnu, a hysbysebu.[6] Sefydlwyd cwmnïau gan Helena Rubinstein, Elizabeth Arden, Estée Lauder, Charles Revson a nifer o bobl fusnes eraill. Erbyn diwedd yr 20g a chychwyn yr 21g, mae'r fath cwmnïau anferth yn dominyddu'r diwydiant cosmetigau.[16]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ cosmetig. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Tachwedd 2015.
- ↑ 2.0 2.1 Geiriadur yr Academi, [cosmetic].
- ↑ mecyp. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Tachwedd 2015.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 Julie Vedder. The Oxford Companion to the Body, gol. Colin Blakemore a Shelia Jennett (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2001), make-up.
- ↑ 5.0 5.1 Elizabeth Haiken. Encyclopedia of Children and Childhood in History and Society (Gale, 2004), cosmetics.
- ↑ 6.00 6.01 6.02 6.03 6.04 6.05 6.06 6.07 6.08 6.09 6.10 6.11 (Saesneg) cosmetic. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Tachwedd 2015.
- ↑ Morris, Desmond. The Naked Woman: A Study of the Female Body, (Llundain, Vintage, 2004), t. 73.
- ↑ Morris, The Naked Woman (2004), t.84.
- ↑ Morris, The Naked Woman (2004), tt. 139–140.
- ↑ (Saesneg) perfume. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Tachwedd 2015.
- ↑ Morris, The Naked Woman (2004), t. 138.
- ↑ Jones, Valmai. Atgofion am y Wladfa (Llandysul, Gwasg Gomer, 1985), t. 77.
- ↑ 13.0 13.1 13.2 Morris, Desmond. The Naked Man: A Study of the Male Body (Llundain, Vintage, 2009), t. 63.
- ↑ Morris, The Naked Man (2009), t. 142.
- ↑ (Saesneg) Rachel Syme (29 Hydref 2013). Halloween or Not, a Softer Shade of Goth Makeup. The New York Times. Adalwyd ar 16 Mai 2016.
- ↑ 16.0 16.1 16.2 16.3 16.4 16.5 (Saesneg) cosmetics. The Columbia Encyclopedia (2005). Adalwyd ar 15 Ionawr 2016.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Angeloglou, M. (1970). A history of makeup. Macmillan, Efrog Newydd.
- Peiss, Kathy. (1999). Hope in a Jar: The Making of America's Beauty Culture. Owl Press, Efrog Newydd.
- Wykes-Joyce, M. (1961). Cosmetics and adornment: ancient and contemporary usage. Philosophical Library, Efrog Newydd.