Hanes cosmetigau
Enghraifft o'r canlynol | agwedd o hanes |
---|---|
Math | Hanes diwylliannol, industrial history, history of chemistry |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes hir a byd-eang sydd gan gosmetigau: arfer ddiwylliannol a chrefyddol, nodwedd ffasiwn, a nwydd traul.
Defnyddiodd pobloedd cyn-hanesyddol baent corff er resymau addurnol a chrefyddol. Defnyddiwyd hefyd elïau, balmau, powdrau, a lliwurau gwallt gan bobloedd hynafol.[1] Ymhlith cosmetigau'r Henfyd oedd cohl i dywyllu blew'r amrannau, yr aeliau ac ymylon yr amrannau, rhuddliw i gochi'r bochau, ac amryw o bowdrau gwyn i oleuo pryd a gwedd. Defnyddiwyd hefyd olewon baddon, a sylweddau ysgraffiniol i lanhau'r dannedd. Gwneid persawrau'r cyfnod o sentiau blodau a pherlysiau, a resinau naturiol i'w glynu.[2]
Datblygodd Japan a Tsieina draddodiadau coluro sy'n debyg i arferion Ewrop. Cymysgid lacr ewinedd o gwm Arabaidd, gwynwy, gelatin a chwyr gwenyn gan yr hen Tsieineaid tua 3 mil o flynyddoedd CC.[3] Mewn cymdeithasau eraill o gwmpas y byd, defnyddid colur yn aml mewn ffyrdd nad oedd yn ceisio dynwared neu bwysleisio ffurfiau naturiol y corff. Defnyddid henna gan fenywod y Dwyrain Canol yn hanesyddol i liwio patrymau ar eu dwylo a'u traed, a gosodir cylch o gohl o amgylch y llygaid i leihau llewyrch yr haul. Paentiodd ynyswyr deheuol y Cefnfor Tawel eu hwynebau a'u cyrff gydag ocr. Marciodd y Brythoniaid eu croen gyda phlanhigyn y glaslys. Lliwia'r gwallt yn las, gwyrdd, oren neu borffor gan nifer o ddiwylliannau. Traddodiad o baentio "mwgwd uffernol" ar y wyneb i ddychryn ysbrydion sy'n gyffredin i lwythau a chenhedloedd amrywiol. Patrymau a lliwiau arbennig a ddefnyddir yn aml i alw am haelioni gan dduwiau neu ffigurau mytholegol neu gosmolegol.[4]
Yr Henfyd
[golygu | golygu cod]Yr Hen Aifft
[golygu | golygu cod]Yn ôl archaeolegwyr, defnyddiwyd y cosmetigau cynharaf yn yr Hen Aifft yn y bedwerydd filflwyddiant CC. Colur llygaid du (cohl) a gwyrdd (malachit) ac elïau persawrus oedd y rhain.[2][3] Defnyddiodd yr Eifftiaid hefyd paent crai i goluro'r wyneb a henna i liwio'r bysedd.[1] Roedd celfyddyd coluro cain gan yr Hen Eifftiaid, yn enwedig y dosbarth uchaf: defnyddid gwahanol arlliwiau o golur llygaid yn dibynnu ar adeg y flwyddyn, a gwahanol arlliwiau o golur yn dibynnu ar awr y dydd i gydweddu â golau cryf yr anialwch. Claddwyd nifer o fymïod gyda chosmetigau ar gyfer y byd nesaf.[4]
Groeg yr henfyd
[golygu | golygu cod]Yng Ngroeg yr henfyd defnyddid colur gan wragedd yr uchelwyr i edrych yn brydferth ac i fod yn ffasiynol. Gwelir menywod yn gwisgo colur ar ffresgoau mewn palasau Knossos (1500 CC) a sonir amdanynt gan gerddi'r cyfnod clasurol (500–336 CC).[5]
Dilynodd y Roeges fonheddig drefn goluro sydd rhywbeth yn debyg i'r arfer gan fenywod yn yr oes fodern o osod gruddliw ar ben colur sylfaen. Taenodd past llyfn o blwm gwyn a dŵr ar ei hwyneb, ei gwddf, ei hysgwyddau a'i breichiau i roi gwedd wen a di-grych i'w chroen. Gwneid darpariaeth arall drwy drwytho plwm gwyn mewn finegr, casglu'r hyn sydd wedi rhydu, ei falu'n powdwr, a'i wresogi. Nesaf, dododd minlliw llachar a phowdwr coch, a wneid o gynhwysion megis gwymon, blodau, neu fwyar Mair. Gwneid colur tywyll o barddu i liwio'r amrannau, blew'r amrannau, a'r aeliau.[5] Defnyddid hefyd pensiliau siarcol a ffyn a wneid o lysiau'r gwrid i goluro'r wyneb.[1]
Mae'n debyg taw'r cost oedd yn gyfrifol am gyfyngu'r arfer i fenywod cyfoethog yn unig. Yr amcan ymarferol yn yr hinsawdd heulog, yn enwedig yn Athen, oedd i gadw lliw'r croen yn olau. Golwg drwm ac amlwg oedd yr arddull: cylchoedd cochion ar y bochau, a llinellau llifol i amlinellu'r llygaid. O ganlyniad roedd perygl i'r colur olchi ymaith gan chwys, ac mae'n bosib roeddynt yn treulio'r mwyafrif o amser dan do pan oeddynt yn gwisgo colur.[5] Roedd y powdwr wyneb hefyd, wrth gwrs, yn cynnwys meintiau peryglus o gyfansoddion plwm.[1]
Hen Rufain
[golygu | golygu cod]Defnyddid cosmetigau gan fenywod yr Hen Rufain, ac ambell dyn, i wella'r olwg. Cafodd paent ei daenu ar draws y wyneb i roi lliw gwyn. Mewn trefn debyg i'r Groegiaid, bu rhai yn defnyddio gruddliw i liwio'r bochau neu'r gwefusau'n goch a pharddu i dywyllu'r aeliau neu flew'r amrannau.[6] Colurid wyneb y foneddiges gan gaethwas medrus gan ddefnyddio sialc a gruddliw o'r enw fucus.[1] Ymhlith cynhwysion cyffredin y pastau eraill a ddefnyddir oedd plwm, mêl, a saim.[6]
Bu'r Rhufeiniaid hefyd yn trochi mewn olewon, naill ai o'r olewydd yng nghyfnod Gweriniaeth Rhufain neu olew pêr yn yr Ymerodraeth Rufeinig. Roedd yr arfer hon yn bwysig wrth ystyried yr arogl drwg a gynhyrchir gan gynhwysion y cosmetigau. Er enghraifft, defnyddiodd gwraig yr Ymerawdwr Nero driniaeth i'r wyneb a wneid o saim dafad, briwsion bara, a llaeth. Gwneid hefyd past o organau cenhedlu llo wedi eu toddi mewn swlffwr a finegr; cymysgedd o ysgarthion crocodeil; a gwlân-olew neu lanolin, hynny yw olew a ddaw o rhannau chwyslyd y dafad.[6] Lledaenodd cosmetigau ar draws yr Ymerodraeth Rufeinig erbyn cychwyn yr oes Gristnogol.[2]
Ewrop yr Oesoedd Canol a'r cyfnod modern cynnar
[golygu | golygu cod]Diflannodd nifer o nodweddion diwylliannol coeth, gan gynnwys cosmetigau, o Ewrop yn sgil cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig yn y 5g. Cafwyd adfywiad yn yr Oesoedd Canol wrth i'r Croesgadwyr ddwyn cosmetigau, olewon a phersawrau yn ôl o'r Dwyrain Canol.[2] Cynhwysodd y meddyg o Sais Gilbertus Anglicus ryseitiau am gymhorthion harddwch yn ei wyddoniadur, Compendium Medicinae (c. 1240).[3] Er gwaethaf y rhybuddion gan seintiau cynnar yn erbyn colur, lledaenodd yr arfer o baentio'r wyneb gan wragedd bonheddig ar draws Ewrop. Palet colur o goch a gwyn oedd y safon a sefydlwyd yn ystod yr Oesoedd Canol, er fod lliwiau eraill megis gwyrdd hefyd yn boblogaidd yn y cyfnod.[4]
Ailymddangosodd cosmetigau ar draws Ewrop yn ystod y Dadeni, a'r Eidal yn ganolfan i'r farchnad newydd hon trwy gydol y 15g a'r 16g. Defnyddiodd menywod y cyfnod bowdwr plwm gwyn, cymysgedd o finegr a phlwm, i wynnu'r wyneb a'r fynwes.[3] Colurid y bochau a'r gwefusau'n goch gan ddefnyddio'r pigment fermiliwn, sef mercwri swlffid neu sinabar. Roedd y rhain yn hoff gan wragedd llys y Frenhines Elisbaeth I yn enwedig, a pharhaodd y ffasiwn o groen gwelw a bochau a gwefusau gloywon yn Lloegr am genhedlaethau.[4]
Yn yr 17g daeth Ffrainc yn wlad bwysicaf y gelfyddyd a'r farchnad gosmetig yn Ewrop. Ar y dechrau dim ond y teuluoedd brenhinol, gŵyr a gwragedd y llysoedd brenhinol, a'r pendefigion oedd yn coluro, ond erbyn y 18g defnyddid cosmetigau gan bob adran o gymdeithas bron.[2] Cyhoeddwyd nifer fawr o ryseitiau coluron a llawlyfrau'r toilette (bwrdd ymbincio) yn yr 17g a'r 18g. Ymddangosodd y cosmotolegwyr proffesiynol cyntaf, gan argymell arferion moethus megis ymdrochi mewn gwin neu laeth. Cyrhaeddodd yr arfer ei hanterth tua 1760, ond dechreuodd diflannu o Ewrop unwaith eto tua cyfnod y Chwyldro Ffrengig.[1]
Y diwydiant cosmetigau modern
[golygu | golygu cod]Ni ddefnyddid cosmetigau o gwbl gan barchusion Oes Fictoria ym Mhrydain a'r Unol Daleithiau, ond parhaodd yn boblogaidd gan ferched yn Ffrainc trwy'r 19g.[2] Y prif ddylanwad ar gosmetigau modern oedd colur theatr. Actoresi megis Lillie Langtrey a Sarah Bernhardt oedd arloeswyr y maes cosmetig ar ddiwedd y 19g, oddi ar y llwyfan yn ogystal.[3]
Adeg o newid mewn bywydau menywod oedd troad y ganrif, a’r Rhyfel Byd Cyntaf yn enwedig. Ymunodd nifer ohonynt â’r gweithlu am y tro cyntaf drwy gymryd swyddi’r dynion a fu’n mynd i ymladd. Enillodd menywod yr hawl i bleidleisio mewn nifer o wledydd. Teimlad o ryddid oedd gan fenywod yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, a ddangosant drwy arddulliau newydd o ran gwisg. Rhan o’r ddelwedd hon oedd cosmetigau, ac o ganlyniad daeth mwy o fenywod ym Mhrydain a’r Unol Daleithiau i weld colur yn arfer bob dydd. Defnyddiodd y flappers Americanaidd finlliw trwm o liwiau tywyll ac enwau megis "gwaed ych". Lliwiodd eu bochau’n goch, ac weithiau eu pengliniau hefyd wrth i godreon eu sgertiau codi yn ôl ffasiwn y Dauddegau Gwyllt.[7]
Dylanwadodd arddulliau'r Dwyrain ar ffasiynau'r Ewropeaid a'r Americanwyr. Ar ddechrau'r ganrif gwisg lachar a cholur trwm tywyll oedd yn boblogaidd o ganlyniad i ddiddordeb gyda'r bale Rwsiaidd. Cafodd rhai menywod hyd yn oed datŵau tywyll ar eu gwefusau, bochau, ac aeliau. Wedi darganfyddiad bedd y Pharo Tutankhamen ym 1922, daeth golwg Eifftaidd yn ffasiynol: colur trwm o amgylch y llygaid.[7] Hynod o ddylanwadol oedd sêr y sinema. Gwisgodd yr actores Theda Bara masgara cohl trwm wrth bortreadu’r prif gymeriad yn y ffilm Cleopatra (1917). Dyluniwyd ei cholur gan Helena Rubenstein, un o arloeswyr mwyaf lwyddiannus y diwydiant cosmetigau, ar efelychiad arferion y theatr Ffrengig yn ogystal â diwylliant yr Hen Aifft.[8]
Manteisiodd yr adfywiad cosmetigau ar ddatblygiadau gwyddonol a thechnegau gwneuthuro yn Ffrainc.[1] Datblygodd y diwydiant ar raddfa eang o ran cynnyrch a thechnegau newydd, pecynnu, a hysbysebu.[2] Gwerthwyd cosmetigau mewn blychau a photeli cludadwy, tiwbiau minlliw a chompactau powdwr. Daeth yn arfer gan y fenyw ffasiynol nid yn unig i gadw ei phecyn colur arni ym mhobman, ond hefyd i goluro’i hwyneb yn gyhoeddus, gan ddefnyddio’r drych bychan ar gaead y compact.[7] Daeth y brandiau cyntaf megis Max Factor i’r farchnad.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd daeth cosmetigau’n brin ac yn ddrud o ganlyniad i’r angen am gemegion ac adnoddau eraill gan yr ymgyrch ryfel. Ymunodd nifer o fenywod â’r gweithlu, gan wisgo’n ymarferol ac yn ddi-golur. Yn sgil diwedd y rhyfel, ffynnodd y farchnad a chafodd menywod eu hannog i siopa i gryfhau’r economi. Pwysleisiodd llywodraethau yr angen iddynt droi'n ôl at eu dyletswyddau benywaidd, er mwyn i’r dynion dychwelyd at eu swyddi. O ganlyniad daeth cosmetigau’n bwysig unwaith eto i fywyd pob dydd menywod mewn gwledydd y Gorllewin.[9]
Golwg liwgar ac addurnol oedd yn ffasiynol gan fenywod ar ddiwedd y 1940au. Hon yw’r adeg pan ddaeth minlliw, colur sylfaen hylifol neu hufennog, powdwr, gruddliw, colur llygaid, pensel linellu, masgaru, a farnis ewinedd yn rhan o’r drefn feunyddiol gan y mwyafrif o fenywod mewn gwledydd y Gorllewin. Dywedodd nifer o fenywod yr oeddent yn teimlo’n noeth tan iddynt roi powdwr a phaent ar eu hwynebau. Ym 1950 roedd 11% o’r holl hysbysebu yn yr Unol Daleithiau yn ceisio gwerthu cosmetigau.[9] Yng nghanol yr 20g sefydlwyd nifer o’r cwmnïau anferth sy’n dal i ddominyddu’r diwydiant cosmetigau heddiw. Ymhlith yr enwau mawrion mae Helena Rubinstein, Elizabeth Arden, Madame C. J. Walker, a Charles Revson.[1] Cosmetigau drud iawn a wnaed gan Esteé Lauder, gan geisio cysylltu pris uchel ag enw am safon uchel. Ar ochr draw’r farchnad, gwerthodd Hazel Bishop gosmetigau fforddiadwy ar gyfer y gweithlu benywaidd mewn siopau disgownt. Dyluniodd Johnson Products, a sefydlwyd gan George Johnson ym 1954, gynnyrch arbennig ar gyfer croen a gwallt menywod duon.[9]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 (Saesneg) cosmetics. The Columbia Encyclopedia (2005). Adalwyd ar 15 Ionawr 2016.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 (Saesneg) cosmetic. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Tachwedd 2015.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 Elizabeth Haiken. Encyclopedia of Children and Childhood in History and Society (Gale, 2004), cosmetics.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 Julie Vedder. The Oxford Companion to the Body, gol. Colin Blakemore a Shelia Jennett (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2001), make-up.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Fashion, Costume, and Culture: Clothing, Headwear, Body Decorations, and Footwear through the Ages (Gale, 2004), Ancient Greece: Makeup.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Fashion, Costume, and Culture: Clothing, Headwear, Body Decorations, and Footwear through the Ages (Gale, 2004), Ancient Rome: Makeup.
- ↑ 7.0 7.1 7.2 Fashion, Costume, and Culture: Clothing, Headwear, Body Decorations, and Footwear through the Ages (Gale, 2004), 1919–29: Makeup.
- ↑ Morris, Desmond. The Naked Woman: A Study of the Female Body, (Llundain, Vintage, 2004), tt. 59–60).
- ↑ 9.0 9.1 9.2 Fashion, Costume, and Culture: Clothing, Headwear, Body Decorations, and Footwear through the Ages (Gale, 2004), 1946–60: Makeup.