Wicipedia:Polisïau a chanllawiau

Oddi ar Wicipedia

Mae Wicipedia Cymraeg yn brosiect cydweithredol ond mae ganddi ei pholisïau ei hun. Ystyrir hefyd polisïau Wiki-en yn ganllawiau defnyddiol pan nad yw'r polisïau manwl ar gael yn y Gymraeg.

Ein hamcan gyda Wicipedia yw creu gwyddoniadur a roddir am ddim i bawb ei ddefnyddio; hwn y'r gwyddoniadur mwyaf a grëwyd erioed, o ran ei hyd a'i led. Carem iddo hefyd fod yn ffynhonnell ddibynadwy o ffeithiau diduedd.

Mae i Wicipedia, felly, nifer o bolisïau a chanllawiau a ystyrir yn bwysig gennym. Mae'r rhain yn ein cynorthwyo i gyrraedd yr amcanion yma. Mae rhai ohonynt yn esblygu o ddydd i ddydd wrth i Wicipedia ddatblygu a chynyddu. Mae eraill, fodd bynnag, wedi hen sefydlu ac ni chaent eu hystyried mewn unrhyw ffordd yn ddadleuol gan y rhan fwyaf o hen lawiau Wicipedia.

Polisïau[golygu cod]

Mae'r rhain wedi'u sefydlu ar Bum Colofn Wicipedia:

1. Osgoi rhagfarn (neu ogwydd). Dylai erthyglau gael eu hysgrifennu o safbwynt niwtral, sy'n golygu y dylai'r erthygl gynrychioli o leiaf dwy farn wahanol, a hynny yn deg ac yn sensitif. Gweler Wicipedia:Arddull ddiduedd am esboniad manylach.

2. Peidiwch ag amharu ar hawlfraint. Mae Wicipedia yn wyddoniadur a roddir i bawb yn rhydd, yn rhad ac am ddim, a hynny o fewn termau GNU Free Documentation License. Mae uwchlwytho gwaith heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint yn herio (ac weithiau'n torri) ein hamcanion, sef adeiladu gwyddoniadur cyfan gwbwl am ddim y gall unrhyw un ei ddosbarthu i unrhyw bwrpas; gall hefyd arwain at atebolrwydd cyfreithiol. Gweler Wicipedia:Hawlfraint a Wicipedia:Cynnwys cyfyngedig am ragor o wybodaeth.

3. Gwyddoniadur yw Wicipedia. Dylai'r wefan gael ei defnyddio'n bennaf er mwyn hybu'r gwyddoniadur hwn ac nid i leisio barn. Pwrpas y tudalennau 'Sgwrs' yw gwella a hybu'r erthyglau. Gweler Wicipedia:Anaddas ar gyfer Wicipedia a Wicipedia:Angen ffynhonnell sy'n ymwneud â dwy garreg glo hanfodol. Ceir polisi gennym hefyd ar Amlygrwydd, sef y meincnodau a ddefnyddir wrth i ni ystyried a ydy'r person, y grŵp, y cwmni neu'r gwrthrych yn haeddu erthygl. Ceir hefyd Bolisi ar enwi erthyglau.

4. Parchwch ddefnyddwyr eraill. Mae'r rheiny sy'n cyfrannu at Wicipedia'n dod o wahanol wledydd a diwylliannau ac mae ganddynt farn wahanol i'w gilydd yn aml. Mae hyn yn wir hefyd am y Wicipedia Cymraeg, gyda llawer o'r cyfrannwyr yn byw ledled y byd. Gallwn gydweithio'n effeithiol mewn modd cwrtais i ddatblygu Wicipedia pan rydym yn parchu pobl ac amrywiaeth barn. Gweler y canllaw Saesneg: Moesau. Mae ein Polisi preifatrwydd yn rhan anhepgor o barchu eraill.

5. Dilynwch y confensiynau. Drwy ddilyn rhai confensiynau neu arferion sydd heb eu hysgrifennu, gallwn greu gwyddoniadur mwy cyson a defnyddiol. Edrychir ar rai o'r canlynol fel polisïa drwy ddefnydd a chonfensiwn:

6. Ewch amdani!. Byddwch ddewr: os gwnewch gangymeriad - peidiwch â phoeni! Gweler: Wicipedia:Ewch amdani!.

Sut mae'r polisïau hyn yn cael eu gorfodi?[golygu cod]

Golygydd Wicipedia yw...chi. Nid oes "Prif Olygydd" neu sensor mawr sy'n goruchwylio'r holl waith o ddydd i ddydd. Yn hytrach, mae'r defnyddwyr eu hunain yn monitro newidiadau diweddar a chywiro gwallau'n ymwneud â hawlfraint a chynnwys a fformadu fel maent yn codi.

Mewn achosion eithriadol mae Jimmy Wales yn medru atal defnyddiwr sydd wedi bod yn hen niwsans. Mae Jimbo wedi creu rhai polisïau swyddogol ar ran Wicipedia: this Wikien-l post a en:User:Jimbo Wales/Statement of principles.

Sut y crëwyd y polisïau[golygu cod]

Ymarfer da a chonsensws barn mewn gwirionedd sydd wrth wraidd ein polisïau. Yn yr un modd, crëwyd y canllawiau hyn er mwyn disgrifio'r gymuned a gwaith y gymuned fel y mae hi heddiw a'r ymarfer da maent wedi ei grynhoi a'i gasglu dros y blynyddoedd. Rydym yn parhau i drafod ac ystyried problemau ar yn Y Caffi.

Canllawiau i'w hystyried[golygu cod]

Yn ogystal â'r polisïau cyffredinol rydym wedi'u rhestru uchod, mae'r canlynol yn ganllawiau a ddefnyddiwn, ond sydd wedi'u creu ar Wici-en::

Canllawiau iaith[golygu cod]

Erthyglau a sgyrsiau eraill ynghylch Wicipedia[golygu cod]

  • Mae gwefan Meta-Wikipedia yn cynnwys llawer o erthyglau ynglŷn â Wicipedia a phynciau perthynol mewn dull mwy golygyddol.
  • Creu erthyglau sut-i ar Wicipedia.