Neidio i'r cynnwys

A Way of Life

Oddi ar Wicipedia
A Way of Life
Cyfarwyddwr Amma Asante
Cynhyrchydd Charlie Hanson, Patrick Cassavetti, Peter Edwards
Ysgrifennwr Amma Asante
Cerddoriaeth David Gray
Sinematograffeg Ian Wilson
Castio Gary Howe
Sain Ian Richardson
Dylunio Hayden Pearce
Cwmni cynhyrchu AWOL Films
Dyddiad rhyddhau 2004
Amser rhedeg 91 munud
Gwlad Cymru
Iaith Saesneg

Ffilm a ryddhawyd yn 2004 ydy A Way of Life.

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

Dyma ffilm drasig sy’n rhoi mewnwelediad i erchyllder hiliaeth, wrth ddarlunio bywyd pum person ifanc sy’n ceisio dal ymlaen at eu breuddwydion. Canola’r ffilm ar Leigh-Anne Williams, mam sengl ifanc, a’u chyfoedion Robbie, sy'n dyheu i ffoi o’r gymuned diobaith, Gavin, sy'n chwilio am gariad, a Stephen, sy’n dyheu am hunaniaeth Gymreig ystyrlon. Maent yn bodoli ar gyrion cymdeithas, nes un diwrnod tyngedfennol wrth i ddiflastod, paranoia, rhwystredigaeth a dicter droi’n gymysgedd hunllefus. Pan mae dyfodol Leigh-Anne a’i phlentyn dan fygythiad, mae'n troi ei llid ar ei chymydog Mwslemaidd, Hassan. O ganlyniad, ceir llofruddiaeth erchyll ac mewn un eiliad, mae’r grwp ifanc wedi selio eu tynged.

Manylion technegol

[golygu | golygu cod]

Tystysgrif ffilm: Untitled Certificate

Fformat saethu: 35mm

Lliw: Lliw

Lleoliadau Saethu: Abertawe, Caerdydd

Gwobrau:

Gŵyl ffilmiau Blwyddyn Gwobr
The Times BFI London Film Festival2004Alfred Dunhill UK Film Talent Award (i Amma Asante)
San Sebastián Film Festival2004Special Commendation, Signis Award
South Bank Show Awards2005Times Breakthrough Artist of the Year (i Amma Asante)
Orange British Academy Film Awards2005Bafta Carl Foreman Award (i Amma Asante)
Miami International Film Festival2005Fibresci Prize, Best Film

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Llyfrau

[golygu | golygu cod]
  • Blandford, Steve, Film, Drama and the Break-Up of Britain (Bristol: Intellect, 2007).

Adolygiadau

[golygu | golygu cod]

Erthyglau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod A Way of Life ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.