Sgwrs Nodyn:Gwybodlen Gwlad

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Nodiadau defnydd[golygu cod]

Cystrawen wag[golygu cod]

{{Gwybodlen Gwlad
|enw_brodorol=*
|enw_confensiynol_hir=
|delwedd_baner=*
|enw_cyffredin=*
|delwedd_arfbais=*
|math symbol=*
|erthygl_math_symbol=*
|arwyddair_cenedlaethol=*
|anthem_genedlaethol=*
|delwedd_map=*
|prifddinas=*
|math_aneddiad_mwyaf=*
|aneddiad_mwyaf=*
|dinas_fwyaf=*
|ieithoedd_swyddogol=*
|teitlau_arweinwyr=*
|math_o_lywodraeth=*
|enwau_arweinwyr=*
|digwyddiad_sefydlu'r_wladwriaeth=*
|digwyddiadau_gwladwriaethol=*
|dyddiad_y_digwyddiad=*
|dyddiad_esgyniad_UE=
|maint_arwynebedd=*
|arwynebedd=*
|safle_arwynebedd=*
|canran_dŵr=*
|blwyddyn_amcangyfrif_poblogaeth=*
|cyfrifiad_poblogaeth=
|blwyddyn_cyfrifiad_poblogaeth=
|amcangyfrif_poblogaeth=*
|safle_amcangyfrif_poblogaeth=*
|dwysedd_poblogaeth=*
|safle_dwysedd_poblogaeth=*
|blwyddyn_CMC_PGP=*
|CMC_PGP=*
|safle_CMC_PGP=*
|CMC_PGP_y_pen=*
|safle_CMC_PGP_y_pen=*
|blwyddyn_IDD=*
|IDD=*
|safle_IDD=*
|categori_IDD=*
|arian=*
|côd_arian_breiniol=*
|cylchfa_amser=*
|atred_utc=*
|atred_utc_haf=
|cylchfa_amser_haf=
|côd_ISO=*
|côd_ffôn=*
|nodiadau=
}}

Mae * yn dynodi paramedr angenrheidiol.

Indecs Datblygiad Dynol[golygu cod]

Mae pedwar nodyn ar gael er mwyn cynrychioli "categori_IDD":

  • {{IDD uchel}}
  • {{IDD canolig}}
  • {{IDD isel}}
  • {{IDD dim}}

uchel
canolig
isel
dim


cynigiaf 'Math_o_lywodraeth' yn lle 'Math_llywodraeth', os oes modd newid hwn. Lloffiwr 18:25, 1 Mehefin 2006 (UTC)[ateb]

Sovereignty type: Cyfundrefn penarglwyddiaeth Lloffiwr 18:30, 1 Mehefin 2006 (UTC)[ateb]

Nodyn bron yn barod[golygu cod]

Dim ond cwpl o bethau ar ôl i'w gyfieithu:

area_magnitude -> ? arwynebedd
established_events -> ?
established_dates -> dyddiadau ?
currency_code -> ?
utc_offset -> ?
utc_offset_DST -> ?
time_zone_DST -> ?
Coordinated Universal Time (UTC) -> ?

Adam (sgwrscyfraniadau) 10:39, 3 Mehefin 2006 (UTC)[ateb]

Rwyf wedi bod yn chwilota rhywfaint ar y wicipedia Saesneg er mwyn deall cyd-destun y geirfa ar y wybodlen yn well – ac wedi sylweddoli fy mod wedi cyfieithu ar am air yn lle trosi ystyr!

Rwyf wedi dod i'r casgliad nad yw 'cyfundrefn penarglwyddiaeth' yn cyfleu yr hyn sydd angen ei gyfleu. O edrych ar rai enghreifftiau o wledydd ar Wikipedia yr hyn sydd angen yn y blwch yw disgrifiad o'r digwyddiad adeg y crewyd y wladwriaeth (e.e. established/formation/independence). Gan hynny rwyn cynnig 'digwyddiad_sefydlu'r_wladwriaeth' ar gyfer 'sovereignty_type', 'digwyddiadau_gwladwriaethol' ar gyfer 'established_events' a 'dyddiad_y_digwyddiad' ar gyfer 'established_dates'.

Dylai 'arwynebedd' fod yn ddigon ar gyfer 'area_magnitude', glei.

Ynglŷn â'r gair 'côd' mae gwahanol eiriaduron Cymraeg yn sillafu hwn naill ai'n 'cod' neu'n 'côd'. Ond 'codau' yw lluosog y gair ym mhob geiriadur ac nid 'côdau'. Byddai'n well newid 'Rhestr côdau galw gwledydd' i 'Rhestr codau galw gwledydd'.

Beth am 'côd arian breiniol' am 'currency code'?

A oes diben cynnwys data arwynebedd mewn milltiroedd sgwâr ar y Wicipedia? Mae defnyddiau ar gyfer ysgolion wedi hir drosglwyddo i'r mesurau metrig. Cyfleu agwedd hen ffasiwn braidd mae'r defnydd o ddata yn yr hen fesur i'm tyb i - fe fyddwn i'n cymeradwyo gweld yr wicipedia yn hepgor y milltiroedd sgwâr.

UTC yw'r byrfodd dewisedig gan yr 'International telecommunication Union' yn ôl wikipedia. Felly mae'n debyg y gallwn adael y byrfodd UTC yn UTC.

Beth am 'atred_UTC' am 'UTC_offset'?

Ni allaf weld trosiad Cymraeg o coordinated universal time yn unman. Felly dyma ddau gynnig:

  • Amser yn ôl y Cydgord Byd-eang
  • Amser yn ôl y Cyd-drefniant Byd-eang

DST – beth am 'yn yr [[Amser adeg yr Haf|haf]]'

Rydych wedi defnyddio byrfodd ar gyfer Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (CMC). Pan mae'r pwyntydd yn hofran arno mae'r term cyfan i'w weld, ond petai dyn yn argraffu'r erthygl ar bapur dim ond y byrfodd fyddai yn y golwg. Gan nad yw'r byrfodd Cymraeg CMC yn gyfarwydd byddai'n well gen i weld y term cyfan yn hytrach na'r byrfodd, os oes digon o le iddo yn y bocs. Mae rhai cyfieithwyr yn argymell defnyddio byrfoddau Saesneg os ydynt yn gyfarwydd ac mae GDP yn eithaf cyfarwydd – mae'n werth ystyried ei ddefnyddio falle.

Ydy Paredd Gallu Prynu yn ymddangos mewn rhyw eiriadur neu restr termau yn rhywle? Os nag ydy'r teitl hyn eto wedi ei dderbyn yn gyffredinol yna a allwn ystyried ehangu arno i ddweud 'Paredd y Gallu i Brynu' neu yn well fyth 'yn ôl Paredd y Gallu i Brynu'? Byddai hyn yn cyfleu ystyr y term yn eithaf da rwyn meddwl. Os yw lle'n brin gallai dyn ysgrifennu '(yn ôl [[Paredd y Gallu i Brynu|PGB]])'.

Lloffiwr 19:44, 3 Mehefin 2006 (UTC)[ateb]

Chwiliais "Cronfa Genedlaethol o Dermau" Bwrdd yr Iaith Gymraeg am purchasing power parity: nid oedd yna cyfieithiad, ond parity yw paredd a current pucrhasing power yw gallu prynu cyfredol, felly meddyliais taw paredd gallu prynu bydd y cyfieithiad synhwyrol. —Adam (sgwrscyfraniadau) 19:55, 3 Mehefin 2006 (UTC)[ateb]
Diolch am yr eglurhad. Beth yw'ch barn (neu barn eraill) ar 'Paredd y Gallu i Brynu'?

Gyda llaw, rwyn credu y bydd yn dda trafod a datblygu canllaw ar fathu termau ar gyfer Wicipedia cyn bo hir iawn, er mwyn sicrhau bod y Wicipedia cyn rhwydded i'w defnyddio â phosib. Lloffiwr 14:20, 4 Mehefin 2006 (UTC)[ateb]

Rwyf wedi newid Cynnyrch mewnwladol crynswth nôl i CMC am nawr, gan fod yr enw llawn yn "gorlifo" ac nid yw'r paramedrau "Cyfanswm" ac "Y pen" mewn llinell gyda'r data perthnasol. Beth bynnag, rwyf wedi gweld y byrfodd "CMC" yn aml heb esboniad o'r term, felly mae'n rhaid dweud nid wyf yn credu bod angen iddo gael ei sillafu'n llawn, neu y byrfodd Saesneg. —Adam (sgwrscyfraniadau) 21:35, 22 Mehefin 2006 (UTC)[ateb]

The last translation needed is Area Magnitude Paul-L 21:53, 10 Mehefin 2006 (UTC)[ateb]

Mae'n debyg y gallai dyn ychwanegu km2 at arwynebedd i wneud yn hollol glir mai cyfanswm yr arwynebedd sydd ei angen. Lloffiwr 18:45, 12 Mehefin 2006 (UTC)[ateb]
Mae'r nodyn yma'n edrych yn wych, da iawn bois. Dwi'n cytuno â Lloffiwr ynglŷn â hepgor arwynebedd milltiroedd sgwar. Edrychwch ar fr:Modèle:Pays er enghraifft. Mae'n debyg ei fod yn y nodyn saesneg dim ond er fydd yr Americanwyr!--Llygad Ebrill 19:16, 20 Mehefin 2006 (UTC)[ateb]

Cyfieithiadau olaf[golygu cod]

Fe gysylltais â Bwrdd yr Iaith yn gofyn am gymorth am y geiriau olaf sydd angen. Dyma'r ateb gefais:

1. order of magnitude = trefn maint
2. area magnitude = maint ardal (this is fine for area = region/district, but 'maint arwynebedd' would be better if 'area' refers to an extent or measure of a surface i.e. surface area magnitude.)
3. purchasing power parity = paredd gallu prynu

Dwi'n credu taw'r area magnitude a chaiff ei ddefnyddio yn y gwybodlen yn cyfeirio at maint arwynebedd.

Hefyd, dwi'n cytuno gyda Lloffiwr ynglŷn â datblygu canllaw ar fathu termau. Dwi'n awgrymu dechrau trafodaeth yn y Caffi i gael barnau gwahanol defnyddwyr. —Adam (sgwrscyfraniadau) 16:06, 20 Mehefin 2006 (UTC)[ateb]

Cytuno, er credu buasai "arwynebedd" ar ben ei hun yn ddigon gan fod arwynebedd yn fath o faint. Buasai Maint arwynebedd fel dweud Maint hyd, mae'r gair maint yn ddi-angen yn y cyfystyr hwnnw. Thaf 19:25, 2 Medi 2011 (UTC)[ateb]

Gwledydd[golygu cod]

194 countries need this template applied:

Paul-L 22:59, 30 Mehefin 2006 (UTC)[ateb]

Here is list of countries that have had the infobox added (alphbetically):