Pontaman

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 00:32, 12 Medi 2014 gan Anatiomaros (sgwrs | cyfraniadau)
Pontaman: yr hen bont yr enwir y pentref ar ei hôl.

Pentref bychan yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin, Cymru yw Pontaman (Seisnigiad: Pontamman). Fe'i enwir ar ôl yr hen bont ar afon Aman, sy'n llifo trwy'r pentref.

Mae Pontaman yn gorwedd ar bwys ffordd yr A474, tua milltir i'r dwyrain o dref Rhydaman. I'r gogledd ceir y Mynydd Du.

Y pentrefi agosaf yw Y Betws, tua milltir i'r de-orllewin, a Glanaman, tua 3 milltir i'r dwyrain.

Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato