Ehangu NATO
Mae NATO (Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd) yn gynghrair milwrol o 32 o wledydd yn Ewrop a Gogledd America sy'n ffurfio system o gyd-amddiffyn. Rheolir y broses o ymuno â'r gynghrair gan Erthygl 10 Cytundeb Gogledd yr Iwerydd, sy'n caniatáu gwahodd "Gwladwriaethau Ewropeaidd eraill" yn unig ac yn unol ag unrhyw gytundebau diweddarach. Mae'n rhaid i wledydd sy'n dymuno ymaelodi ateb gofynion arbennig a chyflawni proses o sawl cam, gan gynnwys trafodaethau gwleidyddol ac integreiddio milwrol. Goruchwylir y broses o dderbyn aelod newydd gan Gyngor Gogledd yr Iwerydd, corff llywodraethol NATO.
Ffurfiwyd y gynghrair ym 1949 gyda 12 o aelodau sefydlol—Gwlad Belg, Canada, Denmarc, yr Eidal, Ffrainc, Gwlad yr Iâ, yr Iseldiroedd, Lwcsembwrg, Norwy, Portiwgal, y Deyrnas Unedig, ac Unol Daleithiau America—ac ers hynny ehangwyd aelodaeth y gynghrair ar 10 gwahanol achlysur, gan dderbyn 20 o wladwriaethau newydd i gyd.[1] Ychwanegwyd Gwlad Groeg a Thwrci ym 1952, ac yna Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (Gorllewin yr Almaen) ym 1955 wedi diwedd meddiannaeth y wlad honno gan Ffrainc, y Deyrnas Unedig, a'r Unol Daleithiau. Ymatebodd yr Undeb Sofietaidd drwy ffurfio cynghrair cyd-ddiogelwch ei hunan, Cytundeb Warsaw, o wledydd y bloc dwyreiniol. Ymunodd Sbaen â NATO ym 1982.
Yn sgil cwymp Mur Berlin, cytunwyd y byddai Gorllewin a Dwyrain yr Almaen yn aduno, ac yn cadw aelodaeth y weriniaeth ffederal o NATO. Wedi cwymp comiwnyddiaeth yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop a diwedd y Rhyfel Oer, a diddymu'r Undeb Sofietaidd ym 1991, ymgeisiodd nifer o gyn-aelodau Cytundeb Warsaw a chyn-weriniaethau Sofietaidd ymaelodi â NATO. Ymunodd Gwlad Pwyl, Hwngari, a Tsiecia â'r gynghrair ym 1999, er gwaethaf anghydfod o fewn NATO a gwrthwynebiad oddi wrth Rwsia. Aeth NATO ati i ffurfioli'r broses o ymaelodi trwy "Gynlluniau Gweithredu Aelodaeth", a daeth saith gwlad arall yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop i'r gynghrair erbyn Uwchgynhadledd Istanbul yn 2004: Bwlgaria, Estonia, Latfia, Lithwania, Rwmania, Slofacia, a Slofenia. Ymunodd dwy wlad ar lannau Môr Adria—Albania a Chroatia—ar 1 Ebrill 2009, cyn Uwchgynhadledd Strasbwrg–Kehl. Dwy arall o wledydd y Balcanau oedd y nesaf i gael eu derbyn, Montenegro ar 5 Mehefin 2017, ac yna Gogledd Macedonia ar 27 Mawrth 2020.
Yn 2022 goresgynnwyd Wcráin gan Rwsia wedi i Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, cyhuddo NATO o gynyddu ei phresenoldeb yn Wcráin ac atgyfnerthu ei grym ar hyd ffiniau Rwsia. Penderfynodd y Ffindir a Sweden wneud ceisiadau i ymuno â'r gynghrair ym Mai 2022, mewn ymateb i'r goresgyniad.[2] Derbyniwyd y Ffindir ar 4 Ebrill 2023, a Sweden ar 7 Mawrth 2024.[3][4][5] Ym Medi 2022, ymgynigodd Wcráin am aelodaeth NATO wedi i Rwsia gyhoeddi cyfeddiannaeth oblastau Donetsk, Kherson, Luhansk, a Zaporizhzhia.[2] Mae dwy wladwriaeth arall wedi hysbysu NATO yn ffurfiol o'u bwriad i ymgeisio am aelodaeth: Bosnia a Hertsegofina a Georgia.[6] Mae llywodraeth Cosofo hefyd wedi cyhoeddi dymuniad i ymuno â NATO.[7] Mae ymaelodaeth yn bwnc trafod mewn sawl gwlad arall yn Ewrop, gan gynnwys Awstria, Cyprus, Gweriniaeth Iwerddon, Malta, Moldofa, a Serbia.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "Enlargement and Article 10", NATO (8 Mawrth 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Mawrth 2024.
- ↑ 2.0 2.1 Harding, Luke; Koshiw, Isobel (30 September 2022). "Ukraine applies for Nato membership after Russia annexes territory". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 October 2022. Cyrchwyd 30 September 2022.
- ↑ Jackson, John (2022-06-29). "Ukraine Sees Opportunity to Join NATO After Finland, Sweden Invite". Newsweek. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 June 2022. Cyrchwyd 30 June 2022.
- ↑ "NATO launches ratification process for Sweden, Finland membership". France24. 2022-07-05. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 July 2022. Cyrchwyd 2022-07-05.
- ↑ "NATO - Sweden Accession Protocol - Notification of Entry Into Force, March 7, 2024". United States Department of State (yn Saesneg). 2024-03-07. Cyrchwyd 2024-03-07.
- ↑ "Enlargement". The North Atlantic Treaty Organization. 2020-05-05. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 June 2021. Cyrchwyd 2021-06-11.
- ↑ "Kosovo asks U.S. for permanent military base, speedier NATO membership". Reuters. 2022-02-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 February 2022. Cyrchwyd 2022-02-27.
- ↑ Fehlinger, Gunther (9 October 2022). "Malta, Austria and Ireland united in NATO 2023 – Gunther Fehlinger". Times of Malta. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 November 2022. Cyrchwyd 3 November 2022.