Cas-blaidd
Castell mwnt a beili Cas-blaidd, y "Castell y Blaidd" gwreiddiol | |
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 642, 648 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,251.73 ha |
Cyfesurynnau | 51.897°N 4.971°W |
Cod SYG | W04000485 |
Cod OS | SM957267 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
Pentref a chymuned yng nghanolbarth Sir Benfro, Cymru, yw Cas-blaidd[1] neu weithiau hefyd Casblaidd (Saesneg: Wolf's Castle neu Wolfscastle). Saif ar briffordd yr A40, tua hanner y ffordd rhwng Abergwaun a Hwlffordd, lle mae Afon Anghof yn llifo i mewn i Afon Cleddau Ddu. Mae'r pentref mewn dwy ran, Cas-blaidd ei hun a Penybont yr ochr draw i Afon Anghof.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[3]
Hanes
[golygu | golygu cod]Ceir castell mwnt a beili yma a godwyd yng nghyfnod y Normaniaid. Dyma'r "Castell y Blaidd" yr enwir y pentref ar ei ôl. Cafwyd hyd i olion fila Rufeinig ger y pentref. Ychydig i'r gogledd-ddwyrain ceir Cerrig Garn Turne, sef hen gromlech wedi'i chwalu. Mae'r garreg draws yn un o'r mwyaf yng Nghymru, ac yn mesur 5 wrth 3.5 metr.
Yn ôl y chwedl leol, yma y lladdwyd y blaidd olaf yng Nghymru, ond nid ymddengys fod tystiolaeth o hyn. Mae'n bosibl ei bod yn chwedl i esbonio'r enw lle.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Pobl o Gasblaidd
[golygu | golygu cod]- Joseph Harris (Gomer) (1773–1825), golygydd ac awdur, sefydlydd Seren Gomer (ganed yn y plwyf yn hytrach na'r pentref ei hun).
- Mae chwedl i Owain Glyndŵr gael ei eni yn yr ardal, ond nid oes tystiolaeth o gwbl i gefnogi hyn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Defnyddir sillafiad safonol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), tud. 549
- ↑ "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan y gymuned Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback
Dinas
Tyddewi
Trefi
Aberdaugleddau · Arberth · Abergwaun · Cilgerran · Dinbych-y-pysgod · Doc Penfro · Hwlffordd · Neyland · Penfro · Wdig
Pentrefi
Aber-bach · Abercastell · Abercuch · Abereiddi · Aberllydan · Amroth · Angle · Begeli · Y Beifil · Blaen-y-ffos · Boncath · Bosherston · Breudeth · Bridell · Brynberian · Burton · Caeriw · Camros · Cas-blaidd · Cas-fuwch · Cas-lai · Cas-mael · Cas-wis · Casmorys · Casnewydd-bach · Castell Gwalchmai · Castell-llan · Castellmartin · Cilgeti · Cil-maen · Clunderwen · Clydau · Cold Inn · Cosheston · Creseli · Croes-goch · Cronwern · Crymych · Crynwedd · Cwm-yr-Eglwys · Dale · Dinas · East Williamston · Eglwyswen · Eglwyswrw · Felindre Farchog · Felinganol · Freshwater East · Freystrop · Y Garn · Gumfreston · Hasguard · Herbrandston · Hermon · Hook · Hundleton · Jeffreyston · Johnston · Llanbedr Felffre · Llandudoch · Llandyfái · Llandysilio · Llanddewi Efelffre · Llanfyrnach · Llangolman · Llangwm · Llanhuadain · Llanisan-yn-Rhos · Llanrhian · Llanstadwel · Llan-teg · Llanwnda · Llanychaer · Maenclochog · Maenorbŷr · Maenordeifi · Maiden Wells · Manorowen · Marloes · Martletwy · Mathri · Y Mot · Mynachlog-ddu · Nanhyfer · Niwgwl · Nolton · Parrog · Penalun · Pentre Galar · Pontfadlen · Pontfaen · Porth-gain · Redberth · Reynalton · Rhos-y-bwlch · Rudbaxton · Rhoscrowdder · Rhosfarced · Sain Fflwrens · Sain Ffrêd · Saundersfoot · Scleddau · Slebets · Solfach · Spittal · Y Stagbwll · Star · Stepaside · Tafarn-sbeit · Tegryn · Thornton · Tiers Cross · Treamlod · Trecŵn · Tredeml · Trefaser · Trefdraeth · Trefelen · Trefgarn · Trefin · Trefwrdan · Treglarbes · Tre-groes · Treletert · Tremarchog · Uzmaston · Waterston · Yerbeston