Lithwania: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Manion ac ychwanegu'r Nodyn newydd (Anrhydeddau) using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 13: Llinell 13:
* 1200 – Ail groesgad yn erbyn y Lithwaniaid.
* 1200 – Ail groesgad yn erbyn y Lithwaniaid.
* 1215 – Esgob cyntaf y Lithwaniaid ond y wlad yn bagan o hyd.
* 1215 – Esgob cyntaf y Lithwaniaid ond y wlad yn bagan o hyd.
* 1219– [[Mindaugas]] Brenin cyntaf y Lithwaniaid 1219–63.
* 1219 [[Mindaugas]] Brenin cyntaf y Lithwaniaid 1219–63.
* 1236 – Lithwaniaid yn gorfygu y croesgadwyr ym mrwydr Siaulai.
* 1236 – Lithwaniaid yn gorfygu y croesgadwyr ym mrwydr Siaulai.
* 1315 – [[Gediminas]] yn arwain Lithwania 1315–41.
* 1315 – [[Gediminas]] yn arwain Lithwania 1315–41.

Fersiwn yn ôl 05:58, 27 Mawrth 2019

Lithwania
Lietuvos Respublika
ArwyddairVienybė težydi Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwladwriaeth unedol, gwlad sy'n ffinio gyda'r Môr Baltig, gwlad, gwlad OECD Edit this on Wikidata
Lb-Litauen.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Lituania.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasVilnius Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,860,002 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 11 Mawrth 1990 (gwladwriaeth sofran, Deddf Ail-Sefydliad Talaith Lithwania) Edit this on Wikidata
AnthemTautiška giesmė Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethIngrida Šimonytė Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
NawddsantSant Casimir Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Lithwaneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGwledydd Baltig, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd, Gogledd Ewrop Edit this on Wikidata
Arwynebedd65,300 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Baltig Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBelarws, Latfia, Gwlad Pwyl, Rwsia, Sweden Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.2°N 24°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Lithwania Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSeimas Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Llywydd Gweriniaeth Lithwania Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethGitanas Nausėda Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Lithwania Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethIngrida Šimonytė Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$66,415 million, $70,334 million Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata
Canran y diwaith11 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.59 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.875 Edit this on Wikidata

Gweriniaeth yng ngogledd-ddwyrain Ewrop yw Lithwania (hefyd weithiau Lithwania, yn swyddogol Gweriniaeth Lithwania; ceir y ffurf Llethaw mewn un geiriadur Cymraeg[1]). Saif ar lan y Môr Baltig. Un o'r Gwledydd Baltig yw Lithwania, ynghyd ag Estonia a Latfia. Mae Lithwania yn ffinio â Latfia i'r gogledd, â Belarws i'r de-ddwyrain, ac â Gwlad Pwyl a Kaliningrad Oblast, sy'n ran o Rwsia, i'r de-orllewin. Daeth Lithwania yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Mai 2004.

Hanes Lithwania

Prif-bwyntiau Hanes Lithwania

  • 10 Ganrif – Llywthau Lithwnaiad-Prwsiaid paganaid.
  • 980au – Cristnogaeth yn dod i gymdogion y Lithwaniaid-Prwsiaid.
  • 997 – Merthyrdod St Adalbert ym Mrwsia.
  • 1007 – Son cyntaf am Lithwania mewn dogfen.
  • 1147 – Croesgad cyntaf yn erbyn paganiaid Baltaidd – tranc y Prwsiaid.
  • 1200 – Ail groesgad yn erbyn y Lithwaniaid.
  • 1215 – Esgob cyntaf y Lithwaniaid ond y wlad yn bagan o hyd.
  • 1219 – Mindaugas Brenin cyntaf y Lithwaniaid 1219–63.
  • 1236 – Lithwaniaid yn gorfygu y croesgadwyr ym mrwydr Siaulai.
  • 1315 – Gediminas yn arwain Lithwania 1315–41.
  • 1385 – Jogaila yn cael ei bedyddio, Lithwania yn troi yn Gristnogol a ffurfio Brenhiniaeth Lithwania-Pwyl.
  • 1410 – Lithwania-Pwyl yn trechu'r Almaenwyr ym mrwydr Grunwald. Ffyniant y wlad.
  • 1569 – Lithwania-Pwyl yn ffurfio "Cymanwlad".
  • 16C – Twf Rwsia a Sweden yn raddol dileu tiroedd y Lithwaniaid, mae'r wlad yn cael ei rhannu dro ar ôl tro dros y dair canrif wedyn. Adnabyddir y cyfnod yn well fel "rhaniad triphlyg Pwyl".
  • 19C – Lithwania dan Ymerodraeth Rwsia, mudiad am annibyniaeth yn egino.
  • 1918–1939 – Ar 16/02/1918 mae'r Lithwaniaid yn datgan annibynniaeth, ond y Pwyliaid yn cymryd Vilnius ym 1919. Cawnas yn Brifddinas. Cyfnod annibynnol yn symud at unbenaeth.
  • 1940 – Meddianu Lithwania gan y Rwsiaid (Sofietaidd).
  • 1940–44 – Meddianu Lithwania gan y Natsiaid.
  • 1944–89 – Meddianu Lithwania gan y Rwsiaid (Sofietaidd) fel Gweriniaeth Sofiet gyda Vilnius yn brifddinas.
  • 1990 – Ar 11/03 1990 mae'r Lithwaniaid yn datgan annibynniaeth.
  • 2004 – Ymuno a NATO 2004 a'r Undeb Ewropeaidd.
  • 2007 – Ymuno a Chytundeb Schengen.

Hanes Fodern

Mae hanes fodern Lithiwania ynglwm wrth hanes y cenhedloedd mawr yn yr 20g. Gyda chwymp ymerodraeth yr Almaen ym 1918 daeth hi, a'i chymdogion Estonia a Latfia, yn rhydd ac yn genhedloedd annibynnol. Daeth hyn i ben dan y gytundeb rhwng Rwsia a'r Almaen ym 1939. Yn ystod y rhyfel meddiannwyd y wlad gan y Natsiaid a bu farw 190,000 o ddinasyddion Iddewig Lithwania. Wedi'r rhyfel aeth y wlad i fewn i'r Undeb Sofietaidd tan 1991. O 1944 tan 1952 roedd byddin cudd gwrth-Sofiet yn y wlad a charcharwyd miloedd o Lithwaniaid yn y Gwlagau.

Ers ei hannibyniaeth symudodd y wlad tuag at Ewrop, ymunodd a'r UE a NATO a bu ffyniant economaidd. Ond gydag agor y drysau i allfudo gadawodd miloedd o bobl ifainc am Brydain ac yr Almaen.

Ethnigrwydd

Mae poblogaeth Lithwania yn amrywio (mae'r ffigyrau swyddogol yn cynnwys pobl sy'n byw tramor) ond honnir bod 3,349,900, 84.0% o'r rhain yn Lithwaniaid ethnig sy'n siarad yr iaith Lithwaneg sef unig iaith swyddogol y wlad. Mae lleiafrifoedd eraill yn cynnwys Pwyliaid (6.1%), Rwsiaid (4.9%) a Belarwsiaid (1.1%), yn ôl "Department of Statistics to the Government of the Republic of Lithwania".[2]

Ffigyrau 2010 yn dangos:

  • Lithwaniaid – 83.1% (2,765,600),
  • Pwyliaid – 6.0% (201,500),
  • Rwsiaid – 4.8% (161,700),
  • Belarwsiaid – 1.1% (35,900),
  • Ukrainiaid – 0.6% (19,700),
  • Almaenwyr – 0.1% (3,200),
  • Iddewon – 0.1% (3,200),
  • Tatariaid – 0.1% (2,800),
  • Latfiaid – 0.1% (2,300),
  • Roma – 0.1% (2,400),
  • Eraill – 0.2% (8,200),
  • Heb ddweud – 3.7% (122,500).

Cyfeiriadau

  1. The Pocket Modern Welsh Dictionary
  2. Yr etholiadau
  • "The Northern Crusades". Eric Christiansen. Penguin. 1997. (Hanes y Gwledydd Baltaidd)
  • "Pe Bai Cymru'n Rhydd". Gwynfor Evans. Y Lolfa. 1989. Pennod ar y Gwledydd Baltaidd.
  • "Lithwania". Encyclopedia Britannica. darllenwyd 9 Hydref 2010.
  • "Population by ethnicity 2009 year". DB1.stat.gov.lt. Statistics Lithwania. darllenwyd 20 Ionawr 2010.
  • Statistics Lithwania
Chwiliwch am Lithwania
yn Wiciadur.