Clydno Eidyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Croaker (sgwrs | cyfraniadau)
B + en:Clydno Eiddin
BDim crynodeb golygu
Llinell 13: Llinell 13:


[[en:Clydno Eiddin]]
[[en:Clydno Eiddin]]
[[ru:Клидно ап Кинвелин]]

Fersiwn yn ôl 17:03, 4 Tachwedd 2011

Tywysog neu bendefig o'r Hen Ogledd oedd Clydno Eidyn (fl. 6ed ganrif). Yn rhai o'r achau, disgrifir ef fel mab Cynfelyn ap Dyfnwal Hen, tra yn y testun achyddol Bonedd Gwŷr y Gogledd disgrifir ef fel mab i Cynwyd Cynwydion. Awgryma ei enw y gallai fod yn arglwydd Din Eidyn, ac efallai yn rhagflaenydd Mynyddog Mwynfawr.

Roedd ganddo fab o'r enw Cynon ap Clydno Eidyn, ac yn chwedl Culhwch ac Olwen crybwyllir merch iddo o'r enw Eurneid.

Yn Llyfr Du'r Waun, dywedir i Elidir Mwynfawr gael ei ladd yn "Aber Meuhedud" yn Arfon, ac i nifer o Wŷr y Gogledd, yn cynnwys Clydno Eidyn, Nudd Hael, Mordaf Hael a Rhydderch Hael arwain byddin i Arfon i geisio dial, ond iddynt gael eu gorchfygu gan Rhun ap Maelgwn Gwynedd.

Llyfryddiaeth

  • Peter C. Bartrum (1993) A Welsh classical dictionary (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ISBN: 0-907158-73-0