Rwmania: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
HRoestBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.5) (robot yn ychwanegu: su:Romania
Dim crynodeb golygu
Llinell 19: Llinell 19:
|canran_dŵr = 3%
|canran_dŵr = 3%
|blwyddyn_amcangyfrif_poblogaeth = Gorffennaf 2006
|blwyddyn_amcangyfrif_poblogaeth = Gorffennaf 2006
|amcangyfrif_poblogaeth = 22,303,552
|amcangyfrif_poblogaeth =
|safle_amcangyfrif_poblogaeth = 50fed
|safle_amcangyfrif_poblogaeth = 50fed
|blwyddyn_cyfrifiad_poblogaeth = 2002
|blwyddyn_cyfrifiad_poblogaeth = 2011
|cyfrifiad_poblogaeth = <br />19,599,560<ref>http://www.agerpres.ro/english/index.php/news-of-the-day/item/89649-Almost-196-ml-people-registered-in-Romanias-Population-and-Homes-Census.html</ref>
|cyfrifiad_poblogaeth = <br />21,680,974
|dwysedd_poblogaeth = 93.7
|dwysedd_poblogaeth = 82
|safle_dwysedd_poblogaeth = 79fed
|safle_dwysedd_poblogaeth = 79fed
|blwyddyn_CMC_PGP = 2006
|blwyddyn_CMC_PGP = 2006

Fersiwn yn ôl 13:34, 2 Tachwedd 2011

România
Rwmania
Baner Rwmania Arfbais Rwmania
Baner Arfbais
Arwyddair: dim
Anthem: Deşteaptă-te, române!
Lleoliad Rwmania
Lleoliad Rwmania
Prifddinas Bucureşti
Dinas fwyaf Bucureşti
Iaith / Ieithoedd swyddogol Rwmaneg1
Llywodraeth Democratiaeth seneddol
Arlywydd
Prif Weinidog
Traian Băsescu
Emil Boc
Annibyniaeth
Datganwyd
Adnabwyd

10 Mai, 1877 2
13 Gorffennaf, 1878 3
Esgyniad i'r UE1 Ionawr, 2007
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
238,391 km² (81fed)
3%
Poblogaeth
 - Amcangyfrif Gorffennaf 2006
 - Cyfrifiad 2011
 - Dwysedd
 
 (50fed)

19,599,560[1]
82/km² (79fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2006
$204.4 biliwn (44fed)
$9,446 (67fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2005) 0.792 (64fed) – canolig
Arian cyfred Leu (RON)
Cylchfa amser
 - Haf
EET (UTC+2)
EEST (UTC+3)
Côd ISO y wlad .ro
Côd ffôn +40
1Mae ieithoedd eraill, megis Hwngareg, Romani, Wcreineg a Serbeg, yn gyd-swyddogol ar lefelau lleol gwahanol.

2 Rhyfel Annibyniaeth Rwmania

3 Cytundeb Berlin

Gwlad yn ne-ddwyrain Ewrop yw Rwmania (Rwmaneg: România /ro.mɨ'ni.a/). Mae'n ffinio â Hwngari a Serbia i'r gorllewin a Bwlgaria i'r de ar lan yr Afon Donaw, ac yr Wcráin a Moldofa i'r gogledd-ddwyrain. Mae gan Rwmania morlin de-ddwyreiniol â'r Môr Du ac mae de-ddwyrain cadwyn y Mynyddoedd Carpathia yn rhedeg trwy ganolbarth y wlad.

Mae Rwmania wedi bod yn aelod o NATO ers 2004, ac ymunodd â'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr, 2007, yn dilyn arwyddiad Cytundeb Esgyniad yr UE ar ddechrau 2005.

Hanes

O dan yr Ottomaniaid, o'r bymthegfed ganrif nes y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuodd y Rwmaniaid eu hymgyrch am annibyniaeth genedlaethol yn ystod yr 1820au, yn dyheu at uniad Moldofa, Wallachia a Thransylfania. Yn 1862 unodd Moldofa a Wallachia i ffurfio'r Dywysogaeth unedol o Rwmania, a chreuwyd brenhiniaeth yn 1866.

Bu ymchwydd economaidd bach yn y 1960au a'r 1970au. Nid oedd polisïau awtarciaidd Nicolae Ceauşescu, arweinydd Rwmania Gomiwnyddol o 1965 i 1989, yn lwyddiannus, ac wrth drio talu holl dyled y wlad cafodd effaith ddifrifiol ar yr economi a arweiniodd at dlodi. Ansefydlogodd Rwmania ymhellach wrth iddo droi'n wladwriaeth heddlu (gweler Securitate, heddlu cudd y Rwmania Comiwnyddol). Saethwyd Ceauşescu a'i wraig Ddydd Nadolig 1989, ar ôl iddo orchymyn i'r heddlu cudd ymosod ar brotestwyr yn Nhimisoara.[2]

Gwleidyddiaeth

Mae Rwmania yn weriniaeth ddemocrataidd. Mae cangen ddeddffwriaethol llywodraeth Rwmania yn cynnwys dwy siambr, y Senat (Senedd), sydd ag 137 o aelodau (2004), ac y Camera Deputaţilor (Siambr Dirprwyon), sydd â 332 o aelodau (2004). Etholir aelodau'r ddwy siambr pob pedair mlynedd.

Etholir yr Arlywydd, pennaeth y cangen weithredol, hefyd gan bleidlais boblogaidd, pob pum mlynedd (nes 2004, pedair mlynedd). Mae'r arlywydd yn penodi'r Prif Weinidog, sy'n bennaeth y lywodraeth, a phenodir aelodau'r lywodraeth gan y Prif Weinidog. Mae angen i'r lywodraeth cael pleidlais seneddol o gymeradwyaeth.

Siroedd

Map gweinyddol o Rwmania
Mae Transylfania yn wyrdd, Wallachia yn las, ardal Moldofa yn goch, a Dobrogea yn felyn

Caiff Rwmania ei rhannu i 41 o judeţe, neu siroedd, a bwrdeisiaeth Bucureşti (y brifddinas).

Y siroedd (yn nhrefn yr wyddor) yw:

Daearyddiaeth

Map o Rwmania gyda dinasoedd a phrif afonydd

Ffurfir rhan fawr o ffiniau Rwmania â Serbia a Bwlgaria gan yr Afon Donaw. Ymunir y Donaw gan yr Afon Prut, sy'n ffurfio'r ffin â Moldofa. Llifir y Donaw i'r Môr Du, yn ffurfio Delta'r Donaw sydd yn cadfa o'r Biosffer.

Otherwydd diffiniwyd nifer o ffiniau Romany gan afonydd naturiol, weithiau'n shifftio, ac oherwydd bu'r Delta Donaw wastad yn ehangu tuag at y môr, tua 2-5 metr llinellog y flwyddyn, mae arwynebedd Romania wedi newid dros yr ychydig o degawdau diwethaf, yn cyffredinol yn cynyddu. Cynyddwyd y rhif o tua 237,500 km² yn 1969 i 238,319 km² yn 2005.

Mae gan Rwmania tirwedd eithaf dosbarthol, gyda 34% mynyddoedd, 33% brynau a 33% iseldiroedd.

Mae Mynyddoedd Carpathia yn dominyddu canoldir Rwmania wrth iddynt amgylchynu Gwastatir Uchel Transylfania, 14 o gopâu dros 2 000 m, yr uchaf yn Copa Moldoveanu (2 544 m). Yn y de, mae Mynyddoedd Carpathia yn pereiddio i'r brynau, tuag at Wastadedd Bărăgan.

Tri mynydd uchaf Rwmania yw:

   Enw  Uchder  Grŵp Mynyddoedd
   1 Copa Moldoveanu    2 544 m Mynyddoedd Făgăraş
   2 Omu    2 500 m Mynyddoedd Făgăraş
   3 Piatra Craiului    2 489 m Mynyddoedd Făgăraş

Dinasoedd

Y dinasoedd pennaf yw'r prifddinas Bucureşti, Iaşi, Timişoara, Cluj-Napoca, Constanţa, Craiova, Braşov, a Galaţi. Y dinasoedd mwyaf yw:

# Dinas Poblogaeth[3] Sir
1. Bucureşti 2 082 334 Sir Bucureşti
2. Iaşi 320 888 Sir Iaşi
3. Cluj-Napoca 317 953 Sir Cluj
4. Timişoara 317 660 Sir Timiş
5. Constanţa 310 471 Sir Constanţa
6. Craiova 302 601 Sir Dolj
7. Galaţi 298 861 Sir Galaţi
8. Braşov 284 595 Sir Braşov
9. Ploiesti 232 527 Sir Prahova
10. Braila 216 292 Sir Braila
11. Oradea 206 616 Sir Bihor
12. Bacau 175 500 Sir Bacau


Cyfeiriadau

  1. http://www.agerpres.ro/english/index.php/news-of-the-day/item/89649-Almost-196-ml-people-registered-in-Romanias-Population-and-Homes-Census.html
  2. BBC Cymru'r Byd – Tramor – Cofio pen-blwydd yn Romania
  3. (Rwmaneg) Athrofa Cenedlaethol o Ystadegau, Cyfrifiad 2002 PDF

Cysylltiadau allanol

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol