Arfbais Rwmania
Gwedd
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/70/Coat_of_arms_of_Romania.svg/220px-Coat_of_arms_of_Romania.svg.png)
Eryr euraidd coronog ar darian las yw arfbais Rwmania. Dalia'r eryr deyrnwialen yn ei grafanc chwith, cleddyf yn ei grafanc dde, a chroes Uniongred yn ei big. Ar ei frest mae'n dwyn tarian chwarterog sy'n darlunio symbolau rhanbarthol: eryr euraidd i gynrychioli Walachia, pen tarw am Foldafia, eryr a saith castell i gynrychioli Transylfania, a llew euraidd yn dwyn crymgledd i ddynodi Oltenia a Banat. Ar hollt sy'n rhannu'r ddau chwarter isaf, darlunir dau ddolffin i symboleiddio Dobruja.