Glan-y-don

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref yn Sir y Fflint, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Glan-y-don.

Gorwedd y pentref hanner milltir i'r de-ddwyrain o Fostyn, ar lan aber Afon Dyfrdwy, tua dwy filltir a hanner i'r gogledd o Dreffynnon. Hanner milltir i'r dwyrain ceir pentref bychan Llannerch-y-môr. Dim ond cilfach o dir sy'n gorwedd rhwng y pentref a Mostyn.

Rhed y ffordd A548 heibio i'r pentref. Mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn pasio tua chwarter milltir i'r gogledd ond does dim gorsaf i'r pentref.