Gweriniaeth Pobl Tsieina
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
| Arwyddair: Dim | |||||
| Anthem: 义勇军进行曲 Gorymdaith y Gwirfoddolwyr |
|||||
| Prifddinas | Beijing | ||||
| Dinas fwyaf | Shanghai | ||||
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Tsieinëeg Mandarin1 | ||||
| Llywodraeth | Gweriniaeth sosialaidd | ||||
| • Arlywydd • Prif Weinidog |
Hu Jintao Wen Jiabao |
||||
| ' |
|||||
| Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
9,596,960 km² (3ydd) 2.8 |
||||
| Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Cyfrifiad 2000 - Dwysedd |
1,315,844,000 (1af) 1,242,612,226 140/km² (72fed) |
||||
| CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2002 $8.859 triliwn (2fed) $7,204 (84fed) |
||||
| Indecs Datblygiad Dynol (2004) | 0.768 (canolig) – 81fed | ||||
| Arian cyfred | Renminbi (CNY) |
||||
| Cylchfa amser - Haf |
(UTC+8) (UTC+8) |
||||
| Côd ISO y wlad | .cn | ||||
| Côd ffôn | +86 |
||||
| 1 Tsieinëeg Canton a Saesneg yw ieithoedd swyddogol Hong Kong; Portiwgaleg yn Macau. | |||||
Mae Gweriniaeth Pobl Tsieina (GPT) neu Tsieina (hefyd Tseina a China) yn cynnwys y rhan fwyaf o'r ardal hanesyddol a daearyddol a elwir yn Tsieina. Ers sefydlu'r weriniaeth yn 1949 mae Plaid Gomiwnyddol China (PGT) wedi arwain y wlad. GPT yw gwlad fwyaf poblog y byd, gyda phoblogaeth o fwy na 1,300,000,000. Hi yw'r wlad fwyaf o ran maint yn Nwyrain Asia a'r bedwaredd fwyaf yn y byd, ar ôl Rwsia, Canada, a'r Unol Daleithiau. Mae GPT yn ffinio â 14 gwlad, sef Afghanistan, Bhutan, Myanmar, India, Kazakstan, Kyrgyzstan, Laos, Mongolia, Nepal, Gogledd Korea, Pakistan, Rwsia, Tajikistan a Viet Nam. Beijing yw prifddinas y wlad.
Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Ar y cyfan, gwlad fynyddig ydyw Tsieina. Lleolir y rhan fywaf o'r boblogaeth yn y dwyrain, yn enwedig wrth ymyl yr arfordir ac yn y Gogledd-Ddwyrain.
Yn y Gorllewin y mae'n gymharol sych.
Dylid ceisio dirnad maint a phoblogaeth y wlad trwy ystyried fod talaith Sichuan tua'r un faint a Ffrainc ond yn meddu ar ryw ddwy waith y boblogaeth.
Ar hyn o bryd y mae llywodraeth Tsieina wrthi'n ymestyn y rheilffyrdd a'r traffyrdd. Cludir cryn dipyn o nwyddau a theithwyr ar yr afonydd, camlesi a mor. Bu defnydd cynnar ar awyrennau, oherwydd y pellterau.
Yn groes i bolisi yr Unol Daleithiau a Rwsia, un amser (Amser Beijing) a ddefnyddir ym mhob rhan o'r wlad.
[golygu] Hanes
Pan fu farw Zhou Enlai yn 1976, olynwyd ef fel Prif Weinidog gan Hua Guofeng. Bu farw Mao ei hun ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ac olynodd Hua ef fel Cadeirydd y Blaid Gomiwnyddol.
Rhoddodd Hua ddiwedd ar y Chwyldro Diwylliannol, a llwyddodd i leihau grym Jiang Qing a'i chyngheiriaid, y Gang o Bedwar. Fel arall, parhaodd a pholisïau Mao. Yn raddol, enillodd Deng Xiaoping rym o fewn y Blaid Gomiwnyddol, ac olynywyd Hua fel Prif Weinidog gan Zhao Ziyang yn 1980, ac fel Cadeirydd y Blaid gan Hu Yaobang yn 1981.
[golygu] Iaith a diwylliant
Iaith
Iaith sydd yn dibynnu bron yn gyfangwbl ar drefn geiriau ydyw'r Sieinieg. Nid yw na'r enwau na'r berfau yn newid ac ni cheir gwahaniaeth rhwng unigol a lluosog.
Pan yngenner sillaf bydd ei hystyr yn newid yn ol yr oslef neu don y defnyddir i'w ynganu.
Defnyddir lluniau bychain i ysgrifennu'r iaith. Ffurfir y lluniau hyn o elfennau (y mae rhywle o gwmpas dau cant ohonynt) a tipyn o gamp ydyw defnyddio geiriadur Tsieineaidd. Er engraifft,
女
yw'r llun am ddynes (yn wreiddol llun o ddynes yn eistedd ar ei chyrcwd).
马
yw'r llun am geffyl (datblygodd y llun hwn o lun ceffyl).
Yn ystod y pumdegau aed ati i symleiddio'r ysgrifen. Lle ceid gynt 中國 ceir rwan 中国.
Ceir tipyn o broblem wrth geisio ffurfio llun "mam" gan fod gan bob mam ffurf wahanol. Ond trwy fod y gair am geffyl yn cael ei ynganu'n "MA" trwy ddefnyddio'r drydedd oslef a'r gair am fam yn "MA" gyda'r oslef gyntaf cyfunir y 女 a'r 马 i ffurfio 妈。
O'i chymharu a'r ieithoedd Indo-Iwropeaidd fel y Gymreag ceir gwahaniaethau lawer. Er enghraifft, ni cheir cymalau perthynol. Ar y llaw arall, y mae'r iaith Sieineaidd yn ofalus i osod y pwnc ar gychwyn brawddeg cyn gwneud sylw ar y pwnc hwnnw. Defnyddir geiriau mesur yn fwy aml o lawer nag yn yr ieithoedd Indo-Iwropeaidd.
Diwylliant
Gellir dadlau mai'r diwylliant Tsieinaidd yw'r mwyaf hirhoedlog a fu erioed. Unwyd yr ymherodr cyntaf Qin (Qinshi Huangdi 秦始皇第) nifer o wledydd bychain i ffurfio un wlad fawr ac y mae'n debyg mai i'w gofio ef yr defnyddir y gair Tsieina.
Yn ystod rhyw ugain canrif caed hanes o linach ymherodrol yn ffynnu, llygru ac yna cael ei cael ei disodli, gan amlaf wrth i'r werin godi ac ymryfela. Parhaodd hyn tan 1949 a sefydliad GPT.
Gellid dadlau mai uned sylfaenol cymdeithas y llwyth Han (hynny yw, prif lwyth y Tsieinaid) yw'r teulu. Daw llysenw o flaen yr enw personol ac erstalwm byddai'r holl deulu yn cael ei gosbi pe troseddai un aelod. Nid yw'r meddylfryd hwn wedi llwyr ddiflanu.
Cyn y Chun Jie (春节), Gwyl y Gwanwyn, sydd yn newid yn ol y lleuad, bydd milynnau o bobl yn ceisio cyrraedd adref i gael gwledd gyda'r holl deulu'n bresennol, yn draddodiadol pryd o "jiaozi (饺子)", math o dymplins bydd y teulu yn paratoi gyda'i gilydd cyn eu berwi a bwyta ar ol rhoi math arbennig o finegr arnynt. Am rai dyddiau bydd yr holl wlad yn cymeryd hoe, gyda ffatrioedd yn cau i lawr.
O fewn y teulu gwahaniethir rhwng brawd hyn a brawd iau, chwaer hyn a chwaer iau, sydd yn adlewyrchu i ryw raddau hierarchaeth y gymdeithas. O fewn uned waith neu gwmni disgwylir i'r rhai hŷn (e.e. Lao Zhang - Hen Zhang) edrych ar ol y rhai iau (Xiao Li - Li Bach) ac i'r iau ufuddhau a pharchu'r bobl hŷn.
O dan y drefn draddodiadol byddai dyn cyfoethog yn ceisio meddu ar nifer o wragedd a gorddyrch. Byddai teulu yn gobeithio am feibion ac yn dibrisio merched (nid yw'r meddylfryd hwn wedi diflanu), hyn oherwydd fod merch wrth briodi yn cael ei hystyried yn rhan o deulu ei gwr. Teflid babanod menywaidd i ffwrdd (erthyliad yw'r ateb yrwan) neu eu lladd. Oherwydd y dyheuad hwn am feibion ceir fwy o fechgyn nag o ferched yn Tsieina gyda'r canlyniad mai prin iawn yw hen ferched Tsieina gan fod traddodiad yn ymofyn epil (gwrywaidd). Y tebyg yw mai'r gred draddodiadol yw bod angen plant i gynnal eu rhieni yn eu henaint - ac ar ol iddynt farw trwy ysgubo'u beddau ar yr wyl benodol a gyrru arian a nwyddau iddynt yn y "byd a ddaw". Gellir prynnu "arian uffern" i'w yrru i'ch hynafiaid meirw trwy ei losgi (a hyd yn oed setiau radio wedi eu gwneud o bapur!). Yr ofn draddodiadol oedd cael plant na fedrid dibynnu arnynt i wneud hyn, fel bod eu hynafiaid yn clemio yn y byd a ddaw.
Bywyd
Er bod llawer o ddinasyddion erbyn hyn yn byw mewn fflatiau sydd yn bur cyffyrddus y mae llawer o bobl yn byw mewn dull mwy traddodiadol. Yng ngogledd y wlad (lle ceir gaeafoedd oer iawn) ceir "Kang" (炕 Kang4), math o lwyfan a gynhesir gan ddefnyddio tan neu o leiaf nwyau poeth o'r tan yn y gegin. Bydd y trigolion yn eistedd ar y kang gyda'i coesau wedi croesi fel teilwyr ac hefyd yn defnyddio cwiltiau i gysgu arno.
Defnyddir gweill i fwyta, gyda phryd o fwyd yn cynnwys reis neu fara ynghyd a nifer o ddysglau fwydydd cogiedig. Bydd y Tsieineaid yn hoff o gael esgus i wledda a tra'n gwneud hyn bydd meistr y ty yn defnyddio par o weill arbennig i hwylio bwyd i'r westion.
Tueddir i beidio ag yfed alcohol heb fwyta rhwybeth ar yr un pryd. Oherwydd rhyw achos ffisiolegol bydd rhai Tsieineaid yn gwrido ac yn chwysu ar ol yfed alcohol.
[golygu] Taleithiau ac ardaloedd eraill
Mae Gweriniaeth Pobl Tsieina yn rheoli 22 talaith (省); mae llywodraeth GPT yn cyfrif Taiwan (台湾) fel y 23ain dalaith. Mae'r llywodraeth hefyd yn hawlio Ynysoedd Môr De Tsieina. Ar wahân i'r taleithiau, mae yna bump o ranbarthau ymreolaethol (自治区) sy'n gartref i leiafrifoedd ethnig; pedwar bwrdeistref (直辖市) yn ninasoedd mwyaf Tsieina, a dwy Rhanbarth Weinyddol Arbennig(特别行政区) o dan reolaeth GPT.
[golygu] Taleithiau |
[golygu] Rhanbarthau Ymreolaethol
[golygu] Bwrdreistrefi[golygu] Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig |
[golygu] Economi
Wrth ystyried economi Tsieina dylid cadw mewn golwg y ffaith fod un o daleithiau Tsieina yn debyg o ran maint i wlad. Er engraifft, ystyrier talaith Sichuan sydd a tua'r un arwynebedd a Ffrainc ond tua dwywaith y boblogaeth.
Yn fras, gogledd-ddwyrain a de-dwyrain Tsieina sydd wedi'u datblygu i'r raddfa fwyaf, gan fod y gorllewin yn sych, gyda chryn dipyn o dir anial yno.
Gwlad amaethyddol ydyw Tsieina, gyda ffarmio traddodiadol yn fwy tebyg i arddio. Plannu reis mewn caeau bychain sydd yn cael eu boddi yn ol angen. Er bod mechanyddiaeth yn mynd yn ei blaen defnyddir ych ac anifeiliad eraill.
Oherwydd i'r Americanwyr osod gwarchae masnachol ar y wlad wedi iddi syrthio i'r blaid Gomiwnyddol yn 1949 bu'n rhaid iddi droi at yr Undeb Sofietaidd am gymorth (er y darfu i Brydain gydnabod y llywodraeth newydd yn fuan ar ol hyn, gyda rhai cwmniau yn cychwyn gwneud busnes bron yn syth gyda'r wlad). Y mae'n debyg fod llygaid yr Undeb Sofietaidd ar gadw Tsieina yn wlad amaethyddol. Serch hynny, cychwynodd y Tsieinaid ddatblygu eu dywidiant, gan ddefnyddio yr hyn oedd ar ol o weithfeydd rheilffordd y Siapaneaid i gynhyrch injenni rheilffordd ac ati. Bu rhwyg rhwng yr Undeb Sofietaidd a Tsieina ar gychwyn y 1960au a aeth yr arbennigwyr Sofietaidd yn ol i'w gwlad, gan adael prosiectau megis pontydd mawr dros yr Afon Yangtze ar hanner eu gorffen. Serch hynny, llwyddodd y Tsieineaid orffen y gwaith.
Ers y 1980au, gyda'r polisi o agor y wlad i'r tu allan y mae cwmniau o bob math yn heidio i ddefnyddio llafur rhad i gynhyrchu eu defnyddiau, gyda cwmniau Tsieinead hyfyd yn ffynnu.
Ffynhonell y llafur rhad ydyw'r lluoedd (rhai cannoedd o filiynnau) o'r werin sydd yn ceisio gadael y tir.
[golygu] Dolenni allanol
- China.org.cn - Porth gwe swyddogol Tsieina
|
||||||||||||||
|
|
||
|---|---|---|
| Aelodau arhosol | Y Deyrnas Unedig · Ffrainc · Rwsia · Tsieina · Yr Unol Daleithiau | |
| Tymor yn terfynu 31 Rhagfyr 2009 | Burkina Faso · Costa Rica · Croatia · Fiet Nam · Libya | |
| Tymor yn terfynu 31 Rhagfyr 2010 | Awstria · Japan · Mexico · Twrci · Uganda | |
