Shaanxi
Talaith yng nghanolbarth Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Shaanxi (陕西省 Shǎnxī Shěng). Mae gan y dalaith arwynebedd o 205,800 km², ac roedd y boblogaeth yn 2002 yn 36,740,000. Y brifddinas yw Xi'an.
Mae'r dalaith yn cynnwys rhan o ddalgylch afon Huang He, ac yn y de ceir mynyddoedd Qinling, gydag anialwch yn y gogledd. Ystyrir Shaanxi fel crud y diwylliant Tsineaidd. Dinas Xi'an, dan ei hen enw Chang'an, oedd prifddinas yr ymerodraeth am ganrifoedd. Yma y ceir Y Fyddin Derracotta, sy'n gwarchod bedd ymerawdwr cyntaf Tsieina, Qin Shi Huang. Yn yr ardal yma y mae Ffordd y Sidan yn dechrau, ac yn arwain i Ewrop a gogledd Affrica. Daeth yn dalaith yn y 13eg ganrif, dan reolaeth y Mongoliaid. Bu daeargryn mawr yma yn 1556, pan gredir i tua 830,000 o bobl gael eu lladd. Yn y dalaith yma y diweddordd y Daith Hir gan y comiwnyddion dan Mao Zedong.
[golygu] Dinasoedd
| Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina | |
|---|---|
| Taleithiau | Anhui • Fujian • Gansu • Guangdong • Guizhou • Hainan • Hebei • Heilongjiang • Henan • Hubei • Hunan • Jiangsu • Jiangxi • Jilin • Liaoning • Qinghai • Shaanxi • Shandong • Shanxi • Sichuan • Yunnan • Zhejiang |
| Taleithiau dinesig | Beijing • Chongqing • Shanghai • Tianjin |
| Rhanbarthau ymreolaethol | Guangxi • Mongolia Fewnol • Ningxia • Tibet • Xinjiang |
| Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig | Hong Kong • Macau |