Gansu
Oddi ar Wicipedia
Talaith yng ngogledd-orllewin Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Gansu (甘肃省 Gānsù Shěng). Saif rhwng Qinghai, Mongolia Fewnol ac Ucheldir Huangtu, ac mae'n ffinio ar Mongolia yn y gogledd. Llifa'r afon Huang He trwy ran ddeheuol y dalaith, tra mae Anialwch y Gobi yn ffurfio rhan fawr o'r gogledd.
Roedd y boblogaeth yn 2002 yn 25,930,000. Y brifddinas yw Lanzhou; mae Baiyin hefyd yn ddinas bwysig. Mae canol daearyddol Tsieina o fewn y dalaith. Ffurfia'r Tsineaid Han 91% o'r boblogaeth, tra mae grwpiau ethnig eraill yn cynnwys yr Hui (5%), Tibetiaid (2%) a'r Dongxiang (2%).
Dinasoedd [golygu]
| Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina | |
|---|---|
| Taleithiau | Anhui • Fujian • Gansu • Guangdong • Guizhou • Hainan • Hebei • Heilongjiang • Henan • Hubei • Hunan • Jiangsu • Jiangxi • Jilin • Liaoning • Qinghai • Shaanxi • Shandong • Shanxi • Sichuan • Yunnan • Zhejiang |
| Taleithiau dinesig | Beijing • Chongqing • Shanghai • Tianjin |
| Rhanbarthau ymreolaethol | Guangxi • Mongolia Fewnol • Ningxia • Tibet • Xinjiang |
| Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig | Hong Kong • Macau |