Huang He

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr Huang He ger Lanzhou

Afon ail-hiraf Gweriniaeth Pobl Tsieina yw'r Huang He (黃河, Huánghé), trawslythrennir hefyd fel Huang Ho, yr Afon Felen. Mae'n 5464 km o hyd; dim ond afon Yangtze sy'n hirach. Saif yn chweched ymysg afonydd y byd o ran hyd.

Ceir tarddiad yr afon ym mynyddoedd Bayankera yn nhalaith Qinghai, 4500 medr uwch lefel y môr. Llifa tua'r dwyrain trwy saith talaith a dau ranbarth ymreolaethol: Qinghai, Sichuan, Gansu, Ningxia, Mongolia Fewnol, Shaanxi, Shanxi, Henan, a Shandong. Mae ei haber yn Dongying, Shandong, lle mae'n llifo i mewn i Fôr Bohai. Y prif ddinasoedd ar yr afon yw Lanzhou, Wuhai, Baotou, Kaifeng, Luoyang, Zhengzhou a Jinan.

Mae ei dalgylch yn 944,970 cilomedr sgwar, ond gan fod hinsawdd y rhan fwyaf o'i dalgylch yn sych, heblaw y rhan ddwyreiniol yn Henan a Shandong, mae llai o ddŵr ynddi na nifer o afonydd eraill Tsieina. Daw'r enw "yr Afon Felen" o liw y dyfroedd.

Mae ei chwrs dros y gwastadeddau yn droellog, ac mae wedi newid cwrs nifer o weithiau dros y canrifoedd. Yn y gorffennol, bu llifogydd yr afon yn gyfrifol am golli bywydau ar raddfa enfawr. Gwneir defnydd helaeth ar ddyfroedd yr afon ar gyfer dyfrhau.

Cwrs yr afon