Mongolia Fewnol
Oddi ar Wicipedia
Rhanbarth ymreolaethol o fewn Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Mongolia Fewnol.[1] Saif yng ngogledd y wlad, yn ffinio ar Mongolia a Rwsia yn y gogledd. Cyfeiria Gweriniaeth Pobl Tsieina at wlad Mongolia fel "Mongolia Allanol". Defnyddia llywodraeth Mongolia Fewnol yr enw öbür mongghul ("de Mongolia").
Mae gan Mongolia Fewnol arwynebedd o 1.18 miliwn km² a phoblogaeth o 23.8 miliwn. Y brifddinas yw Hohhot. Tsineaid Han yw tua 80% o'r boblogaeth, gyda Mongoliaid yn ffurfio 17%.
Er bod y mwyafrif o frodorion y wlad yn Han y mae'r llywodraeth yn ofalus i ddefnyddio arwyddion yn y Mongoleg hefyd.
Defnyddir hen ysgrif y Fongoleg ym Mongolia Fewnol. Y wyddor Cyrilaidd a ddefnyddir ym Mognolia Allanol.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 103.
| Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina | |
|---|---|
| Taleithiau | Anhui • Fujian • Gansu • Guangdong • Guizhou • Hainan • Hebei • Heilongjiang • Henan • Hubei • Hunan • Jiangsu • Jiangxi • Jilin • Liaoning • Qinghai • Shaanxi • Shandong • Shanxi • Sichuan • Yunnan • Zhejiang |
| Taleithiau dinesig | Beijing • Chongqing • Shanghai • Tianjin |
| Rhanbarthau ymreolaethol | Guangxi • Mongolia Fewnol • Ningxia • Tibet • Xinjiang |
| Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig | Hong Kong • Macau |