Crai Zabaykalsky

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Crai Zabaykalsky.
Lleoliad Crai Zabaykalsky yn Rwsia.

Un o ddeiliaid ffederal Rwsia yw Crai Zabaykalsky (Rwseg: Забайкальский край, Zabaykalsky kray). Canolfan weinyddol y crai (krai) yw dinas Chita. Poblogaeth: 1,107,107 (Cyfrifiad 2010).

Lleolir y crai yn rhanbarth gweinyddol Dosbarth Ffederal Siberia, yn nwyrain Siberia. Mae'r crai yn ffinio gyda Gweriniaeth Pobl Tsieina (hyd: 998 km) a Mongolia (hyd: 868 km) gyda ffiniau mewnol gyda Oblast Irkutsk ac Oblast Amur, a gyda Gweriniaeth Buryatia a Gweriniaeth Sakha.

Sefydlwyd Crai Zabaykalsky ar 1 Mawrth, 2008, pan unwyd Oblast Chita ac Ocrwg Ymreolaethol Agin-Buryat yn sgil refferendwm ar 11 Mawrth, 2007.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.