Qinghai
Talaith yn rhan orllewinol Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Qinghai (青海省 Qīnghǎi Shěng). Daw'r enw o ene Llyn Qinghai. Mae'r dalaith yn ffinio ar Ranbarthau Ymreolaethol Sinkiang, (Xinjiang) a Tibet a thalaeithiau Gansu a Sichuan. Gyda phoblogaeth o 5.3 miliwn, mae'n un o daleithiau lleiaf poblog Tsieina. Y brifddinas yw Xining.
Hen enw y dalaith oedd Amdo, ac roedd yn rhan o Tibet hanesyddol. Crewyd talaith Qinghai yn 1950, wedi i Tsieina feddiannu Tibet. Cyn hynny, roedd rhan o'r hyn sy'n awr yn rhan ogledd-ddwyreiniol y dalaith yn rhan o dalaith Gansu. Ffurfia'r Tibetiaid 23% o'r boblogaeth, gyda Tsineaid Han yn y mwyafrif gyda 54%. Grwpiau ethnig eraill yw'r Hui (16%), Mongoliaid, Tu a'r Salar.
Yn ddaearyddol, mae'r rhan fwyaf o Qinghai yn rhan o Ucheldir Tibet, gyda rhan o Anialwch Gobi yn y gogledd-orllewin. Ceir y mynyddoedd uchaf yng nghadwyni y Kunlun, Tanggula a'r Nan Shan. Mae nifer o afonydd pwysicaf Asia yn tarddu yma, yn cynnwys y Huang He, yr Yangtze ac afon Mekong.
[golygu] Dinasoedd
| Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina | |
|---|---|
| Taleithiau | Anhui • Fujian • Gansu • Guangdong • Guizhou • Hainan • Hebei • Heilongjiang • Henan • Hubei • Hunan • Jiangsu • Jiangxi • Jilin • Liaoning • Qinghai • Shaanxi • Shandong • Shanxi • Sichuan • Yunnan • Zhejiang |
| Taleithiau dinesig | Beijing • Chongqing • Shanghai • Tianjin |
| Rhanbarthau ymreolaethol | Guangxi • Mongolia Fewnol • Ningxia • Tibet • Xinjiang |
| Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig | Hong Kong • Macau |