Môr Bohai

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Môr Bohai

Môr ger arfordir Tseina yw Môr Bohai (渤|渤, Bó Hǎi), hefyd Gwlff Bohai neu Bo Hai. Mae'n ffurfio rhan fewnol y Môr Melyn, ac yn cael ei wahanu oddi wrth y gweddill o'r môr hwnnw gan ddau benrhyn, Liaodong a Shandong .

Mae gan y môr arwynebedd o tua 78,000 km². Oherwydd ei fod yn agos i Beijing, mae'n un o'r moroedd prysuraf yn y byd. Llifa afon Huang He i mewn iddo.