Renminbi

Oddi ar Wicipedia
Renminbi
Enghraifft o'r canlynolarian cyfred, yuan Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1949 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata
GwneuthurwrChina Banknote Printing and Minting Corporation Edit this on Wikidata
RhagflaenyddMengjiang yuan Edit this on Wikidata
GwladwriaethGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y renminbi (Tsieineeg traddodiadol: 人民幣, Tsieineeg wedi symleiddio: 人民币, yn golygu "arian y bobl") yw arian swyddogol Gweriniaeth Pobl Tsieina. Banc Pobl Tsieina sy'n cyhoeddi'r arian. Y talfyriad swyddogol ISO 4217 amdano yw CNY.

Unedau'r Renminbi[golygu | golygu cod]

2 Yuan

Uned sylfaenol y renminbi yw'r yuan. Mae yuan fel arfer yn cael ei ysgrifennu â'r arwyddnod 元, ond i rwystro ffugio a chamgymeriadau rhifo caiff ei ysgrifennu yn ffurfiol fel 圆. Caiff yr arwyddnod ei drawslythrennu i'r wyddor Lladin fel Ұ neu ¥. Ambell waith mae enw'r arian, renminbi, yn cael ei ddrysu ag enw'r uned sylfaenol yuan.

Mae un yuan yn cynnwys 10 jiao (角). Mae 1 jiao yn cynnwys 10 fen (分). Cyhoeddir arian papur o wahanol werthoedd, y mwyaf yn werth 100 yuan a'r lleiaf yn werth 1 fen.

Yn Tsieineeg Mandarin, gelwir yr yuan hefyd yn kuai (块) ar lafar, mewn rhai ardaloedd. Yr un modd gelwir y jiao yn mao (毛) ar lafar.

Yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina wrth ysgrifennu prisiau mewn siopau fe roddir yr arwyddnod ¥ o flaen y rhif yn aml, yn ogystal â'r arwyddnod 元 wedi'r rhif.

Wynebwerthau[golygu | golygu cod]

Mae'r Renminbi wedi ei rannu i dair uned sylfaenol sef yr yuan, jiao a fen ac iddynt werth cymharol 1/1, 1/10 a 1/100 yn ôl eu trefn.

Peth diddorol i sylw yw bod pob gwerth—o'r lleiaf, 1 fen, i'r mwyaf, 100 yuan—ar gael fel arian papur. Erbyn hyn mae'r papurau fen bron yn ddiwerth. Maent yn llai o faint na phapur y gwerthoedd eraill ac nid yw cynllun yr arian papur fen wedi newid er 1953.

Papurau banc[golygu | golygu cod]

  • CNY 100
  • CNY 50
  • CNY 20 (newydd gyda'r 5ed gyfres yn 1999)
  • CNY 10
  • CNY 5
  • CNY 2 (rwan yn diflannu, ond heb eto eu galw yn eu hôl)
  • CNY 1
  • CNY 0.5
  • CNY 0.2
  • CNY 0.1
  • CNY 0.05 (prin iawn)
  • CNY 0.02 (prin)
  • CNY 0.01

Darnau arian[golygu | golygu cod]

  • CNY 1
  • CNY 0.5
  • CNY 0.1
  • CNY 0.05
  • CNY 0.02
  • CNY 0.01

5ed Gyfres[golygu | golygu cod]

Yn 1999, dechrewyd cyhoeddi cyfres newydd o arian papur a darnau arian y Renminbi, sef argraffiad cyntaf y bumed gyfres. Cyhoeddwyd arian papur a'r wynebwerthoedd canlynol:

  • CNY 100
  • CNY 50
  • CNY 20 (newydd gyda'r gyfres hon)
  • CNY 10
  • CNY 5
  • CNY 1

Hefyd cyhoeddwyd darnau arian newydd:

  • CNY 1
  • CNY 0.5
  • CNY 0.1

Mae'r papurau newydd wedi eu cynllunio i rwystro ffugio. Mae ganddynt ddyfrnodau, maent yn fflwroleuo mewn golau uwchfioled ac mae stribed o fetel ynddynt oll heblaw am y papur ¥1. Mae gan y papur gwerth ¥50 a ¥100 rifau sy'n newid eu lliw wrth edrych arnynt o wahanol onglau. Lle ynghynt y cafwyd amrywiaeth o ddelweddau o ŵr a gwraig mewn gwisg draddodiadol yn perthyn i wahanol ardaloedd o Tsieina, delwedd unffurf o Mao Zedong a ymddengys ar bob papur gaiff ei gyhoeddi yn y 5ed gyfres. Y papur diweddaraf i gael ei gyhoeddi yn argraffiad cyntaf y bumed gyfres yw'r papur CNY 1, a gyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf 2004. Defnyddiwyd nifer o ffyrdd ychwanegol o ddiogelu'r arian papur yn y papur CNY ac fe ail-gyhoeddwyd y papurau eraill a rhagor fyth o nodweddion diogelu ynddynt, gan ddechrau ail-gyhoeddi ar 31 Awst 2005.

Mae'r 4edd gyfres, a gyhoeddwyd yn 1980 a 1990, o hyd yn arian cyfreithlon. Yn 2000, galwodd Banc Pobl Tsieina hen bapurau'r 3ydd gyfres o'r 1960au a 1970au yn eu hôl.

Cyfradd gyfnewid[golygu | golygu cod]

O 1994 hyd at 21 Gorffennaf 2005 polisi llywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina oedd sefydlogi gwerth cyfnewid y renminbi yn erbyn Doler America – ar raddfa o tua 8.28 renminbi i bob doler America. Yng ngwyneb pwysau gwleidyddol o du UDA cafwyd gwared ar y peg â doler America ar 21 Gorffennaf 2005, pan adbrisiwyd y renminbi i 8.11 renminbi i bob doler America. Ar yr un pryd cyhoeddodd Banc Pobl Tsieina y byddent yn sefydlogi gwerth cyfnewid y renminbi yn erbyn basged o arian breiniol nifer o wledydd ac y byddai'r renminbi yn cael ei gyfnewid hyd at derfyn gwahaniaeth o 0.3% yn erbyn y fasged arian breiniol. Yn ôl GPC prif unedau'r fasged arian breiniol yw doler America, yr Euro, yen Japan a won De Corea, a chanran llai o bunt sterling, baht Thailand, rwbl Rwsia, doler Awstralia, doler Canada a doler Singapôr.

Gwelwch hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]