Y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Tirwedd diwydiannol de Cymru tua 1825
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
HWB

CBAC
*Patrymau Mudo - Y cyd-destun Cymreig
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Roedd y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru yn gyfnod o newid mewn cymdeithas pan ddatblygodd diwydiant i'r fath raddau fel y bu newidiadau mawr yn y ffordd roedd pobl yn gweithio ac yn byw. 

Yn 1750 roedd Prydain yn wlad lle'r oedd y mwyafrif o’r bobl yn byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig, ond erbyn 1850 datblygodd i fod yn wlad ddiwydiannol lle'r oedd y mwyafrif yn byw mewn trefi a dinasoedd ac yn gweithio gyda pheiriannau.  Erbyn hynny roedd Prydain yn cael ei gweld gan weddill y byd fel ‘gweithdy’r byd’ gan ei bod yn cynhyrchu 66% o lo y byd, 50% o haearn y byd a 50% o fetel y byd.

Roedd yn gyfnod, rhwng tua 1750 a 1850, a welodd ddulliau newydd o gynhyrchu nwyddau a bwyd ar draws Ewrop ac yn Unol Daleithiau America.  Dyma gyfnod pan welwyd:

  • Newid o ddulliau llaw i ddyfeisio a defnyddio peiriannau
  • Newidiadau yn y ffordd o gynhyrchu haearn
  • Mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o bŵer stêm a phŵer dŵr
  • Datblygu systemau ffatri gyda pheiriannau mecanyddol
  • Twf aruthrol ym mhoblogaeth y wlad.

Gwelodd Gymru newidiadau yn ei ffordd o fyw ac yn ei ffordd o weithio yn sgil y Chwyldro Diwydiannol. Yn sgil datblygu'r gweithfeydd haearn yng Nghymru yn ardal Merthyr a’r de-ddwyrain yn sir Fynwy gwelwyd trefi diwydiannol yn tyfu o gwmpas y gweithfeydd a’r ffatrïoedd. Yn y gogledd-ddwyrain sefydlwyd gweithfeydd Bersham ac wedyn Brymbo gan y Brodyr Wilkinson ar ddiwedd y 18g, ac roedd y gweithfeydd copr yn Abertawe ac Amlwch wedi troi'r ardaloedd hynny yn rhai diwydiannol. Daeth peiriannau yn rhan o fywyd gwaith pobl, a chyda hynny daeth ffyrdd newydd o deithio a chludo nwyddau gyda’r camlesi a’r rheilffyrdd. Roedd pŵer corfforol a phŵer anifeiliaid a’r elfennau bellach wedi cael eu disodli gan bŵer stêm ac yn nes ymlaen gan drydan.  Datblygodd trefi diwydiannol fel Merthyr, Abertawe ac yn nes ymlaen Caerdydd, ond er mor ddeniadol oedd y cyflogau da yn y gweithfeydd, roedd pris i’w dalu am hynny. Roedd peryglon y gwaith yn ofid cyson ac roedd amodau byw yn y trefi diwydiannol yn frwnt ac yn anodd.

Achosion y Chwyldro Diwydiannol[golygu | golygu cod]

Paentiad yn darlunio agoriad Rheilffordd Lerpwl a Manceinion ym 1830, y rheilffordd rhyng-ddinas gyntaf yn y byd.
  • Nodweddion daearyddol Prydain – roedd gan Brydain adnoddau mwyn cyfoethog wedi eu lleoli ar draws y wlad yng ngogledd Lloegr, canolbarth Lloegr, de Cymru, Cernyw a thiroedd isel yr Alban.  Roedd digonedd o fwynau fel haearn, plwm, tun a chopr ar gael, a Phrydain oedd yn meddu ar yr ansawdd gorau o lo yn Ewrop.  Roedd ganddi hefyd ddigonedd o bŵer dŵr a chalch i helpu i ddatblygu ac ehangu gwahanol ddiwydiannau.  Roedd calch yn cael ei ddefnyddio i buro haearn er mwyn ei gryfhau ar gyfer gwahanol bwrpas a defnydd. Roedd hinsawdd laith y tywydd yng ngogledd-orllewin Lloegr - er enghraifft, yn ardal Manceinion - yn darparu’r amodau gorau posibl ar gyfer troelli cotwm. Roedd hwn yn gynnyrch allweddol i’r diwydiant tecstilau.
  • Trafnidiaeth – roedd gan Brydain nifer o borthladdoedd ac afonydd y medrid hwylio arnynt. Roedd arfordir eang Prydain hefyd yn hollbwysig wrth fewnforio ac allforio nwyddau, ac yn help wrth gludo nwyddau ar draws un rhan o’r wlad i’r llall.
  • Heddwch - bu cyfnod o heddwch ym Mhrydain yn ystod y 18g ac arweiniodd hyn at sefydlogrwydd, lle'r oedd diwydiant a masnach yn medru llwyddo
  • Masnach rydd - roedd Prydain yn farchnad lle nad oedd tollau na threthi mewnol rhwng y gwahanol wledydd, er enghraifft, yr Alban, Lloegr a Chymru. Roedd hyn yn help o ran hwyluso gwerthu nwyddau.
  • Rôl unigolion – roedd mentergarwch dynion busnes y cyfnod yn golygu bod ganddynt yr arian i fuddsoddi a datblygu'r adnoddau crai, fel haearn a glo a oedd yn gyrru’r Chwyldro Diwydiannol - er enghraifft, teuluoedd fel y Crawshays, Guests, Homfrays a’r Hills yn ne Cymru. Yn y diwydiant tecstilau dyfeisiodd nifer o ddynion beiriannau newydd i gyflymu’r broses o wneud dillad, ac ym 1709 dyfeisiodd Abraham Darby ei ffwrnais haearn chwyth oedd yn defnyddio golosg, sef math o lo, i doddi’r haearn amhur. Arweiniodd hyn at dwf yn y diwydiant glo.
  • Gweithlu – roedd gan Brydain ddigon o weithlu a oedd yn medru cwrdd â’r galw am fwy o bobl i weithio mewn gwahanol ddiwydiannau. Roedd newidiadau mawr ym myd amaeth, fel y Chwyldro Amaethyddol, wedi gweddnewid safon byw pobl. Bu dynion fel Jethro Tull, Robert Bakewell a ‘Turnip’ Townshend yn arbrofi wrth dyfu cnydau a bridio anifeiliaid, gan gyflwyno dulliau mwy gwyddonol o ffermio. O ganlyniad i’w hymdrechion roedd mwy o fwyd yn cael ei dyfu a’i gynhyrchu, a'r bwyd hwnnw o safon well. Roedd hyn yn ei dro yn gwella safon byw pobl ac yn y pendraw yn arwain at gynnydd yn nifer y genedigaethau.
  • Rhyfel – creodd rhyfeloedd fel y Rhyfel Saith Mlynedd (1756-1763), Rhyfel Annibyniaeth America (1775-1783) a Rhyfeloedd Napoleon (1803-1815) alw mawr am gynhyrchu mwy o arfau.

Mewnfudo y tu allan a thu mewn i Gymru[golygu | golygu cod]

Richard Crawshay (1739–1810). Diwydiannwr a pherchennog Gwaith Haearn Cyfarthfa ger Merthyr Tudful

Y 18g oedd dechrau’r Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru wrth i gyfoeth mwynol y wlad gael ei ecsbloetio'n fwy systematig. Er mai Cymry oedd rhai o’r diwydianwyr cynnar, daeth llawer ohonynt hefyd o Loegr, gan ddod â gwybodaeth dechnegol a gweithwyr medrus gyda hwy i ddechrau busnesau newydd. Er enghraifft agorodd Dr John Lane o Fryste y gwaith copr cyntaf yn Abertawe yn 1714. Agorodd Isaac Wilkinson o Swydd Gaerhirfryn waith haearn yn y Bers ger Wrecsam yn 1753. Ym Merthyr, roedd y prif feistri haearn – Richard Crawshay, John Guest, Anthony Bacon a Samuel Homfray - i gyd yn Saeson. Symudodd pobl o bob rhan o Gymru i ardaloedd diwydiannol, wedi eu denu gan gyflogau da. Daeth gweithwyr hefyd o Iwerddon a Lloegr, a thros amser cyflwynodd hyn yr iaith Saesneg i lawer o gymunedau Cymraeg ar raddfa fawr am y tro cyntaf.

Wrth i brosesau diwydiannol yng Nghymru gyflymu ar ddiwedd y 18g, gwelwyd twf cynyddol drwy gydol y 19eg ganrif. Ar ddechrau’r 19eg ganrif, gweithfeydd haearn yng nghymoedd y De, gweithfeydd copr yng nghwm Tawe a chwareli llechi yn y Gogledd oedd y prif gyflogwyr. Fodd bynnag, erbyn diwedd y 19eg ganrif, glo oedd y diwydiant mwyaf. Erbyn dechrau’r 20g, roedd un o bob pedwar gweithiwr yng Nghymru yn löwr.

Merthyr Tudful yn ystod y chwyldro diwydiannol

Yn ystod y rhan fwyaf o’r 19eg ganrif, daeth y mwyafrif o ymfudwyr i’r ardaloedd diwydiannol hyn o siroedd gwledig Cymru, a Chymraeg oedd iaith bob dydd y gweithwyr yn y ffwrneisi haearn a chopr a’r chwareli llechi. Roedd ymfudwyr Saesneg eu hiaith hefyd, ond nid oeddent yn gyffredin. Gan fod y rhan fwyaf o’u cydweithwyr yn uniaith Gymraeg, roeddent yn dueddol o ddysgu’r iaith. Yn y 1840au, arweiniodd y Newyn Mawr yn Iwerddon at y don fawr gyntaf o fewnfudwyr i Gymru. Gwelwyd rhai mewnfudwyr o Iwerddon cyn hynny, ond gorfodwyd pobl i adael y wlad oherwydd y newyn. Fe wnaeth y swm mawr o bobl a fewnfudodd o Iwerddon yng nghanol y 19eg ganrif helpu i ddatblygu economi Cymru hefyd, er na chawsant eu croesawu i’r fath raddau i ddechrau. Roedd llawer o bobl yng Nghymru wedi dychryn wrth weld y niferoedd mawr o fewnfudwyr hanner newynog a oedd yn cyrraedd y wlad. Er bod cyfnodau ac ardaloedd penodol lle cafwyd gwrthwynebiad i bresenoldeb y Gwyddelod, roeddent yn weithwyr caled ar y cyfan ac felly’n ei chael hi’n gymharol hawdd dod o hyd i waith. Roeddent yn aml yn fodlon gwneud y math o waith brwnt, amhleserus nad oedd pobl eraill yn awyddus i’w wneud.

Erbyn 1861, roedd bron i 30,000 o Wyddelod yn byw yng Nghymru, y grŵp mwyaf o fewnfudwyr o bell ffordd. Fe wnaethant ymgartrefu’n bennaf yn y pedair tref fwyaf yn ne Cymru - Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Merthyr. Roeddent yn weithwyr caled a daethant o hyd i swyddi yn y diwydiant adeiladu - er enghraifft, adeiladu dociau Caerdydd, y rhwydwaith rheilffyrdd a oedd yn ehangu, yn ogystal â'r pyllau glo a’r gweithfeydd dur. Buont yn rhedeg tai llety hefyd, yn aml yn yr ardaloedd tlotaf o’r dref - er enghraifft, ardal Newtown yng Nghaerdydd a adeiladwyd gan yr Ardalydd Bute. Er bod y rhain yn aml yn orlawn, roeddent yn cynnig llety rhad iawn i’w cydwladwyr wrth i’r ymfudo o Iwerddon i Brydain barhau tuag at ddiwedd y 19eg ganrif. Erbyn 1881, roedd traean o drigolion Caerdydd yn Wyddelod.

Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, fe wnaeth poblogaeth Cymru fwy na dyblu o 1,163,000 yn 1851 i 2,421,000 erbyn 1911. Gwelwyd mewnlifiad enfawr o bobl i gymoedd y De lle’r oedd y diwydiant glo yn ehangu. Rhwng 1851 a 1911, amcangyfrifir bod 366,000 o bobl wedi ymfudo i’r ardal, gan gynnwys 129,000 rhwng 1901 a 1911. Roedd de Cymru yn denu mwy o ymfudwyr nag unrhyw le y tu allan i Unol Daleithiau America. Yn 1901, roedd y twf yn y boblogaeth yn y tair sir fwyaf diwydiannol – Clwyd, Gwent a Morgannwg – 10 gwaith yn fwy na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Cynyddodd y nifer o fewnfudwyr o Loegr yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif, yn enwedig ymhlith pobl o dde-orllewin Lloegr. Clywyd yr iaith Saesneg yn amlach yn y gweithle ac ar y strydoedd. Erbyn dechrau’r 20g, roedd Saesneg wedi dechrau disodli’r Gymraeg fel iaith bob dydd yn y rhan fwyaf o ardaloedd diwydiannol y De.[1]

Poblogaeth rhai siroedd yng Nghymru [2]
Sir Poblogaeth 1801 Poblogaeth 1911
Sir Forgannwg   71,000 1,130,000
Caernarfon   41,500 142,000
Ceredigion   43,000 81,000
Sir Frycheiniog 32,000   56,000
Sir Fôn     34,000   51,000

Unigolion a diwydiannau Cymru[golygu | golygu cod]

Allforio llechi o'r Felinheli yng ngogledd Cymru, 1875

Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol sefydlwyd a datblygwyd gwahanol ddiwydiannau mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru.  Yng nghymoedd de a de-ddwyrain Cymru, haearn, glo a dur oedd y prif ddiwydiannau, gyda gweithfeydd copr yn Abertawe a thunplat yn cael ei gynhyrchu yn ardal y de-orllewin yn Llanelli. Yn ystod y 19eg ganrif gwelodd y diwydiant llechi yng ngogledd Cymru ‘oes aur’ yn y galw am ei chynnyrch, ac roedd glo hefyd yn cael ei gynhyrchu yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Roedd Cymru yn meddu ar yr adnoddau crai a'r gweithlu, a llwyddodd hefyd i ddenu buddsoddiad ariannol er mwyn sicrhau bod y Chwyldro Diwydiannol yn llwyddo yng Nghymru.  Bu mentergarwch teuluoedd fel y Crawshays o Swydd Efrog a’r Guests o ardal Amwythig yn allweddol i lewyrch gweithfeydd haearn Cyfarthfa a Dowlais ym Merthyr, a bu sgiliau entrepreneuraidd Thomas Williams o gymorth i Fynydd Parys ennill ei blwyf fel canolfan gopr fyd-eang. Daeth gwyddonwyr a dynion busnes i Abertawe yn y 18g i fanteisio ar gyfoeth naturiol yr ardal - er enghraifft, bu cefnogaeth ariannol ac arbenigedd Henry Hussey Vivian mewn gwaith metelau a mwynau yn hollbwysig i lwyddiant Gwaith Copr Hafod.[3]

Unigolyn pwysig yn nhwf Caerdydd oedd John Crichton-Stuart, ail Ardalydd Bute, a fuddsoddodd arian enfawr yn natblygiad Caerdydd fel porthladd. Bu'n allweddol o ran adeiladu Dociau Bute yng Nghaerdydd ganol y 19eg ganrif, a ddaeth yn brif borthladd de Cymru ac yn un o brif borthladdoedd glo’r byd.[2][4] Yn yr un modd David Davies, Llandinam, y diwydiannwr a anwyd yn Llandinam, Sir Drefaldwyn, a sefydlodd Ddociau'r Barri a gwblhawyd yn 1889.[5] Roedd David Davies, fel diwydiannwr pwysig arall o’r cyfnod, sef D.A. Thomas, yn berchen ar gwmni glo enfawr. Roedd Davies yn berchen ar yr Ocean Coal Company Ltd ac roedd Thomas yn berchen ar Gwmni Cyfunol y Cambrian a oedd yn berchen ar sawl pwll glo yn ne Cymru ac a oedd yn cyflogi miloedd o lowyr.[6]

David Davies, Llandinam yn pori drwy gynlluniau ar gyfer Dociau'r Barri

Haearn -  Mae Merthyr yn cael ei hystyried fel ‘crud’ y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru. Buddsoddwyd yn adnoddau naturiol ardal Merthyr gan ddynion busnes a welodd eu cyfle i wneud eu ffortiwn yn y gweithfeydd haearn.  Erbyn dechrau’r 19eg ganrif roedd meistri haearn fel y Crawshays, y Guests, yr Homfrays a’r Hills wedi creu ymerodraethau haearn ym Merthyr wrth sefydlu gweithfeydd fel Cyfarthfa, Dowlais, Penydarren a Plymouth, a oedd yn cyflogi miloedd o weithwyr yn ddynion, menywod a phlant. I’r dwyrain o Ferthyr agorwyd gweithfeydd haearn yn Nant-y-glo, Blaenafon a Thredegar yn Sir Fynwy. Erbyn 1830 roedd Sir Fynwy a dwyrain Morgannwg yn cynhyrchu 50% o’r haearn a gynhyrchid ym Mhrydain gyfan.[7]

Copr - Yn ôl Cyfrifiad 1801 Abertawe oedd un o drefi mwyaf Cymru, gyda thros 10,000 o bobl yn byw yno. Yn ystod y 18g hyd at gychwyn y 19eg ganrif daeth y dref a’r ardal gyfagos yn enwog fel canolfan gopr y byd, ac yn adnabyddus fel ‘Copperopolis’. Mewnforiwyd copr o Gernyw, Gogledd America a Chiwba i gael ei fwyndoddi yng Nghwm Tawe ac allforiwyd ef ar draws cyfandiroedd y byd i Affrica, Ewrop, Siapan a Tsieina.[8]

Roedd gan Gymru hefyd ganolfan bwysig gopr arall yng ngogledd Cymru. Erbyn diwedd y 18g, roedd gwaith copr Mynydd Parys, ger Amlwch ar Ynys Môn, yn cynhyrchu’r mwyafrif o gopr y byd. Credwyd bod pobl wedi bod yn cloddio am gopr yno yng nghyfnod y Rhufeiniaid, ac erbyn 1778 roedd y gwaith copr yn cael ei reoli gan Thomas Williams, Llanidan, twrne o Lundain. O dan arweinyddiaeth Thomas Williams datblygodd Mynydd Parys i fod yn waith gyda thros 1,000 o weithlu ar ei anterth a datblygwyd porthladd Amlwch er mwyn cludo’r cynnyrch copr i Lerpwl. Roedd y copr o Amlwch yn cael ei gludo draw mewn llongau i weithfeydd copr a phres Thomas Williams yn Nhreffynnon, a byddai’r llongau hefyd yn mynd â’r copr i lawr i’r smeltrau naill ai yn Abertawe neu yn swydd Gaerhirfryn, a oedd hefyd wedi eu hadeiladu dan gyfarwyddyd Thomas Williams. Roedd y gwaith yn galed, gyda phlant bach yn cael eu cyflogi yn y gwaith, ac achosodd budreddi yn y gwaith niwed i’r amgylchedd yn ardal Amlwch. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd y nifer a gyflogwyd yn y gwaith wedi lleihau’n sylweddol ac fe’i caewyd ar ddechrau’r 20g.[9][10][11]

Diwydiant Gwlân - Yn ystod degawdau cyntaf y 19g datblygodd ‘trefi gwlân’ yn y Canolbarth – y Drenewydd, y Trallwng a Llanidloes.  Roedd y melinau gwlân niferus a ymddangosodd yn Nyffryn Hafren yn gallu manteisio ar y system gamlesi gyfagos a fyddai’n cludo nwyddau gwlân i Fanceinion. Yn y Drenewydd roedd 35 o ffatrïoedd nyddu ac 82 o weithdai gweu. Erbyn canol y ganrif roedd llewyrch y diwydiant yn prysur ddiflannu, ac un o’r rhesymau am hynny oedd diffyg cyflenwad o lo yn agos at y gweithdai a'r ffatrïoedd gwlân.[12]

Llechi gogledd Cymru - Bu pobl yn cloddio am lechi yng ngogledd Cymru ers dros 1,800 o flynyddoedd. Yn ystod y chwyldro diwydiannol daeth galw mawr am lechi ac fe dyfodd y diwydiant llechi yn syfrdanol. Yn 1898 cyrhaeddodd y fasnach lechi yng Nghymru ei hanterth pan gynhyrchodd 17,000 o ddynion 485,000 tunnell o lechi. Cymru a gynhyrchai dros bedwar rhan o bump o holl lechi Prydain yn y cyfnod hwn, a Sir Gaernarfon oedd ar y brig o blith holl siroedd Cymru. Roedd Chwarel y Penrhyn ger Bethesda a Chwarel Llanberis wedi eu lleoli yn sir Gaernarfon ac yn enwog ar draws y byd am safon y llechi roedden nhw’n eu cynhyrchu.

Pwll Glo Morgannwg, Llwynypia, y Rhondda yn 1905

Glo - Erbyn 1913 glo oedd prif ddiwydiant Cymru. Roedd cymoedd de Cymru yn mwyngloddio glo a oedd yn cael ei ddefnyddio ar draws y byd. Roedd y diwydiant haearn wedi tyfu ochr yn ochr â’r diwydiant glo.  Erbyn 1913 roedd traean o weithwyr Cymru yn gweithio yn y pyllau glo ac roedd yn waith peryglus a brwnt.

Yn 1913, fe gyrhaeddodd pyllau glo Cymru uchafbwynt cynhyrchu glo. Cynhyrchwyd mwy o lo yn y flwyddyn hon nag ar unrhyw adeg arall yn ein hanes. Glo oedd tanwydd trenau, llongau a ffatrïoedd. Daeth de Cymru yn fan pwysig iawn ym Mhrydain a’r byd oherwydd y glo a gynhyrchwyd yno.[13]

Cyfraniad glo ati dwf Caerdydd - Erbyn dechrau’r 20g, Caerdydd oedd un o’r cymunedau amlddiwylliannol mwyaf ym Mhrydain, gyda’r fasnach lo ryngwladol yn denu ymfudwyr o fwy na 50 o wledydd gwahanol i’r ddinas. Cafodd glo o Gymru, yn enwedig glo stêm o’r Rhondda, ei allforio i bob cwr o’r byd. Yn wir, anfonwyd y llwyth cyntaf erioed o lo o Gaerdydd i ynysoedd bach Cape Verde oddi ar arfordir Gorllewin Affrica, ac roedd morwyr o’r ynysoedd hynny yn cyrraedd Tiger Bay mor gynnar â'r 17g. Gwelwyd cynnydd mawr yn y glo a allforiwyd o Gaerdydd yn ystod y 19eg ganrif. Yn aml, câi’r llongau glo eu criwio gan bobl o wahanol rannau o’r ymerodraeth Brydeinig, yn enwedig y Caribî, Iemen, Somalia a Gorllewin Affrica, felly nid yw’n syndod bod rhai o’r morwyr hyn wedi ymgartrefu yn y porthladd. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn byw yn Tiger Bay neu Dre-biwt, ger y porthladd.[1]

Trafnidiaeth[golygu | golygu cod]

Rhan o ddyfrbont y Waun, 1795.

Gyda thwf diwydiant daeth gwelliannau o ran ffyrdd o deithio, gan fod angen cludo cynnyrch o un lleoliad i’r llall ar draws y wlad. Bu camlesi yn gam mawr ymlaen o gymharu â cheffyl a chert, fel yr oedd pethau ar ddechrau’r Chwyldro Diwydiannol ganol y 18g. Adeiladwyd Camlas Sir Forgannwg yn ystod y 1790au a oedd yn cysylltu Merthyr â Chaerdydd, ac roedd hyn yn ddull llawer mwy cyflym na chario nwyddau ar yr hewl.[14] Gyda phŵer stêm a glo daeth cyfnod y rheilffyrdd ac roedd y datblygiad hwn yn rhoi mynediad at farchnadoedd ehangach.

Newidiodd trenau ffordd o fyw ac arferion gwaith pobl yn y 19eg ganrif. Erbyn 1850 roedd tua 5,000 milltir o gledrau rheilffyrdd wedi eu gosod ym Mhrydain. Defnyddiodd cwmnïau mawr fel y rhai glo a haearn y rheilffyrdd i fynd â nwyddau o un lle i’r llall. Trawsnewidiwyd y dull o gludo glo o Ferthyr i Gaerdydd yn sgil agor Rheilffordd Cwm Taf yn 1841.[14]

Roedd angen glo hefyd i bweru’r rheilffyrdd, ac yng nghanol y 19eg ganrif glo oedd y tanwydd pwysicaf yn y byd. Yn ffodus, roedd digonedd o lo yn eistedd yn ddwfn yn nhir Cymru, ac roedd yn lo arbennig o dda. De Cymru oedd un o brif ganolfannau tanwydd y byd yn yr 19eg ganrif. Roedd y rheilffyrdd wedi ei gwneud hi’n hawdd allforio’r glo. Rhedai rheilffyrdd o’r cymoedd i borthladdoedd mawr, fel Caerdydd, ac wedyn rhoddwyd y glo ar longau i’w ddosbarthu i weddill y byd. Roedd glo yn danwydd da ac yn ddefnyddiol i drenau, llongau, gwresogi cartrefi a ffatrïoedd haearn.

Amodau gwaith a byw yn y trefi diwydiannol[golygu | golygu cod]

Tai i weithwyr yn Elliot's Town, Tredegar Newydd.

Un datblygiad arall a ddigwyddodd o ganlyniad i’r Chwyldro Diwydiannol oedd ymddangosiad trefi diwydiannol. Roedd amodau byw yn wael iawn mewn trefi diwydiannol. Symudodd pobl i fyw mewn trefi lle'r oedd ffatrïoedd. Gan fod y datblygiad hwn yn digwydd mor gyflym, adeiladwyd tai yn sydyn, yn agos i’r ffatrïoedd, heb fawr o sylw yn cael ei roi i’w hansawdd, a gan amlaf heb gyflenwad o ddŵr glân na system garthffosiaeth.[15]

Doedd dim deddfau cynllunio pan gafodd y trefi eu hadeiladu ac oherwydd hyn roedd y tai'n aml wedi eu hadeiladu'n agos iawn at ei gilydd heb fawr o ystyriaeth i'r bobl a fyddai'n byw ynddyn nhw. Fe'u hadeiladwyd gan ddefnyddio deunyddiau adeiladu o ansawdd gwael - er enghraifft, tywodfaen, a oedd yn golygu bod lleithder yn dod i mewn i’r tŷ gan ei fod mor fandyllog. Doedd y tai ddim yn cael eu hadeiladu'n ddigon cyflym i'r nifer cynyddol o weithwyr, a byddai pobl yn aml yn symud i fyw at berthnasau a theuluoedd, ac roedd hyn yn arwain at orlenwi.

Canlyniad arall tai wedi eu hadeiladu'n wael a gorlenwi oedd bod heintiau'n gallu lledu'n gyflym. Lladdodd clefydau fel y frech goch a'r frech wen lawer o bobl, yn enwedig ymysg y rhai ifanc iawn a'r henoed. Anfonodd y llywodraeth arolygwyr o gwmpas y wlad i ymchwilio i amgylchiadau'r trefi diwydiannol newydd am ei bod yn poeni am haint o'r enw colera. Pan ledaenodd achosion o'r colera yn 1849, ym Merthyr Tudful y cafwyd yr ail gyfradd farwolaeth uchaf ym Mhrydain. Dim ond yn Hull yn Lloegr y bu farw rhagor o bobl.

Roedd amodau gweithio'n wael iawn yng Nghymru'r 19eg ganrif, er ei bod hi'r un fath dros Brydain gyfan. Roedd y gwaith yn aml yn beryglus iawn, ac roedd y cyflogau’n isel. Achosodd amodau gwaith anfodlonrwydd mawr ymhlith y gweithwyr. Yn y 19eg ganrif darganfuwyd bod llawer iawn o blant yn gweithio o dan ddaear mewn pyllau glo neu'n cael eu defnyddio i roi help i wneud haearn. Roedd mwy o blant yn gweithio yn Ne Cymru nag mewn unrhyw ardal arall o Brydain. Nid oedd gweithio sifft o 16 awr yn beth anghyffredin, gyda phlant 5 mlwydd oed yn gweithio 14 awr y dydd. Roedd gwaith y plant yn aml yn beryglus. Bydden nhw'n cael eu hanfon i'r gwaith yn ifanc iawn i roi cymorth i gynnal eu teuluoedd.[15]

Tensiynau a therfysgoedd[golygu | golygu cod]

Achosodd y Chwyldro Diwydiannol lawer o ddioddefaint. Rhan bwysig o’r chwyldro oedd bod peiriannau yn cael eu dyfeisio, a byddai’r rhain yn gwneud y gwaith yr arferai gweithwyr ei wneud.  Golygai hyn bod pobol yn colli eu gwaith, neu ar y lleiaf yn gweld gostyngiad sylweddol yn eu cyflogau.[15] Achoswyd Terfysgoedd y Ludiaid (The Luddite Riots) yn Lloegr rhwng 1811 a 1817 ar ôl i nifer o weithwyr amaethyddol golli eu gwaith yn sgil dyfodiad peiriannau i fyd amaeth. Dechreuodd y protestwyr falu’r peiriannau o dan arweinyddiaeth Ned Ludd. Cosbwyd y protestwyr yn llym, gyda rhai yn cael eu crogi yn 1813.[15]

Yng nghanolbarth Cymru roedd y Chwyldro Diwydiannol yn cael effaith ar y gweithlu yn y diwydiant gwlân. Roedd amodau yn y melinau gwlân yn llym, ac roedd yr amodau byw yr un mor wael. Yn ogystal, arweiniodd yr anfodlonrwydd cyffredinol tuag at gyflwyno Deddf Newydd y Tlodion yn 1834 at ffurfio canghennau o’r Siartwyr yn y Canolbarth. Sefydlwyd y gangen gyntaf yn y Drenewydd yn 1837.[16]

Roedd cefnogwyr y Teirw Scotch yn gweithredu yn ne-ddwyrain maes glo de Cymru ac yn cael eu hystyried yn fath o undeb llafur cyntefig. Gweithwyr yn y diwydiannau trwm oedd trwch yr aelodau ac roedd wedi dod i fodolaeth oherwydd y gwrthdaro rhwng cyflogwyr a gweithwyr. Bwriad y ‘Teirw’ oedd sicrhau undod ymhlith y gweithwyr.[17]

Terfysg Merthyr yn 1831.

Ym Merthyr arweiniodd cyfuniad o effeithiau’r Chwyldro Diwydiannol at Derfysg Merthyr yn 1831. Roedd yr amodau byw ffiaidd a’r amodau gwaith annheg wedi gyrru’r gweithwyr haearn i brotestio yn erbyn anghyfiawnderau ac annhegwch eu sefyllfa.  Roedd yn gas ganddynt hefyd y System Dryc, sef system a ddefnyddiwyd gan y meistri haearn i dalu’r gweithwyr â thocynnau yn hytrach nag arian parod. Achosodd hyn iddynt fynd i ddyled yn aml, ac oherwydd hynny byddai sawl un yn cael ei hun o flaen Llys y Deisyfion, a oedd yn atgas yng ngolwg llawer. Yn ychwanegol at hyn, roedd y ffaith nad oedd ganddynt bleidlais i ddangos eu hanfodlonrwydd yn rhwystredigaeth arall oedd yn gwaethygu eu sefyllfa.

Cyn dechrau’r Chwyldro Diwydiannol, roedd y nifer fach o fewnfudwyr a ddaeth i Gymru wedi integreiddio’n hawdd i mewn i’w cymunedau lleol. Fodd bynnag, adeg y Chwyldro Diwydiannol, pan gyrhaeddodd nifer fawr o Wyddelod yn y 1840au, achosodd hyn densiynau, ac arweiniodd at y terfysgoedd hiliol cyntaf yng Nghaerdydd yn 1848, ar ôl i Gymro, Thomas Lewis, gael ei drywanu gan Wyddel, John Conners. Achosodd y mewnfudo o Iwerddon broblemau am nifer o resymau - er enghraifft, cyrhaeddodd y mewnfudwyr yn ystod dirwasgiad economaidd. Roedd gweithwyr lleol yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i waith ac yn honni bod y Gwyddelod yn barod i weithio am gyflog llai. Fe wnaethant gyrraedd mewn niferoedd mawr ac mewn cyflwr enbydus. Pan gafwyd achosion o golera yng Nghaerdydd yn 1849, y Gwyddelod, a oedd yn byw yn slymiau tlotaf a mwyaf gorlawn y ddinas, gafodd y bai am ledaenu’r clefyd. Roedd papurau newydd lleol yn wrthwynebus ac yn cyfeirio atynt yn aml fel “Mud Crawlers” (oherwydd y ffaith eu bod yn cael eu gollwng weithiau wrth y draethlin gan gapteiniaid llongau, yn frwnt ac yn gorfod dod o hyd i’w ffordd eu hunain i’r dref agosaf.)

Roedd Cymru yn wlad Brotestannaidd, anghydffurfiol gan fwyaf, ac roedd y rhan fwyaf o’r mewnfudwyr Gwyddelig yn Gatholigion Rhufeinig. Yn ystod y 19eg ganrif, bu cynifer ag 20 o derfysgoedd gwrth-Wyddelig ledled y wlad, mewn lleoedd mor bell oddi wrth ei gilydd â Chaerdydd a Chaergybi. Roedd tensiynau ethnig yn eithriadol o wael yn Sir Fynwy a Morgannwg, lle cafodd y newydd-ddyfodiaid eu cyhuddo o weithio am gyflogau is. Fodd bynnag, wrth i’r economi gryfhau, daeth yn haws i fewnfudwyr Gwyddelig ddod o hyd i waith. Roeddent yn fodlon gwneud gwaith anodd, yn aml o dan yr amodau mwyaf brwnt a pheryglus. Ledled Cymru, fe’u gwelwyd yn gweithio ar brosiectau adeiladu - er enghraifft, adeiladu dociau Caerdydd a’r rhwydwaith rheilffordd a oedd yn ehangu, yn ogystal ag yn y pyllau glo a’r gweithfeydd dur. Nid oes unrhyw dystiolaeth gadarn ychwaith bod y Gwyddelod wedi tandorri cyflogau gweithwyr lleol. Mae’n debygol mai bychod dihangol cyfleus oeddent pan fyddai pethau’n wael.[1]

Agnes[dolen marw] May Webber (13 oed) a'i chwaer fach yn chwilio ac yn aros am newyddion am eu tad yn Senghennydd.

Trychinebau[golygu | golygu cod]

Un o’r digwyddiadau sy’n dangos pa mor beryglus oedd amodau gwaith y pyllau glo oedd Tanchwa Senghennydd ar 14 Hydref 1913.  Lladdodd y danchwa 439 glöwr yn siafft Lancaster, a oedd yn eiddo i Bwll Glo Universal, yn Senghennydd, ger Caerffili. Roedd perchnogion y pwll glo wedi anwybyddu rhybuddion am y peryglon yn y pwll yn ddiweddar iawn cyn y trychineb. Roedd Senghennydd yn adnabyddus am fod yn bwll lle'r oedd llawer o nwy a llwch. Cymaint oedd nerth y ffrwydrad fel y cafodd pen y banciwr a oedd yn sefyll ar ben y pwll ei dorri i ffwrdd gan blanc o bren a oedd wedi ei yrru am i fyny gan gryfder y ffrwydrad. Teimlodd y pentref cyfan y ffrwydrad a thorrwyd ffenestri tua hanner milltir i ffwrdd. Roedd llawer o'r glowyr wedi cael eu llosgi mor ddrwg fel mai dim ond drwy eitemau fel esgidiau, tuniau baco neu oriawr yr oedd modd i'r achubwyr a'r teuluoedd adnabod eu perthnasau. Dinistriodd y trychineb y gymuned, a oedd yn un Gymraeg ei hiaith ar y cyfan. Collwyd cenhedlaeth o weithwyr, yr oedd llawer ohonynt yn ddynion ifanc ac yn fechgyn. Cymerodd dros fis i'r mwyafrif o'r cyrff ddod i wyneb y pwll. O safbwynt nifer y colledion Tanchwa Senghennydd yw'r trychineb gwaethaf yn hanes y diwydiant glo ym Mhrydain.[18][19]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Patrymau mudo y cyd-destun Cymreig" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  2. 2.0 2.1 "Cymru, Prydain a'r Byd, 1913" (PDF). HWB. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-10-24. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  3. "Abertawe a Chaerdydd" (PDF). HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.[dolen marw]
  4. "Yn y lle hwn - dathlu canrif o gasglu". www.webarchive.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-24. Cyrchwyd 2020-04-03.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  5. "DAVIES, DAVID (1818 - 1890), Llandinam; | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-04-03.
  6. "THOMAS, DAVID ALFRED (1856 - 1918), yr is-iarll RHONDDA 1af | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-04-03.
  7. "Haearn a Glo yng Nghymru". HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  8. "Abertawe a Chaerdydd". HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  9. Rowlands, John. Copper Mountain. Cymdeithas Hynafiaethwyr Mon.
  10. Davies, John. Hanes Cymru. t. 314.
  11. "Uffern o le". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2015-01-23. Cyrchwyd 2020-04-03.
  12. Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 409–410.
  13. "Cymru yn 1913". HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  14. 14.0 14.1 Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 619.
  15. 15.0 15.1 15.2 15.3 "Gwleidyddiaeth a Llywodraeth 1780 - 1886". CBAC. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  16. "Radicaliaeth a Phrotest" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  17. Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 886.
  18. Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 842.
  19. Davies, John (1990). Hanes Cymru. t. 471.