Neidio i'r cynnwys

Newtown, Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Newtown
Mathmaestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4772°N 3.169°W Edit this on Wikidata
Map

Ardal a chymuned yng Nghaerdydd oedd Newtown oedd yn cael ei hadnabod fel 'Iwerddon Fach' oherwydd ei phoblogaeth o deuluoedd Gwyddelig. Roedd ei chwe stryd a 200 o dai yn bodoli o ganol y 19g nes iddynt gael eu dymchwel yn 1970. Caiff ei adnabod fel un o "5 trefi Caerdydd", y lleill oedd Tre-Biwt, Crockherbtown, Grangetown a Temperance Town.

Yr ardaloedd daeth i'w adnabod yn hwyrach fel Newton ac Adamsdown oedd yr ardaloedd cyntaf gyda datblygiad sylweddol o dai tu allan i hen ffiniau tref Caerdydd yn rhan cynnar y 19g, a ddaeth yn amlwg iawn erbyn yr 1830au.[1] Yn y blynyddoedd yn dilyn Newyn Mawr Iwerddon yn 1845 dechreuodd cannoedd o deuluoedd Gwyddelig gyrraedd Caerdydd, yn aml yn teithio fel 'balast' ar longau o Cork a Waterford.[2] Roedden nhw fel arfer yn cael eu cartrefu yn Newtown, oedd wedi ei ehangu yn bwrpasol gan Marcwis Biwt i gartrefu gweithwyr oedd yn adeiladu dociau newydd Caerdydd.[3] Yn 1850 fe agorwyd Rheilffordd De Cymru (o Abertawe i Cas-gwent),[4] gan wahanu Adamsdown o Newtown. Daeth Newtown i gynnwys chwe stryd - Stryd Ellen, Gogledd Stryd Williams, Stryd Pendoylan a Maes Pendoylan, Stryd Roland, Stryd Rosemary – yn uniongyrchol i'r de o'r rheilffordd ac i'r de o Stryd Tyndall. Roedd pont droed i gael mynediad dros y rheilffordd.[5]

Daeth Newtown i'w adnabod fel 'Iwerddon Fach'.[2]

Digwyddodd terfysg hiliol cyntaf Caerdydd yn Newtown yn 1848. Roedd Cymro, Thomas Lewis, wedi ei drywanu i farwolaeth gan Wyddel, John Connors. Cymerodd torf o Gymry y ddeddf i'w dwylo eu hun gan fynd i Newtown i ddod o hyd i'r troseddwr. Yn angladd Lewis, roedd yn rhaid i Wyddelod gyda bwyellgeibiau sefyll a gearchod rhag i fwy o drwbl godi.[6]

Erbyn y 1930au roedd Newtown wedi dirywio i gyflwr slym.[7]

Yn y pen draw, yn 1966 fe brynwyd y tai drwy orfodaeth gyda disgwyliad o ail-ddatblygu hen ardal y dociau. Fe ddymchwelwyd y tai yn 1970.[3]

Daeth y safle yn stad fasnach. Fe ddymchwelwyd hwn yn 2010. Roedd disgwyl i'r ardal gael ei ail-ddatblygu gyda defnydd cymysg, i dai newydd a swyddfeydd.[7]

Fe ddymchwelwyd un o weddillion gwreiddiol olaf un Newtown, ty tafarn The Vulcan ar Stryd Adam (yn wreiddiol Whitmore Lane, Newtown),[8] yn 2012 a mae cynlluniau i'w ail-adeiladu yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.[9]

Pobl nodedig

[golygu | golygu cod]

Gardd goffa

[golygu | golygu cod]

Yn 1999 rhoddodd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd £10,000 tuag at goffhau cymuned Newtown. Agorwyd Gardd Goffa Newtown ar 20 Mawrth 2005. Mae'n cynnwys cerflun 'gwaith cwlwm' mawr mewn cerrig a wnaed gan yr artist lleol David Mackie.[10]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. William Rees, Cardiff: A History of the City, The Corporation of the City of Cardiff, 2nd edition (1969), pp. 298–299 (also maps and commentary facing p. 277)
  2. 1 2 David Morgan, The Cardiff Story: A History of the City from the Earliest Times to the Present, Hackman Ltd, Tonypandy (1991), p.164
  3. 1 2 History Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback, Newtown Association webpages.
  4. William Rees, Cardiff: A History of the City, The Corporation of the City of Cardiff, 2nd edition (1969), pp. 268–269
  5. Streets Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback, Newtown Association webpages.
  6. David Morgan, The Cardiff Story: A History of the City from the Earliest Times to the Present, Hackman Ltd, Tonypandy (1991), p.179
  7. 1 2 Stephen Fisk, Cardiff’s Lost Communities Archifwyd 15 Ebrill 2011 yn y Peiriant Wayback, WalesOnline, 1 Ebrill 2010.
  8. James Preston, "Cardiff's oldest pub looks set to close" Archifwyd 2013-10-23 yn y Peiriant Wayback, The Cardiffian, 20 Mawrth 2012
  9. "Plans to rebuild Cardiff's Vulcan pub at St Fagans submitted", BBC News, 28 Gorffennaf 2013.
  10. Memorial Garden[dolen farw], Newtown Association webpages. Adalwyd 17 Ionawr 2012.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]