Tafarn-sbeit

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Tavernspite)
Jump to navigation Jump to search
Tafarn-sbeit
Math pentref, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Benfro Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.8°N 4.6°W Edit this on Wikidata

Pentref yn Sir Benfro yw Tafarn-sbeit[1] (Seisnigiad: Tavernspite). Ymddengys mai o 'Tafarn Ysbyty' y tardda'r enw, sef adeilad a gynigiai letygarwch i bererinion ar eu ffordd i Dŷ Ddewi. Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain Sir Benfro am y ffin â Sir Gaerfyrddin, ar groesffordd wledig tua hanner ffordd rhwng Arberth (Sir Benfro) i'r gorllewin a Sanclêr (Sir Gaerfyrddin) i'r dwyrain.

Pentref diolchgar yw Tafarn-sbeit yn ôl pob tebyg - pentref heb gofeb i'r Rhyfel Byd Cyntaf, lle ddaeth pob milwr yn ôl o'r rhyfel.[2]

Ceir Ysgol Gynradd Gymunedol Tafarnspite yn y pentref.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 24 Mehefin 2020
  2. "Could Tavernspite be a "Thankful Village"?". Tenby Observer. 9 Rhagfyr 2011. Cyrchwyd 8 Tachwedd 2018.
  3. Ysgol Tafarnspite


WalesPembrokeshire.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato