Cronfeydd dŵr Cymru
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cronfeydd Cymru)
Jump to navigation
Jump to search
Mae nifer o gronfeydd dŵr wedi eu hadeiladu yng Nghymru dros y blynyddoedd, yn enwedig yn yr 20g. Mae'r ffaith bod hi'n bwrw cymaint o law yn un rheswm am hynny. Codwyd rhai cronfeydd at wasanaeth cymunedau lleol yng Nghymru ond codwyd eraill, yn cynnwys rhai o'r rhai mwyaf, at gyflenwi dŵr i drefi poblog Lloegr ac yn aml yr oedd yna wrthwynebiad cryf a gwleidyddol yn erbyn eu hadeiladu.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
- 1880au Creu Llyn Llanwddyn
- 1904 Agor cronfeydd Cwm Elan
- 1907 Creu Cronfa Alwen ar Fynydd Hiraethog.
- 1923 Cynllun i foddi Dyffryn Ceiriog
- 1952 Agor argae Claerwen
- 1965 Boddi pentref Capel Celyn a chwm Tryweryn
- 1965 agor argae Llyn Clywedog
Rhestr o gronfeydd Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]
Dyma restr o brif gronfeydd dŵr Cymru, yn llynnoedd naturiol ac artiffisial, yn nhrefn yr wyddor:
- Llyn Alaw (Ynys Môn)
- Cronfa Aled Isaf (Sir Conwy)
- Cronfa Alwen (Sir Conwy)
- Llyn Anafon (Gwynedd)
- Llyn Arenig Fawr (Gwynedd)
- Cronfa'r Bannau (Powys)
- Llyn Brenig (Sir Conwy/Sir Ddinbych)
- Llyn Brianne (Sir Gaerfyrddin)
- Cronfa Cantref (Powys)
- Llyn Cefni (Ynys Môn)
- Llyn Celyn (Gwynedd)
- Claerwen (Powys)
- Llyn Clywedog (Powys)
- Llyn Conwy (Sir Conwy)
- Llyn Crafnant (Sir Conwy)
- Cronfa Crai (Powys)
- Llyn Craigypistyll (Ceredigion)
- Llyn Cwellyn (Gwynedd)
- Cronfa Dinas (Ceredigion)
- Cronfa Dolwen (Sir Conwy)
- Llyn Dulyn (Sir Conwy)
- Llyn Dwfn (Ceredigion)
- Eglwys Nunydd (Castell Nedd Port Talbot)
- Llyn Frongoch (Ceredigion)
- Ffynnon Llugwy (Sir Conwy)
- Llyn Llanwddyn (Llyn Efyrnwy) (Powys)
- Cronfa Llwyn-onn (Powys/Merthyr Tudful)
- Llyn Llygad Rheidol (Ceredigion)
- Marchlyn Mawr (Gwynedd)
- Cronfa Nant-y-Moch (Ceredigion)
- Cronfa Pontsticill (Powys/Merthyr Tudful)
- Llyn Shotwick (Sir y Fflint)
- Llyn Teifi (Ceredigion)
- Llyn Trawsfynydd (Gwynedd)
- Llyn Wysg (Sir Gaerfyrddin)
- Cronfa Ystradfellte (Powys)