Llyn Clywedog
![]() | |
Math | cronfa ddŵr ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Trefeglwys, Llanidloes Allanol ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.4861°N 3.625°W ![]() |
Rheolir gan | Severn Trent ![]() |
![]() | |
- Erthygl ar y gronfa ddŵr ym Mhowys yw hon; ceir cronfa o'r un enw yn Sir Ddinbych.
Cronfa ddŵr ar gyfer canoldir lloegr a Birmingham yw Llyn Clywedog a godwyd ym Mhowys rhwng tua 1963 a 1967. Saif ar Afon Clywedog, afon sy'n llifo i mewn i Afon Hafren, ychydig i'r gogledd-orllewin o dref Llanidloes. Agorwyd y gronfa yn 1967.
Crewyd y llyn trwy adeiladu argae ar draws afon Clywedog; mae'r argae yn 72 medr o uchder a 230 medr o hyd. Dechreuwyd ei adeiladu yn 1963, gyda'r bwriad o reoli llif afon Hafren, i osgoi llifogydd yn y gaeaf ac i gadw'r llif rhag mynd yn rhy isel yn yr haf.
Ymhlith y ffermydd a fodwyd roedd: Aber-biga, Gronwen, Eldid, Croes-isaf, Grodir, Coppice-llwyd (Cwm-pwll-llwyd), Llwybr-y-madyn, Ystrad-hynod, Merllyn a Draws-y-nant. Roedd yma olion o'r [[Oes Efydd[[ gan gynnwys safle gladdu a maen hir nodedig.[1]
Bu cryn wrthwynebiad i'r cynllun, gan ei fod yn golygu boddi rhan helaeth o Ddyffryn Clywedog.
Bomio
[golygu | golygu cod]Dechreuodd ymgyrch fomio Mudiad Amddiffyn Cymru, gyda bom yn argae Clywedog yn 1966. Byddai'r ymgyrch yn parhau am dair blynedd arall, tan iJohn Jenkins, arweinydd Mudiad Amddiffyn Cymru gael ei arestio. Ataliwyd y gwaith o godi'r argae am ddeufis o ganlyniad i'r ffrwydrad.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ celticleague.net; adalwyd 22 Mai 2025.
- ↑ bbc.com; gwefan y BBC; adalwyd 22 Mai 2025.