Llyn Tecwyn Uchaf

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llyn Tecwyn Uchaf
Math Argae Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1896 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Uwch y môr 509 Troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.924°N 4.023569°W Edit this on Wikidata

Llyn ar lethrau'r Rhinogydd yng Ngwynedd yw Llyn Tecwyn Uchaf. Saif i'r dwyrain o dref Penrhyndeudraeth ym mhlwyf Llandecwyn, 509 troedfedd uwch lefel y môr.

Adeiladwyd argae yma yn 1896 ac un arall yn 1920 i godi lefel y dŵr; mae'r llyn yn cyflenwi dŵr i ardal Penrhyndeudraeth, Porthmadog a Maentwrog. Mae'n lyn gweddol fawr, gydag arwynebedd o 31 acer. Mae'r nant sy'n llifo o'r llyn yn ymuno ag Afon Dwyryd. Ceir pysgota am frithyll yn y llyn.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Geraint Roberts, The lakes of Eryri (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1995). ISBN 0-863811-338-0