Cronfa Llwyn-onn
Gwedd
| Math | cronfa ddŵr |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.797222°N 3.440833°W |
| Rheolir gan | Dŵr Cymru |
![]() | |
Cronfa ddŵr yn ne Cymru yw Cronfa Llwyn-onn, a leolir yn ardal y Fforest Fawr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r rhan ogleddol yn gorwedd ym Mhowys a'r rhan ddeheuol ym Mwrdeisdref Sirol Merthyr Tudful.
Mae'r llyn 150 erw yn rhan o gyfres o dair cronfa a godwyd ar Afon Taf Fawr ger ei tharddle i gyflenwi dŵr i gymoedd De Cymru. Yn uwch i fyny'r afon ceir Cronfa'r Bannau a Chronfa Cantref; Cronfa Llwyn-onn yw'r isaf a'r mwyaf o'r tri llyn hyn. Rhed y ffordd A470 heibio i'r llyn.
