Neidio i'r cynnwys

Aled Wyn Davies

Oddi ar Wicipedia
Aled Wyn Davies
Ganwyd3 Awst 1974 Edit this on Wikidata
Llanbryn-mair Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr, ffermwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
PriodKarina Wyn Dafis Edit this on Wikidata

Tenor o Gymru ydy Aled Wyn Davies (ganwyd 3 Awst 1974) o Lanbrynmair, ym Maldwyn, Powys. Dechreuodd ei yrfa fel canwr gwerin ond erbyn hyn mae'n unawdydd clasurol sy'n teithio'r byd yn ogystal ac amaethu o ddydd y ddydd ar y fferm deuluol gartref. Ef yw aelod newydd Tri Tenor Cymru gyda Rhys Meirion ac Aled Hall. Cyhoeddwyd ei hunangofiant O'r Gwlân i'r Gân gan Y Lolfa ym mis Hydref 2020.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Cychwynnodd ei yrfa fel canwr gwerin, ond ar ôl ennill y prif wobrau yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol, dechreuodd dorri ei gwys ei hun fel tenor. Erbyn hyn, mae wedi ymddangos ar lwyfannau byd eang, radio a theledu.

Mae wedi ennill yr unawd tenor deirgwaith yn olynol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2004, 2005 a 2006, ac yna, yn 2006, cipiodd y Rhuban Glas ym Mhrifwyl Abertawe.

Fo oedd "Canwr y Flwyddyn" yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, 2005 a'r enillydd y Rhuban Glas yng Ngŵyl Fawr Aberteifi yn 2006. Yn 2005 cafodd gyfle gan hyrwyddwr cyngherddau clasurol "Raymond Gubbay Ltd." i berfformio mewn cyngherddau Last Night of the Proms gan ganu mewn rhai o brif neuaddau Lloegr megis y Symphony Hall, Birmingham a'r Bridgewater Hall, Manceinion. Ym mis Awst 2007, cafodd wahoddiad gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru i berfformio yn un o gyngherddau'r wyl, gan rannu llwyfan gyda Chôr yr Eisteddfod, Iona Jones, Iwan Wyn Parry ac Ensemble Cymru mewn noson o waith Oratorio.

Yn y 90au crwydrodd Aled y wlad pan fu'n rhan o'r grŵp poblogaidd Traed dan Bwrdd yn cymryd rhan mewn cyngherddau a nosweithiau llawen. Trafeiliodd y grŵp dramor yn 2001 pan ddaeth gwahoddiad i berfformio mewn pum cyngerdd yng Ngwlad y Basg. Bu Aled hefyd yn aelod o Gwmni Theatr Maldwyn. Treuliodd amser fel un o'r corws i ddechrau, ac yna yn 2003 yn y sioe Ann! chwaraeodd un o'r rhannau blaenllaw, sef John Hughes, ffrind Ann Griffiths, Dolwar Fach.

Canodd ym mhrif neuaddau Seland Newydd ac Awstralia pan ymunodd â Chôr Godre'r Aran fel eu hunawdydd gwadd ar eu taith gerddorol yn 2003. Mae wedi canu ddwywaith yng nghyngherddau Gŵyl Ddewi Capel Cymraeg Los Angeles ac yn ystod y ddwy flynedd diwethaf mae wedi perfformio ar fordeithiau i'r cwmni Swan Hellenic. Ym mis Tachwedd 2007 treuliodd dair wythnos yn yr Ariannin a Brasil pan fu'n unawdydd gwadd i Gôr Godre'r Aran mewn taith gerddorol i Batagonia.

Yng ngwanwyn 2008 perfformiodd Aled mewn cyngherddau Gŵyl Ddewi yn Ne Affrica gyda Chôr Meibion Cymru De Affrica.

Ym mis Awst 2008 perfformiodd mewn cyngherddau yng ngŵyl Gymraeg Gogledd America a chafodd eu chynnal yn Chicago, UDA. Dychwelodd i'r ŵyl yn 2011 fel unawdydd gwâdd gyda Hogia'r Ddwylan pan fu'r ŵyl yn Cleveland, Ohio.

Yn Chwefror, 2015 derbynniodd wahoddiad arbennig iawn i gyd-ganu y ddeuawd enwog "Y Pysgotwyr Perl" (Pearl Fishers Duet) gyda Bryn Terfel mewn cyngerdd arbennig yn y Tabernacl ym Machynlleth.

Erbyn hyn, Aled yw aelod newydd Tri Tenor Cymru gyda Rhys Meirion ac Aled Hall wedi ymadawiad Alun Rhys-Jenkins ddiwedd 2014.

Disgograffeg

[golygu | golygu cod]

Gwobrau ac anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.