Cronfa Llandegfedd
![]() | |
Math | cronfa ddŵr ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.692903°N 2.976767°W ![]() |
Rheolir gan | Dŵr Cymru ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Cronfa ddŵr yn ne-ddwyrain Cymru yw Cronfa Llandegfedd. Fe'i lleolir 13 km i'r gogledd o ddinas Casnewydd rhwng pentrefi Pant-teg a Llandegfedd ger y ffin sirol rhwng Torfaen a Sir Fynwy, gyda'r rhan fwyaf o'r llyn 434 acer yn gorwedd yn Sir Fynwy. Mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Cafodd y gronfa ei hagor yn 1965. Ceir pysgota yn y llyn ac mae'n boblogaidd hefyd ar gyfer hwylio cychod.
Cadwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Cronfa Llandegfedd wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 01 Ionawr 1971 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 240.84 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.
Dynodwyd y safle ar sail ei fywyd gwyllt, er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd bywyd gwyllt fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.
Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 25 Rhagfyr 2013