Gweriniaeth Iwerddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn newid: pag:Irlande→pag:Irlanda |
B robot yn newid: se:Eire→se:Irlánda |
||
Llinell 370: | Llinell 370: | ||
[[scn:Irlanda]] |
[[scn:Irlanda]] |
||
[[sco:Republic o Ireland]] |
[[sco:Republic o Ireland]] |
||
[[se: |
[[se:Irlánda]] |
||
[[sh:Irska]] |
[[sh:Irska]] |
||
[[simple:Republic of Ireland]] |
[[simple:Republic of Ireland]] |
Fersiwn yn ôl 14:24, 20 Chwefror 2013
| |||||
Arwyddair: Dim | |||||
Anthem: Amhrán na bhFiann ("Cân y Milwr") | |||||
Prifddinas | Dulyn | ||||
Dinas fwyaf | Dulyn | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Gwyddeleg a Saesneg | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
• Arlywydd • Taoiseach |
Michael D. Higgins Enda Kenny | ||||
Annibyniaeth • Datganwyd • Cydnabuwyd |
o'r Deyrnas Unedig 21 Ionawr 1919 6 Rhagfyr 1922 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
70,273 km² (120fed) 2.0 | ||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2006 - Cyfrifiad 2006 - Dwysedd |
4,239,848 (121af) 4,234,925 60.3/km² (139fed) | ||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $167.9 biliwn (49fed) $34,100 (139fed) | ||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.946 (8fed) – uchel | ||||
Arian cyfred | Euro (€) (EUR )
| ||||
Cylchfa amser - Haf |
GMT (UTC0) IST (UTC+1) | ||||
Côd ISO y wlad | .ie | ||||
Côd ffôn | +353
|
Gweriniaeth ar ynys Iwerddon yw Gweriniaeth Iwerddon (Gwyddeleg: Poblacht na hÉireann, Saesneg: Republic of Ireland; yn swyddogol Éire neu Ireland). Dulyn yw prifddinas y weriniaeth. Mae'n cynnwys 26 o 32 sir Iwerddon.
Gelwir pennaeth y wladwriaeth yn 'Uachtarán' neu Arlywydd, ond y 'Taoiseach' ydyw pennaeth y llywodraeth neu'r Prif Weinidog. Nid yw'r wladwriaeth Wyddeleg yn defnyddio'r enw 'Gweriniaeth Iwerddon' i ddisgrifiio ei hunan o gwbl, mewn cytundebau rhyngwladwol a chyfansoddiadol Iwerddon (Éire, Ireland) yw'r enw a ddefnyddir.
Daearyddiaeth
- Prif: Daearyddiaeth Iwerddon
Yn fras, gellir disgrifio nodweddion daearyddol Iwerdon fel gwastadeddau eang yng nghanol yr ynys, gyda mynyddoedd gerllaw'r arfordir yn amgylchynu'r gwastadedd hwn. Y mynydd uchaf yw Carrauntoohil (Gwyddeleg: Corrán Tuathail), sy'n 1,041 medr (3,414 troedfedd) o uchder. Ceir nifer sylweddol o ynysoedd o amgylch yr arfordir, yn enwedig oddi ar yr arfordir gorllewinol.
Yr afon fwyaf ar yr ynys yw Afon Shannon, sy'n 259 km (161 millir) o hyd, gydag aber sy'n 113 km (70 milltir) arall o hyd. Mae'n llifo i Fôr Iwerydd ychydig i'r de o ddinas Limerick. Ceir hefyd nifer o lynnoedd sylweddol o faint.
Hanes
Mae'n anodd penderfynu pryd yn union y sefydlwyd 'Gweriniaeth Iwerddon'. Yn 1921 llofnodwyd Cytundeb rhwng cynrychiolwyr y Weriniaeth Wyddelig (Gwyddeleg: Saorstát Éireann) a chynrychiolwyr Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon yn sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (Saesneg: Irish Freestate), roedd yr enw Saesneg, Irish Freestate, yn gyfieithiad llythrennol o enw Gwyddeleg y Weriniaeth Wyddelig, ond o dan y cytundeb hwn, roedd y wladwriaeth newydd yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig ac roedd Brenin Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon i barhau fel brenin Iwerddon. Arweinodd hyn at ryfel cartref a gollwyd gan y gweriniaethwyr a sefydlwyd gwladwriaeth Wyddelig gyda Brenin Prydain Fawr ac Iwerddon yn frenin arni.
Cyfansoddiad 1937
Yn 1937 cynhaliwyd refferendwm i sefydlu cyfansoddiad newydd i Iwerddon, y cyfansoddiad sydd mewn grym o hyd. Nid oedd unrhwy son yn y cyfansoddiad hwn am na brenin na chynrychiolydd Brenhinol yn Iwerddon, er ni fu i'r cyfansoddiad ddweud bod Iwerddon bellach yn wladwriaeth nac yn hollol annibynnol. I bob pwrpas roedd y cysylltiad rhwng y Deyrnas Unedig a'r Wladwriaeth Rydd ar ben. O dan y cyfansoddiad hwn Iwerddon (Éire, Ireland) oedd enw'r wlad, nid y Weriniaeth Rydd, a dyma'r sefyllfa gyfreithiol hyd heddiw.
Deddf Gweriniaeth Iwerddon
Yn 1949 pasiwyd Deddf gan Senedd Iwerddon o'r enw 'Deddf Gweriniaeth Iwerddon' a ddatganodd yn glir bod Iwerddon yn Weriniaeth. Ni newidiodd y Ddeddf hon gyfansoddiad 1937 ac mewn gwirionedd nid oedd ynddi ond datganiad clir a diamwys o'r sefyllfa fel y roedd mewn gwirionedd.
Y Werinaeth Wyddelig a Gweriniaeth Iwerddon
Nid yw'r ddau derm hyn yn gyfystyr â'i gilydd. Defyddir yr enw 'y Weriniaeth Wyddelig' (Saesneg: The Irish Republic) i gyfeirio at y wladwriaeth chwildroadol a sefydlwyd yn 1916 gyda gwrthryfel y Pasg yn Nulyn a mannau eraill yn Iwerddon. Dyma'r wladwriaeth a anfonodd gynrychiolwyr i negodi gyda chynrychiolwyr Prydain Fawr ac Iwerddon yn 1921. Gwrthododd nifer helaeth o'r boblogaeth a'r Dáil (Senedd Iwerddon) dderbyn bod y wladwriaeth hon wedi dod i ben pan sefydlwyd y 'Wladwriaeth Rydd' ac mae rhai'n mynnu bod y wladwriaeth hon yn parhau i fodoli'n de juré (yn ôl y gyfraith o hyd). Dyma'r wladwriaeth a roddodd Byddin Weriniaethol Iwerddon ei theyrngarwch iddi tan yn ddiweddar iawn, ac y mae rhai carfannau 'milwriaethus' yn honni bod y wladwriaeth hon yn bodoli o hyd, er yn guddiedig, a bod pob gwladwriaeth arall (Éire/Ireland a Gogledd Iwerddon) yn anghyfreithlon.
Defnyddir yr enw 'Gweriniaeth Iwerddon' (Saesneg: The Republic of Ireland) ar lafar gwlad i gyfeirio at Éire/Iwerddon wedi pasio Deddf Gweriniaeth Iwerddon.
Siroedd
- Prif: Siroedd Iwerddon
Yn draddodiadol, rhennir ynys Iwerddon yn 32 o siroedd. O'r rhain, mae 26 yng Ngweriniaeth Iwerddon, a chwech yng Ngogledd Iwerddon.
Map o'r siroedd
Sylwer nad yw'r siroedd hyn yn cyfateb ym mhob achos i'r unedau gweinyddol presennol.
Gweriniaeth Iwerddon
|
Gogledd Iwerddon
|
Rhestr yn nhrefn yr wyddor
Nodyn: * - Mae'r hen Swydd Ddulyn yn awr yn dair swydd newydd: (i) Contae Átha Cliath Theas / County of South Dublin; (ii) Contae Fine Gall / County of Fingal; (iii) Contae Dún Laoghaire–Ráth an Dúin / County of Dún Laoghaire-Rathdown.
Iaith a diwylliant
Economi
|