Monaghan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Amgueddfa Monaghan neu 'Muineachán' mewn Gwyddeleg.

Tref yn Iwerddon yw Monaghan (Saesneg) neu Muineachán (Gwyddeleg) sy'n dref sirol Swydd Monaghan yn nhalaith Ulster, Gweriniaeth Iwerddon. Fe'i lleolir ar y briffordd N2 sy'n ei chysylltu gyda Dulyn i'r de a gyda Derry a Letterkenny i'r gogledd. Yng nghyfrifiad 2006 bu 7,811 o bobl yn byw ynddo (yn cynnwys yr ardal wledig o'i chwmpas).

Ceir amgueddfa hanes ac archaeoleg yn y dref a leolir yn yr hen lys sirol. Ymhlith y cynnwys ceir croes Geltaidd An Cochar, gwaith arian sy'n dyddio o'r 12g. Mae gan Sinn Fein amgueddfa yn Stryd Baile Atha Cliath am hanes llenyddiaeth a cherddoriaeth sy'n ymwneud â chenedlaetholdeb Gwyddelig.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Clive James, Iwerddon (Gwasg Carreg Gwalch, 1993), tud. 173.
Flag of Ireland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.