Carlow
Jump to navigation
Jump to search
Tref yn Iwerddon yw Carlow (Gwyddeleg: Ceatharlach), sy'n ganolfan weinyddol Swydd Carlow yn nhalaith Leinster, Gweriniaeth Iwerddon. Fe'i lleolir tua 55 milltir i'r de-orllewin o'r brifddinas, Dulyn ar lan Afon Barrow (An Bhearu).
Ceir eglwys gadeiriol yn y dref a gerllaw mae Castell Carlow, a godwyd yn y 13g gan William Marshal, mab-yng-nhyfraith "Strongbow" (Richard Fitz Gilbert de Clare, 2il Iarll Penfro).