Richard Fitz Gilbert de Clare, 2il Iarll Penfro

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Priodas Aoife a Strongbow (1854) gan Daniel Maclise, llun rhamantus o briodas Aoife MacMurrough a Richard de Clare ymysg adfeilion Waterford.

Roedd Richard Fitz Gilbert de Clare, 2il Iarll Penfro (1130 - 20 Ebrill 1176), a elwid hefyd yn Strongbow, yn un o arglwyddi Normanaidd Cymru a fu a rhan flaenllaw yng nghoncwest Iwerddon gan y Normaniaid.

Ganed Richard yn Tonbridge, Swydd Caint yn Lloegr, yn fab i Gilbert de Clare, Iarll 1af Penfro ac Isabel de Beaumont. Bu farw ei dad pan oedd tua 18 oed, ac etifeddodd y teitl Iarll Penfro, ond ymddengys ei fod wedi colli'r teitl erbyn 1168.

Yn 1168, cafodd Diarmuid Mac Murchadha, brenin Leinster, ei yrru o'i deyrnas gan Tairrdelbach mac Ruaidri Ua Conchobair, Uchel Frenin Iwerddon gyda chymorth Tigernán Ua Ruairc. Aeth Diarmuid i Loegr i ofyn cymorth y brenin Henri II.

Nid oedd Henri yn barod i'w gynorthwyo yn bersonol, ond gyrrodd ef at Richard ac eraill o farwniaid y Mers. Roeddynt hwy'n awyddus i gymeryd rhan yn yr ymgyrch gan fod grym cynyddol Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth yn golygu nad oedd lawer o obaith iddynt ychwanegu at eu meddiannau yng Nghymru. Aeth y rhan gyntaf o'r fyddin drosodd i Iwerddon yn 1169, ac ymunodd Richard a hwy yn Awst 1170. Cipiwyd Wexford, Waterford a Dulyn, a'r diwrnod ar ôl cipio Waterford, priododd Richard ferch MacMorrough, Aoife o Leinster.

Erbyn hyn roedd Henri II yn pryderu fod Richard yn bwriadu sefydlu teyrnas Normanaidd annibynnol yn Iwerddon, a gorchymynodd i'r fyddin ddychwelyd erbyn Pasg 1171. Ym mis Mai y flwyddyn honno bu farw Diarmuid, a hawliodd Richard orsedd Leinster. Bu gwrthryfel yn ei erbyn, a bu raid iddo ofyn i Henri II am gymorth. Daeth Henri a byddin i Iwerddon ym mis Hydref 1172, gan gymeryd y rhan fwyaf o'r deyrnas iddo'i hun; dim ond Kildare a adawyd i Richard.

Bu Richard yn ymladd dros Henri yn Normandi yn 1173, pan wrthryfelodd meibion Henri yn ei erbyn. Fel gwobr, dychwelwyd Leinster iddo a gwnaed ef yn llywodraethwr Iwerddon. Bu raid iddo wynebu nifer o wrthryfeloedd cyn iddo farw yn 1176. Clawddwyd ef yn Eglwys Crist, Dulyn, lle mae ei fedd i'w weld. Mae Gerallt Gymro yn ei ddisgrifio fel gŵr tal, gwallt golau, doeth ei gyngor a phoblogaidd gyda'i filwyr. Gadawodd fab, Gilbert, a fu farw yn 1185, a merch Isabel, a briododd William Marshal. O ganlyniad i'r briodas daeth William Marshal yn Iarll Penfro.

Roedd llawer o filwyr Cymreig ym myddin Richard, a dywedir mai dyma pam mae cyfenwau megis "Walsh" a "Wogan" yn gyffredin yn Iwerddon.